Ddydd Sadwrn 17 Mai, byddwn yn dathlu fod yr Eisteddfod yn dod i ardal y Garreg Las o 1-8 Awst 2026, gyda digwyddiad arbennig yn Arberth.
Byddwn yn ymuno gyda Gorsedd Cymru i gynnal gorymdaith liwgar a chyfeillgar yn yr ardal, gyda chynrychiolwyr dinesig, cymunedol ac ysgolion lleol.
Mae croeso mawr i grwpiau mawr a bach i ymuno gyda ni - roedd dros 400 o bobl yn gorymdeithio yng Ngŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam y llynedd!
Mae’r Eisteddfod yn ŵyl liwgar a chyfeillgar, ac rydyn ni am i’n gorymdaith adlewyrchu hynny, ac felly rydyn ni’n annog grwpiau i baratoi baneri i’w cario wrth gerdded.
Cysylltwch os fyddech chi’n hoffi i un o’r tîm alw draw i sgwrsio gyda'ch grwp, ysgol neu gymdeithas am y Cyhoeddi neu’r Eisteddfod. Ebostiwch ni am ragor o fanylion, gwyb@eisteddfod.cymru.
Cofrestrwch i gymryd rhan yn yr orymdaith yma.
Yn ogystal â'r Cyhoeddi, cynhelir Eisteddfod Llandudoch, ddydd Sadwrn 17 Mai, a byddwn wedi gorffen yn Arberth mewn da bryd i bawb fynd draw i gefnogi'r eisteddfod yn lleol.
Manylion llawn i ddilyn.