Ydych chi’n ystyried cael stondin yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni?
Ymunwch â ni i ddysgu mwy am y broses archebu ar gyfer yr ŵyl a gynhelir ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst.
Bydd stondinau ac unedau’n mynd ar werth ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru, ddydd Gwener 1 Mawrth, a dydd Mawrth 20 Chwefror, bydd y tîm yn cynnal dwy sesiwn galw draw yn adeilad y Lido, Parc Ynysangharad, er mwyn cynnig cyngor a chymorth i unrhyw un sy’n meddwl archebu presenoldeb yn yr Eisteddfod.
Dyma gyfle gwych i holi a chael rhagor o wybodaeth am y mathau o strwythurau a stondinau sydd ar gael i’w harchebu wrth i’r Eisteddfod ddychwelyd i Rhondda Cynon Taf am y tro cyntaf ers 1956.
Gyda’r Maes ar dir Parc Ynysangharad yng nghanol y dref, bydd yr ŵyl yn sicr o gael effaith bositif ac economi’r ardal i gyd. Mae’r trefnwyr yn hyderus y bydd y stondinau a’r unedau sydd ar gael yn gwerthu’n gyflym, gyda llawer iawn o diddordeb gan gwmnïau a busnesau lleol yn arbennig, sy’n awyddus i fod yn rhan o’r ŵyl.
Meddai Helen Prosser, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, “Cwta chwech mis sydd i fynd tan ein bod ni’n agor y Brifwyl ym Mharc Ynysangharad ac rydyn ni’n falch iawn bod y tîm yn dod draw i sgwrsio gyda busnesau lleol, fel eu bod nhw’n gwbl glir o’r camau sydd angen eu cymryd er mwyn llogi stondin ar y Maes eleni.
“Rydw i’n gobeithio y bydd busnesau lleol yn cymryd mantais o’r cyfle i ddod i glywed mwy am beth i’w ddisgwyl yn yr Eisteddfod, a bydd cyfle hefyd i drafod cyflwyno gwobrau, cyfrannu i’r Gronfa Leol a nawdd corfforaethol ar y dydd.
“Wrth gwrs, nid pawb fydd yn gallu galw draw i Barc Ynysangharad am sgwrs, ac felly mae dwy sesiwn ddigidol hefyd wedi’u trefnu ar blatfform Zoom yn ystod yr wythnos, ar gyfer stondinwyr o rannau eraill o’r dalgylch, gweddill Cymru a thu hwnt.”
Mae’n hawdd archebu lle yn y sesiynau ym Mharc Ynysangharad. Ewch i https://shorturl.at/fgquV i gofrestru. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau ar Zoom, a gellir archebu lle yn un o’r rhain ar dudalen Stondinau gwefan yr Eisteddfod, Stondinau ac unedau 2024 | Eisteddfod. Bydd modd lawr lwytho copi o’r llawlyfr stondinau a’r holl gostau o wefan yr Eisteddfod o 15 Chwefror ymlaen.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf o 3-10 Awst eleni. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.