siopa ar y Maes
29 Chwef 2024

Gydag ychydig dros bum mis i fynd tan yr Eisteddfod, mae 1 Mawrth yn ddiwrnod pwysig yn y calendr wrth i’r stondinau, safleoedd carafán a sesiynau Cymdeithasau gael eu rhyddhau am y tro cyntaf

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Mharc Ynysangharad yng nghanol tref Pontypridd o 3-10 Awst eleni, a chyda’r ŵyl yn prysur agosáu, dyma’r cyfle i sicrhau eich bod chi’n rhan o’r wythnos fawr.

Am 10:00 fore Gwener, bydd ein safleoedd carafán a gwersylla’n mynd ar werth.  Bydd y maes carafanio o fewn cerdded i’r Maes ym Mhontypridd, gyda’r manylion llawn ar gael yn fuan.  Ewch i Maes Carafanau a Gwersylla / Caravan and Camping Site (ticketsolve.com) i archebu eich safle.

Hefyd am 10:00, bydd sesiynau Cymdeithasau’n mynd ar werth o wefan yr Eisteddfod, gyda’r ddolen ar dudalen flaen y safle, www.eisteddfod.cymru.  Unwaith eto eleni, mae gennym ni ddwy babell Cymdeithasau, gyda sesiynau Cymdeithasau 1 yn cychwyn ar yr awr a Cymdeithasau 2 yn cychwyn am hanner awr wedi’r awr. 

Am 14:00, bydd stondinau’n mynd ar werth, a bydd rhain i’w cael o wefan Ticketsolve eto, Stondinau Maes - Tradestands (ticketsolve.com). Rydyn ni wedi cyfarfod gyda thros 150 o sefydliadau, grwpiau a busnesau dros yr wythnos ddiwethaf mewn cyfres o sesiynau wyneb-yn-wyneb a Zoom i drafod y broses archebu, er mwyn cisrhau fod gan bawb yr wybodaeth angenrheidiol cyn gwneud cais.  Gellir lawrlwytho’r wybodaeth i gyd yma, Stondinau ac unedau 2024 | Eisteddfod.

Ddydd Mercher nesaf, 6 Mawrth, byddwn yn dathlu mai dim ond 150 diwrnod sydd i fynd tan yr Eisteddfod ac fel rhan o hyn byddwn yn lansio ein hymgyrch gwirfoddoli ar gyfer yr ŵyl.  Bydd ein ffurflen gwirfoddoli’n ymddangosar dudalen flaen y wefan.  Yn 2023, llwyddwyd i lenwi dros 3,000 o shifftiau gwirfoddoli’n ystod yr wythnos, ac mae’r trefnwyr yn gobeithio efelychu’r llwyddiant yma’n Rhondda Cynon Taf eleni.

Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru