Teyrnwialen yr Arwyddfardd yn ystod un o seremonïau'r Orsedd yn Eisteddfod 2023

Jane Aaron
Mae cyfraniad Jane Aaron, Aberystwyth i fywyd Cymru yn un nodedig, fel addysgwr, ymchwilydd llenyddol ac awdur. Hyd nes ei hymddeoliad, roedd yn Athro Saesneg ym Mhrifysgol De Cymru. Wedi hynny daeth yn aelod cyswllt o Ganolfan Astudio’r Cyfryngau a Diwylliant mewn Cenhedloedd Bach, Prifysgol De Cymru. Mae’n adnabyddus am ei hymchwil arloesol a’i chyhoeddiadau niferus ar lenyddiaeth Gymreig ac ysgrifennu menywod o Gymru. Cyhoeddodd nifer o ysgrifau a llyfrau, a bu’n olygydd gyda Gwasg Honno, sy’n arbenigo yn ysgrifennu menywod o Gymru. Yn 2023, cyhoeddodd gofiant Cranogwen gyda Gwasg Prifysgol Cymru.

Anna ap Robert
Mae Anna ap Robert, Aberystwyth yn angerddol dros ein hiaith a’n diwylliant yn ei hardal. Yn Swyddog Creadigol (Dawns a Theatr) gyda Theatr Felin-fach a thiwtor Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth wrth ei gwaith, mae Anna hefyd yn gweithio’n agos gyda Chwmni Cyrff Ystwyth sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ag anableddau ac anghenion dysgu. Mae hi hefyd yn trefnu nosweithiau dawns ‘Strictly’ yn y Gymraeg, gyda’r holl ymarferion a’r hyfforddi’n cael eu cynnal yn y Gymraeg. Dros y 12 mlynedd diwethaf, mae’r rhain wedi codi bron i £100,000 ar gyfer grwpiau ac elusennau amrywiol.

Simon Chandler
Cafodd Simon Chandler, Manceinion, ei fagu yn Llundain mewn teulu Saesneg ei iaith. Syrthiodd mewn cariad â’r Gymraeg tra ar ei wyliau yng Nghymru tua15 mlynedd yn ôl, ac aeth ati i’w dysgu. Mewn dim o dro, roedd Simon nid yn unig wedi meistroli Cymraeg llafar ac ysgrifenedig ond roedd hefyd yn medru cynganeddu! Erbyn hyn mae’n cynnal colofn yn ‘Barddas’, cylchgrawn y Gymdeithas Cerdd Dafod, cyhoeddodd nofel, ‘Llygad Dieithryn’ (2023), gydag un arall ar y ffordd, ac mae’n cyfrannu erthyglau i’r wasg gyfnodol Gymraeg. Ar ben hyn oll mae Simon yn weithgar iawn yn trefnu digwyddiadau sy’n hybu’r Gymraeg yn ninas Manceinion.

Elgan Philip Davies
Gwnaeth Elgan Philip Davies, Bow Street, Aberystwyth, gyfraniad triphlyg i’n diwylliant. Ar ddechrau cyfnod allweddol yng nghanu roc Cymraeg, roedd yn aelod blaenllaw o’r grŵp Hergest, a chân o’i waith ef oedd y gyntaf i gael ei chwarae ar Radio Cymru pan lansiwyd y gwasanaeth yn 1977. Yn ail, mae’n awdur toreithiog, wedi ysgrifennu llu o nofelau i blant ac i oedolion. Ac yn drydydd, fel llyfrgellydd a dreuliodd gyfnod sylweddol yn yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, daeth yn arbenigwr ar yr adeilad hwnnw. Mae wedi cyflwyno’i hanes ar lafar ar y cyfryngau yn ogystal â chyhoeddi sawl llyfr am ei hynodrwydd a’i arwyddocâd.

