Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi penodi Dr Catrin Jones fel Ysgrifennydd y sefydliad am y cyfnod nesaf yn dilyn proses recriwtio agored
Hi yw’r ferch gyntaf i ymgymryd â’r swydd, ac mae eisoes wedi dechrau ar y gwaith o sicrhau bod elusen yr Eisteddfod yn cael ei llywodraethu’n effeithiol.
Yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth, mae ganddi brofiad eang mewn gweinyddiaeth, rheolaeth a llywodraethiant yn y byd academaidd, gan weithio ym mhrifysgolion Llambed, Bangor, ac Aberystwyth.
Yn fwyaf diweddar bu’n Gofrestrydd ac Ysgrifennydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyda chyfrifoldeb am y drefn bwyllgorau ar draws y Brifysgol gan sicrhau rheolaeth a llywodraethiant effeithiol a chan weithredu hefyd fel ysgrifennydd i'r Cyngor a'r Senedd.
Ers ymddeol o waith prifysgol mae wedi ymgartrefu yng Nghricieth ac yn Glerc a Swyddog Ariannol Cyfrifol i Gyngor Tref Cricieth ers saith mlynedd. Mae hefyd yn Swyddog Polisi Un Llais Cymru sef y corff cynrychioliadol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.
Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd Cadeirydd Bwrdd Rheoli a Llywydd Llys yr Eisteddfod, Ashok Ahir, “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu ein Hysgrifennydd newydd, Dr Catrin Jones i’r tîm. Mae ganddi brofiad di-hafal ym maes gweinyddiaeth, llywodraethiant a rheolaeth, ac fe fydd hi’n sicr yn gaffaeliad mawr dros y blynyddoedd nesaf.
“Mae llawer o waith wedi’i wneud yn y maes hwn dros y blynyddoedd diwethaf ac rwy’n sicr y bydd Catrin yn bwrw ati gydag arddeliad er mwyn sicrhau llywodraethiant effeithiol y corff.”
Ychwanegodd Dr Catrin Jones, “Mae'n fraint cael fy mhenodi'n Ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol. Rydw i’n edrych ymlaen at y cyfle i gyfrannu at lywodraethiant a gweinyddu sefydliad sy'n agos iawn at fy nghalon ac un sy'n allweddol bwysig i fywyd ein cenedl a ffyniant ein hiaith a’n diwylliant.”
Mae’r Ysgrifennydd yn rôl wirfoddol sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth i Ymddiriedolwyr, Cyngor a Llys yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae Dr Jones yn olynu Dr Llŷr Roberts a Geraint R Jones fel Ysgrifennydd.