Corau ar y llwyfan
8 Rhag 2023

Heddiw (8 Rhagfyr), cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol ei rhaglen gystadlu gychwynnol ar gyfer y Brifwyl yn ardal Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn trafodaethau, mewnbwn ac ymateb mewnol gan ein pwyllgorau a’n panelau lleol a chenedlaethol, ynghyd â sylwadau gan gystadleuwyr, beirniaid a’r cyhoedd dros y misoedd diwethaf.

Y bwriad yn 2024 yw cynnal rhaglen gystadlu sy’n uchelgeisiol, yn llifo ac yn gweithio tuag at uchafbwynt naturiol a chlir ar ddiwedd yr wythnos.  Bydd prif gystadlaethau unigol pob adran yn cael eu cynnal ar y dydd Sadwrn olaf, gan greu diweddglo arbennig i’r wythnos.

Cynhelir cystadleuaeth gorawl newydd sbon ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Sul, sef cystadleuaeth y côr newydd i’r Eisteddfod, sy’n rhoi pwyslais ar annog corau cymunedol lleol i gystadlu’n genedlaethol am y tro cyntaf.  Yn sgil hyn, bydd cystadleuaeth y Côr Agored yn symud i slot newydd ddydd Mercher.

Bydd ymwelwyr yn cael blas o ganu corawl yn ddyddiol yn Rhondda Cynon Taf, gyda’r trefnwyr yn bwriadu rhaglennu cystadleuaeth gorawl ddyddiol ar lwyfan y Pafiliwn.  Bydd cystadleuaeth gorawl Eisteddfodau Cymru’n cychwyn y cyfan ddydd Sadwrn 3 Awst, fel rhan o gyfres o gystadlaethau sy’n dathlu’r berthynas bwysig rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol ac eisteddfodau lleol a rhanbarthol ar hyd a lled Cymru.

Mae’r cyfle i edrych o’r newydd ar siâp a ffurf y cystadlu wedi galluogi’r trefnwyr i sicrhau bod pawb ym mhob cystadleuaeth dorfol yn ymddangos ar lwyfan y prif bafiliwn, a hynny heb orfod cyflwyno rhagbrofion torfol yn unrhyw adran.  Y gobaith yw y bydd hyn yn denu nifer fawr o gystadleuwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt i fod yn rhan o’r ŵyl a gynhelir ym Mhontypridd fis Awst nesaf.

Bydd cyfleoedd arbennig ar gyfer cyn-enillwyr yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf, gydag amryw o berfformiadau a chomisiynau ar y gweill, gan sicrhau bod yr Eisteddfod yn parhau i ddatblygu a chefnogi’r rheini sydd wedi cystadlu’n unigol ar brif lwyfan Cymru.

Meddai Trystan Lewis, cadeirydd Pwyllgor Diwylliannol yr Eisteddfod Genedlaethol, “Mae’n bleser cychwyn ar y gwaith o gyhoeddi ein rhaglen gystadlu ar ei newydd wedd heddiw. Yn ddi-os, dyma’r newid mwyaf i’r rhaglen ers blynyddoedd lawer.  Rwy’n gobeithio’n arw y bydd ein cystadleuwyr a’n cynulleidfa’n gweld hwn fel datblygiad cyffrous, sy’n sicrhau lle’r cystadlu fel rhan greiddiol o’r ŵyl am flynyddoedd i ddod.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cynnig cyngor a barn wrth i ni ddatblygu’r rhaglen yn fewnol i gychwyn ac yna wrth i drafod ambell syniad yn ehangach.  Mae’r cyfle i wrando a gweithredu mewn ffordd newydd a gwahanol wedi ein galluogi ni i greu rhaglen sy’n llifo’n apelgar a deniadol, gan weithio’n well i’n cystadleuwyr yn ogystal â’r gynulleidfa yn y Pafiliwn.

“Dim ond diwrnod pob cystadleuaeth sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.  Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion yn y flwyddyn newydd, ac yna’n cyhoeddi’r rhaglen gyflawn ar ôl y dyddiad cau ar 1 Mai, unwaith mae niferoedd yr ymgeiswyr ym mhob cystadleuaeth wedi’u cadarnhau.

Bydd y porth cystadlu’n agor ar 16 Ionawr, fel rhan o ddathliadau 200 diwrnod i fynd tan Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, gyda’r wybodaeth i gyd ar gael ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru.  Cynhelir yr Eisteddfod o 3-10 Awst y flwyddyn nesaf.

Rhaglen Gystadlu Gychwynnol Eisteddfod 2024 (Rhagfyr 2023) Lawrlwytho