Owenna Davies
Mae ardal Ffostrasol a Cheredigion yn bwysig iawn i Owenna Davies. Bu’n gweithio ym myd addysg am flynyddoedd, ond fe’i hanrhydeddir am ei chyfraniad gwirfoddol yn lleol. Bu’n gynghorydd cymuned, aelod o bwyllgor Maes a Môr, Cadeirydd Merched Glannau Teifi, a hi fu’n bennaf gyfrifol am drefnu digwyddiadau a goruchwylio’r llyfr a gyhoeddwyd pan gaeodd Ysgol Aberbanc. Mae’n drysorydd Capel y Drindod Aberbanc ac yn helpu i redeg y Banc Bwyd yng Nghapel Seion, Llandysul. Bu’n Llywydd Rhanbarth Merched y Wawr, a llwyddodd i ddenu nawdd i greu ffilm, ‘Gwlân, gwlân, gwlana’, sy’n olrhain hanes y diwydiant gwlân yng Ngheredigion.

Anne England
Anrhydeddir Anne England, Aber-fan am ei gwaith gwirfoddol dros y Gymraeg yn ardal Merthyr Tudful, ac yn arbennig am ei chyfraniad i’r Ganolfan Gymraeg yn Theatr a Chanolfan Soar, canolfan sydd wedi gwreiddio holl fudiadau Cymraeg yr ardal yng nghanol y gymuned. Cyfrannodd fel gwirfoddolwr a chadeirydd at flynyddoedd o ddatblygu’r cynlluniau uchelgeisiol, ceisio am gyfleoedd ariannu a sicrhau llwyddiant hirdymor y fenter. Yn ogystal â chyfrannu at lywodraethiant y sefydliad, bu’n gwirfoddoli mewn ystod eang o weithgareddau - o’r swyddfa docynnau a’r dderbynfa i weithgareddau a digwyddiadau unigol.

Nerys Howell
Magwyd Nerys Howell, Caerdydd, yn y Rhondda Fawr, gan fynychu ysgolion lleol cyn hyfforddi mewn gwyddor tŷ yng Nghaerdydd a Llundain. Ers dychwelyd i Gymru, bu’n hyrwyddo bwydydd a chynnyrch Cymreig ledled y byd. Mae wedi ysgrifennu tri llyfr coginio’n defnyddio cynhwysion Cymreig, ac wedi ymddangos yn rheolaidd ar y teledu. Yn ogystal â’i gwaith yn rhoi cynnyrch Cymreig ar y map byd-eang, mae Nerys yn dilyn tîm rygbi merched Cymru yn frwd, gan fod ei merch, Elinor Snowsill - sydd hefyd yn cael ei hanrhydeddu eleni - wedi chwarae i’r tîm cenedlaethol.

Angharad Lee
Mae Angharad Lee, Tonyrefail, yn angerddol dros sicrhau cyfle cyfartal i bawb yn y celfyddydau, ac wedi meithrin doniau trigolion Rhondda Cynon Taf yn y Gymraeg a’r Saesneg ers blynyddoedd. Mae’n uwch-ddarlithydd a chyfarwyddwr cyfrwng-Cymraeg yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru, ac yn gyfarwyddwr artistig ar ei chwmni theatr ei hun, Leeway Productions. Yn ystod y cyfnod clo, cefnogodd ei chwmni dros 150 o artistiaid llawrydd na lwyddodd i dderbyn grantiau. Mae wedi cynhyrchu nifer o sioeau amlwg yr Eisteddfod dros y blynyddoedd, a hi fydd yn cynhyrchu sioe ‘Nia Ben Aur’ eleni gyda’r Brifwyl yn ei milltir sgwâr.

Elin Llywelyn Williams
Mae Elin Llywelyn Williams, Pont-y-clun wedi ymroi i dwf y Gymraeg ym Mhontypridd a’r ardal. Yn ddirprwy bennaeth ar Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, mae hi wedi ysbrydoli a Chymreigio cenedlaethau o blant, gan eu hannog i ddathlu diwylliant a threftadaeth Cymru. Sefydlodd Gôr y Cwm yn 2009, côr i blant ardal Cwm Rhondda, sy’n parhau i wefreiddio cynulleidfaoedd hyd heddiw. Mae’r côr wedi mwynhau llwyddiannau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Genedlaethol Ryngwladol Llangollen a chystadlaethau eraill gan gynnwys ‘BBC Songs of Praise’ a Chôr y Flwyddyn y BBC. Mae hi hefyd yn aelod o Gôr Godre’r Garth a Dawnswyr Nantgarw ers blynyddoedd lawer, ac mae’n un o arweinyddion Côr yr Eisteddfod eleni.

