Bu dros 500 o drigolion lleol ac aelodau Gorsedd Cymru’n gorymdeithio drwy strydoedd dinas Wrecsam fore Sadwrn 27 Ebrill i groesawu dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i’r ardal ymhen y flwyddyn.
Bwriad yr orymdaith yw croesawu’r ardal i’r Eisteddfod a’r Eisteddfod i’r ardal, ac ar ei diwedd, cynhelir seremoni liwgar yng Nghylch yr Orsedd. Yn ystod y seremoni hon, cyflwynir y copi cyntaf o’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd, ac eleni, cyfle Llinos Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam oedd gwneud hyn, ac meddai, “Roedd hi’n fraint cyflwyno’r Rhestr Testunau i’r Archdderwydd, gan mai dyma ffrwyth llafur trigolion Wrecsam a’r fro dros y misoedd diwethaf. Rydyn ni wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod syniadau, cerddi a chaneuon, ac mae’r braf iawn cael rhannu popeth gyda Chymru gyfan.
“Braint hefyd oedd gorymdeithio drwy’r ddinas gyda chynifer o grwpiau cymunedol a chynrychiolaeth ddinesig, gyda phawb wedi dod ynghyd i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal. Roedd ‘na awyrgylch hyfryd ar y daith, ac rydyn ni am i’r teimlad o ddathlu a chroeso barhau drwy gydol y prosiect ac yn ystod wythnos yr ŵyl ei hun.”
Yn ogystal â chyflwyno’r copi cyntaf o’r Rhestr Testunau, roedd y seremoni hefyd yn gyfle i groesawu ac anrhydeddu Archdderwydd newydd, wrth i Myrddin ap Dafydd ymddeol.
Y Prifardd a’r Priflenor Mererid Hopwood sy’n cymryd ei le, a chafodd hi groeso brwd gan y gynulleidfa ar Lwyn Isaf yng nghanol Wrecsam. Bydd Mererid yn arwain yr Orsedd tan 2027, ac yn arwain y seremonïau Gorseddol yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf a gynhelir ym mis Awst eleni.
Roedd gan yr Archdderwydd neges gref yn ei hannerch gyntaf o’r Maen Llog, wrth drafod yr angen am heddwch, wrth iddi egluro pwrpas cleddyf yr Orsedd, gan ddweud, “Cleddyf na bydd fyth yn cael ei dynnu o’r wain. Cleddyf Heddwch felly. Arwydd o’n dyhead ni i weld diwedd ar ryfel a thrais.
“Ac mae’r dyhead hwnnw’n fawr heddiw. Boed ‘i’r iawn bwyll arwain y byd’ ddwedodd Iolo. Ac o’n gorsedd heddwch ni yn Wrecsam, rydym ni, bobl gyffredin Cymru, yn galw ar bobl gyffredin y byd i wrthod syniadau’r arweinwyr sy’n gofyn am fwy o gleddyfau a bomiau a thaflegrau, ac yn dweud ‘digon yw digon’.”
Soniodd hefyd am y cyfnod anodd sy’n wynebu sefydliadau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac meddai, “Gyfeillion, yn nannedd bygythiadau i gymaint o’n sefydliadau iaith Gymraeg ni, mae angen ffydd. Ffydd – batris y galon – a’r galon, yn ei thro yn gronfa gobaith.
“A’m gobaith i yw y byddwn ni’n gweld cydweithio llawen rhyngom. Dyna sydd ei angen yn wyneb argyfwng – nid ymgecru ymhlith ein gilydd. Dyma’r amser i roi gobaith ar waith; yr egni radical hwnnw sy’n fwy na chroesi bysedd; yr egni sy’n ein gwthio i ddychmygu’r lle gwell a’r ffordd i’w gyrchu.”
Ceir copi llawn o araith yr Archdderwydd yma.
Gyda’r Rhestr Testunau wedi’i gyflwyno i’r Archdderwydd, mae copïau ar gael i’w prynu mewn siopau ar hyd a lled Cymru erbyn hyn a bydd Porth Cystadlu Eisteddfod 2025 yn agor ym mis Ionawr.
Cyn hynny, mae dyddiad cau cystadlaethau llwyfan Eisteddfod 2024 yn prysur agosáu, ac mae’n rhaid cwblhau’r broses gofrestru ar-lein erbyn 23:59 nos Fercher 1 Mai.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam o 2-9 Awst y flwyddyn nesaf, gyda’r Eisteddfod eleni’n cael ei chynnal ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst. Am fwy o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.
-diwedd-