Mae cyfnod cofrestru cystadlaethau Y Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf wedi agor, gyda gwobrau o hyd at £5,000 ar gael i artistiaid sy’n gweithio ar draw nifer o gyfryngau artistig
Mae nifer o gystadlaethau yn yr adran celfyddydau gweledol eleni, gyda cheisiadau ar gyfer yr Arddangosfa ar agor i unrhyw un a anwyd yng Nghymru, y ganwyd un o’u rheini yng Nghymru, sy’n siarad neu ysgrifennu Cymraeg neu sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru am y tair blynedd cyn 31 Awst 2024.
Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu eleni yw 1 Ebrill, ac mae tîm o ddetholwyr arbenigol wedi’u penodi i ystyried a dethol y gweithiau buddugol, ynghyd â’r rheini a fydd yn cael eu cynnwys yn Arddangosfa Agored Y Lle Celf ar Faes yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst.
Mae Y Lle Celf yn un o’r ardaloedd mwyaf poblogaidd ar Faes yr Eisteddfod yn flynyddol, gyda miloedd o ymwelwyr yn tyrru i weld gweithiau gan artistiaid newydd a chydnabyddedig wedi’u gosod mewn un arddangosfa gyffrous sy’n ddathliad o’r celfyddydau gweledol yng Nghymru heddiw.
Y cystadlaethau yn adran y celfyddydau gweledol eleni yw:
- Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, gyda replica o’r Fedal Aur a £5,000 yn wobr;
- Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio, gyda replica o’r Fedal Aur a £5,000 yn wobr;
- Ysgoloriaeth Artist Newydd i artist o dan 30 oed, gwerth £1,500;
- Medal Aur Norah Dunphy am Bensaernïaeth;
- Plac Teilyngdod, ar gyfer prosiect adnewyddu neu newydd yng Nghymru;
- Ysgoloriaeth Bensaernïaeth, gwerth £1,500.
Yn ogystal â’r gwobrau hyn, bydd cyfle hefyd i’r rheini sy’n cael eu dewis ar gyfer yr Arddangosfa Agored gael eu hystyried ar gyfer nifer o wobrau eraill yn ystod yr wythnos, sef:
- Gwobr Ysbryd y Frwydr: Gwobr Ifor Davies, am waith sy’n cyfleu ysbryd y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru, gyda gwobr o £600;
- Gwobr Tony Goble, am waith gan artist sy’n arddangos am y tro cyntaf, ac sy’n cyfleu ysbryd barddonol y genedl Geltaidd hon, gyda gwobr o £500;
- Gwobr Josef Herman: Dewis y Bobl, am y darn mwyaf poblogaidd o waith drwy bleidlais gyhoeddus, gyda gwobr o £500.
Ewch i Cystadlaethau Celfyddydau Gweledol | Eisteddfod am ragor o wybodaeth, i gystadlu ac ac i ymgeisio ar gyfer yr Arddangosfa Agored eleni, gan gwblhau eich cais cyn 1 Ebrill eleni.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst. Am ragor o wybodaeth, ewch ar-lein.