Cyhoeddi Rhondda Cynon Taf
18 Ion 2024

Cynhelir Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ymhen 100 diwrnod, a hynny ddydd Sadwrn 27 Ebrill eleni

Mae’r diwrnod yn gyfle pwysig i’r ardal groesawu’r Eisteddfod, ac i’r Brifwyl groesawu trigolion lleol i’r Eisteddfod.

Wrth nodi’r dyddiad ar gyfer y Cyhoeddi, mae’r trefnwyr hefyd wedi lansio apêl am wirfoddolwyr ar y dydd, ynghyd â’r cyfle i ysgolion, grwpiau a chymdeithasau gofrestru i fod yn rhan o’r orymdaith gymunedol gyda chynrychiolwyr dinesig, cymunedol ac ysgolion lleol, yn ymuno gyda Gorsedd Cymru i groesawu’r Eisteddfod i’r fro.

Prif amcan y Cyhoeddi yw cyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd, ac yn ystod y seremoni eleni, Llinos Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol fydd yn cael y fraint o wneud hynny.  Gyda 100 diwrnod i fynd tan y seremoni, mae modd gwneud cais i gyflwyno un o’r prif wobrau yn yr ŵyl, gan gynnwys y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith, ynghyd ag anrhydeddau megis Gwobr Goffa Syr TH Parry-Williams a’r Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg, ac mae’r wybodaeth i gyd ar gael ar wefan yr Eisteddfod.

Bydd y rhestr lawn o wobrau sydd ar gael i’w noddi ar-lein erbyn mis Chwefror, gyda’r rhoddwyr i gyd yn cael eu nodi yn y Rhestr Testunau, sydd wedi’i drafod yn eang gan bwyllgorau lleol a chenedlaethol yr ŵyl erbyn hyn.

Mae cyfle o hyd i ymuno gyda phwyllgorau lleol, gyda’r cronfeydd lleol yn arbennig yn parhau i chwilio am aelodau a gwirfoddolwyr i helpu gyda’r gwaith o godi ymwybyddiaeth ac arian er mwyn sicrhau wythnos i’w chofio yn ardal Wrecsam ymhen blwyddyn a hanner. 

Mae’r gweithgareddau wedi cychwyn yn barod mewn rhai ardaloedd, a thros y misoedd nesaf bydd cannoedd yn cael eu cynnal ar hyd a lled y sir, gyda’r cyfan oll yn hyrwyddo ein hiaith a’n diwylliant yn enw’r Eisteddfod, ac yn gyfle i drigolion lleol o bob oed ddod ynghyd i gymdeithasu.

Bydd rhagor o wybodaeth am y Cyhoeddi’n cael ei gyhoeddi’n fuan, ac mae gwybodaeth am bopeth arall i’w weld ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru/2025.  Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam o 2-9 Awst, 2025.