Gorymdaith y Cyhoeddi yn Aberdar, 2023 gyda thrigolion lleol yn gwylio'r Orsedd yn cerdded drwy'r dref
22 Ebr 2024

Bydd dinas Wrecsam yn fwrlwm o liw dros y penwythnos wrth i Orsedd Cymru gynnal Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam

Cynhelir y Brifwyl yn yr ardal o 2-9 Awst y flwyddyn nesaf. 

Mae dros 300 o grwpiau ac unigolion eisoes wedi ymrwymo i fod yn rhan o’r orymdaith gymunedol a dinesig for Sadwrn yma 27 Ebrill.  Bydd yr orymdaith yn ymgynnull yng Nghampws Iâl, Coleg Cambria, cyn cychwyn yr orymdaith am 10:00 a cherdded drwy’r ddinas gan ddychwelyd i Lwyn Isaf, y tu allan i Neuadd y Ddinas ar gyfer y seremoni sy’n cychwyn am 10:45. 

Mae’r seremoni’n gyfle i drigolion ac ymwelwyr weld un o seremonïau lliwgar yr Orsedd, ac yn ystod y seremoni hon, bydd yr Archdderwydd presennol, Myrddin ap Dafydd yn trosglwyddo’r awenau i Mererid, a fydd yn arwain a llywio gwaith yr Orsedd dros y blynyddoedd nesaf.

Yn unol â thraddodiad, bydd yr orymdaith yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau a chymdeithasau lleol ynghyd â Gorsedd Cymru, i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal, a chyflwyno’r ardal i’r Eisteddfod. 

Yn hanesyddol, mae’n rhaid cyhoeddi bwriad Eisteddfod i ymweld ag ardal o leiaf blwyddyn a diwrnod cyn cychwyn y Brifwyl.  Yn ogystal, dyma pryd y cyhoeddir y Rhestr Testunau, sef y rhestr o gystadlaethau a gwybodaeth i unrhyw un sy’n dymuno mynd ati i gystadlu'r flwyddyn nesaf. 

Yn ystod y seremoni, bydd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Llinos Roberts, yn cyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd.  Unwaith y mae’r copi wedi’i rannu, mae’r wybodaeth yn gyhoeddus a’r gyfrol yn mynd ar werth mewn siopau ar hyd a lled Cymru.

Yn ogystal â’r Cyhoeddi, cynhelir Cymanfa Ganu yng Nghapel Bethlehem, Rhosllannerchrugog, nos Sul 28 Ebrill am 18:00, ac mae croeso cynnes i bawb ymuno yn y noson honno hefyd.  

Rhaglenni ar gael wrth y drws, gyda chasgliad at Gronfa Leol Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam wrth gyrraedd.  Bydd y Gymanfa’n cael ei recordio ar gyfer rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol ar S4C.

Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Llinos Roberts, “Bwriad y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd i ddod ymhen blwyddyn a rhoi blas i bobl leol o seremonïau lliwgar yr Orsedd.  

"Wrth gwrs, mae cyhoeddi’r Rhestr Testunau’n rhan fawr o’n gwaith ni’n lleol, ac rydw i’n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod wrthi’n dewis a dethol cystadlaethau a thestunau dros y misoedd diwethaf.  Bydd y Rhestr ar werth ar y dydd, ac yna mewn siopau ar hyd a lled Cymru, gyda’r porth cystadlu’n agor ym mis Ionawr 2025.

“Rydyn ni wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ac yn creu pwyllgorau ar draws yr ardal dros yr wythnosau diwethaf, ac mae gweithgareddau cymunedol yn dechrau cael eu cynnal yn rheolaidd i gefnogi’r gwaith o gyrraedd targed y Gronfa Leol.  

"Rydyn ni’n edrych ymlaen at bob math o gyfleoedd i gymdeithasu yn Gymraeg a dwyieithog dros y misoedd nesaf wrth i ni baratoi ar gyfer yr ŵyl.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam o 2-9 Awst y flwyddyn nesaf.  Am fwy o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.