£350,000 yn ychwanegol i'r Eisteddfod gynnig mynediad am ddim a thalebau bwyd i drigolion lleol cymwys gan Lywodraeth Cymru
Heddiw (13 Mawrth), cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, gyllid ychwanegol o £350,000 i’r Eisteddfod er mwyn galluogi unigolion a theuluoedd o gartrefi incwm is yn y dalgylch i fynychu’r brifwyl yn Rhondda Cynon Taf eleni.
Drwy’r cynllun hwn bydd hyd at 18,400 o drigolion lleol cymwys yn cael mynediad am ddim a thalebau bwyd i ymweld â’r Eisteddfod a gynhelir ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst eleni.
Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth er mwyn sicrhau fod trigolion lleol yn cael cyfle i ymweld â’r Eisteddfod eleni.
“Bydd y cynnig yn cynnwys tocyn am ddim i’r Maes ynghyd â thalebau bwyd, ac rydyn ni’n meddwl ei fod yn holbwysig ein bod ni’n gallu cynnig mwy na thocyn Maes er mwyn sicrhau bod ein gŵyl yn hygyrch i bawb sy’n dymuno dod draw i Barc Ynysangharad ddechrau Awst, gan wneud yn siwr bod ein hymwelwyr yn cael diwrnod arbennig yn cael blas ar ein hiaith a’n diwylliant ar stepen y drws.
“Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y cynllun maes o law, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb atom i Rondda Cynon Taf i ymuno â ni’n fuan.”