13 Mai 2024

Bydd yr Eisteddfod yn cyflwyno Dyfrig Roberts fel Cymrawd anrhydeddus newydd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod y Brifwyl ym mis Awst 

Dyfrig Roberts, Cymrawd newydd yr Eisteddfod

Dyma’r anrhydedd mwyaf y gall yr Eisteddfod ei gynnig i unrhyw un, ac mae’n arwydd o ddiolchgarwch am flynyddoedd o wasanaeth i’r sefydliad.

Yn wreiddiol o Fôn, dechreuodd cysylltiad Dyfrig â’r Eisteddfod yn sgil ei swydd fel peiriannydd, pan alwyd arno i ddelio gyda phroblem beirianyddol ar y Maes ym Mro Dwyfor, bron i 50 mlynedd yn ôl yn 1975.

Comisiynwyd ei gwmni i gynllunio Pafiliwn newydd wedi’i wneud o ddur, a fu’n weithredol am ddeng mlynedd o 1977 tan 1987.  Yn sgil hyn, fe’i penodwyd yn aelod o’r pwyllgor technegol cenedlaethol, a bu’n aelod o’r pwyllgor tan 2019, a bu’n gadeirydd ar y pwyllgor am flynyddoedd. 

Bu hefyd yn gweithredu ar lefel leol, gan gadeirio’r pwyllgor technegol lleol ddwywaith pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn ardal sir Conwy.

Dros y blynyddoedd, bu Dyfrig yn barod iawn ei gymwynas â’r Eisteddfod, gan wasanaethu ar bwyllgorau a grwpiau amrywiol, gan gynnwys y Bwrdd Rheoli a Chyngor y Brifwyl. 

Bu hefyd yn ymwneud â Gorsedd Cymru, ac yn 2003, fe’i etholwyd yn Arwyddfardd, un o brif swyddogaethau’r Orsedd, a bu yn y swydd am bron i 20 mlynedd, tan ei ymddeoliad yn 2022.

Wrth dderbyn yr anrhydedd meddai Dyfrig, “Mae cael fy ethol yn Gymrawd gan fy nghyfoedion mewn sefydliad sydd wedi bod yn rhan mor bwysig o’m bywyd am bron i hanner canrif yn anrhydedd fawr.  

"Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n cydweithio ac yn fy nghefnogi ar hyd yn daith gyda’r Eisteddfod a Gorsedd Cymru.

“Ers y cychwyn, roeddwn i’n awyddus i roi lle amlwg i’r Gymraeg yn y byd peirianneg yma yng Nghymru, ac mae fy mherthynas gyda’r Eisteddfod Genedlaethol wedi fy ngalluogi i wneud hyn.”

Anrhydeddir Dyfrig Roberts ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Sadwrn 3 Awst, a chynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst eleni. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.