200 diwrnod i fynd
16 Ion 2024

Gyda dim ond 200 diwrnod i fynd tan gychwyn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, mae’r porth cystadlu wedi’i agor ar gyfer y cystadlaethau cyfansoddi a llwyfan

Mae rhagor o wybodaeth am batrwm cystadlu’r wythnos hefyd wedi’i gyhoeddi.

Mae cofrestru i gystadlu’n hawdd, ac mae cyngor, cymorth ynghyd â gwybodaeth ar sut i ddefnyddio’r system i gyd ar gael ar dudalen flaen gwefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru.  Y dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau cyfansoddi ac Y Lle Celf yw 1 Ebrill, ac mae’n rhaid cofrestru i gymryd rhan mewn cystadleuaeth lwyfan erbyn 1 Mai eleni.

Yn dilyn cyhoeddi’r rhaglen gystadlu gychwynnol ym mis Rhagfyr, mae heddiw’n gyfle i Helen Prosser, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, sôn mwy am rai o’r cynlluniau cyffrous sydd ar y gweill yn yr ŵyl a gynhelir ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd ym mis Awst.

Meddai, “Rydyn ni’n falch o ddatgan ei bod hi’n flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf!  Mae’r aros wedi bod yn hir ers y trafodaethau cychwynnol am ddod â’r ŵyl i’r ardal nol yn 2017.  Ac o’r diwedd, dim ond 200 diwrnod sydd i fynd tan i ni groesawu pawb atom ni i gael blas ar ddiwylliant y cymoedd a’n cenedl, mewn awyrgylch sy’n dathlu croeso twymgalon a chynnes yr ardal.

“Mae’r rhaglen gystadlu ar gyfer eleni’n gyffrous.  Rydyn ni eisoes wedi datgan bod gennym ni gystadleuaeth gorawl ar lwyfan y Pafiliwn bob dydd, a heddiw, rydyn ni’n cyhoeddi manylion cyfres o nosweithiau sy’n cyfuno cystadlu a chyfleoedd i fwynhau perfformiadau gan gyn-enillwyr ac artistiaid yn ystod yr wythnos. 

“Bydd hyn yn creu ffocws penodol i nosweithiau, gyda’r cynlluniau’n cynnwys noson werin, noson gorawl, a noson o berfformiadau a chystadlu gan bobl ifanc.  Mae cystadlu wedi bod yn rhan greiddiol o’r holl drafodaethau lleol a chenedlaethol wrth i ni feddwl am sut Eisteddfod fydd Prifwyl Rhondda Cynon Taf.  Mae’n wych rhannu rhagor o wybodaeth gyda phawb – ac mae mwy o gyhoeddiadau cyffrous i ddod dros y misoedd nesaf.

“Rydyn ni hefyd yn falch o gyhoeddi manylion cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni, ynghyd â’r ffurflen enwebu ar gyfer Medal Goffa Syr TH Parry-Williams er clod, a’r Fedal Wyddoniaeth.  Noddir Dysgwr y Flwyddyn a Medal Syr TH Parry-Williams, gan Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf, ac Addysgu Cymru yw noddwyr y Fedal Wyddoniaeth eleni.

“1 Ebrill yw’r dyddiad cau ar gyfer y rhain, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld llu o gystadleuwyr ac enwebai ar gyfer y gwobrau pwysig yma, sy’n ddathliad o gyfraniadau pwysig mewn meysydd sydd mor allweddol i ni fel cenedl.

“Dim ond un neges arall sydd gen i a chriw Rhondda Cynon Taf.  Dewch i gystadlu ac ymuno â’r hwyl.  Rydyn ni’n edrych ymlaen am wythnos i’w chofio a’i thrysori am byth. Dewch i fod yn rhan o’n gŵyl genedlaethol yn ein hardal ni yn 2024.”

Bydd y porth cystadlu ar agor o 18:00 ddydd Mawrth 16 Ionawr.  Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd o 3-10 Awst. Am ragor o wybodaeth ac i gystadlu ewch i www.eisteddfod.cymru.