Helena Miguelez-Carballeira 
Yn wreiddiol o Galisia, mae Helena Miguelez-Carballeira, Bangor yn darlithio mewn Astudiaethau Sbaenaidd ym Mhrifysgol Bangor. Llwyddodd i ddyfnhau ein dealltwriaeth ni yma yng Nghymru o hanes a diwylliant Galisia, ac mae hefyd yn arbenigo ar fywyd a gwleidyddiaeth Gwlad y Basg a Chatalwnia. Cyfrannodd yn helaeth i faes astudiaethau cyfieithu, a thrwy’i hymdrechion hi i raddau helaeth, sicrhawyd fod y Gymraeg yn rhan o’r trafodaethau rhyngwladol sy’n ymwneud â’r maes. Mae’n enghraifft lachar o’r modd y gall ysgolheigion rhyngwladol sydd ag ymdeimlad tuag at ein diwylliant a gwybodaeth o’n hiaith, gyfoethogi ein bywyd cenedlaethol.

Mari Morgan
Yn wreiddiol o Lanelli, mae Mari Morgan yn byw yn yr Unol Daleithiau ers bron i 30 mlynedd, gan gyfrannu’n helaeth at ddiwylliant Cymreig Gogledd America a Chanada yn ystod y cyfnod hwn. Bu’n gweithio fel unawdydd mezzo-soprano, ac mae’i diddordeb mewn cerddoriaeth wedi parhau dros y blynyddoedd. Sefydlodd Gôr Cymry Gogledd America yn 1998, gan deithio o amgylch y byd. Mae’i hymrwymiad i gomisiynu gweithiau corawl newydd yn nodedig, ac mae’n annog aelodau’r côr i fynd ati i ddysgu Cymraeg ac i ymuno â dosbarthiadau llenyddol hefyd. Mari oedd Arweinydd Cymru a’r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2000.

Catrin Rowlands
Athrawes Gymraeg yn Ysgol Llanhari yw Catrin Rowlands, Abertawe, ac yn ddi-os, bydd ei chreadigrwydd a’i hymroddiad i waith pwyllgorau lleol yr Eisteddfod i’w gweld yn glir ar y Maes ym Mhontypridd eleni. Mae hi wedi cynnwys ei disgyblion yn y paratoadau ar hyd y daith gan sicrhau eu bod yn rhan o’r gwaith cynllunio ar gyfer y Gadair, gyda’i hawydd i ddod â’r Gymraeg yn fyw i bobl ifanc yn glir i bawb. Mae hefyd yn weithgar yn ei chynefin fel aelod o Dŷ Tawe, canolfan Gymraeg dinas Abertawe, ac mae wedi cynnig gwersi Cymraeg yn wirfoddol i ddosbarthiadau o oedolion yn eu cymuned yn Nhreforys.

Derrick Rowlands
Dyn "y pethe" yw Derrick Rowlands, sy’n frodor o Bont-iets, ac un a weithiodd yn dawel ddiflino dros y Gymraeg yn ei filltir sgwâr ac yn ehangach ers blynyddoedd bellach. Rhoddodd gyfraniad oes i fyd y corau meibion, yn lleol ac yn genedlaethol. Gweithiodd yn ddiwyd i godi proffil y Gymraeg o fewn i Gymdeithas Corau Meibion Cymru, a bu’n rhan allweddol o’r gwaith o drefnu cyngherddau mawreddog corau meibion unedig yn Llundain. Yn Gymro i’r carn, mae’n bleser gan Orsedd Cymru ei anrhydeddu eleni.

Mike Parker
Un o Kidderminster yn Swydd Gaerwrangon yw Mike Parker. Fe’i cyfareddwyd gan fapiau er pan oedd yn blentyn, a hefyd gan Gymru. Symudodd yma yn 2000, ac ymroi i ddysgu Cymraeg. Mae’n awdur nifer o lyfrau, gan gynnwys ‘Neighbours from Hell?’ (2007), sy’n trafod agweddau’r Saeson at y Cymry;Map Addict’ (2009), llythyr cariad i fapiau; ‘Real Powys’ (2011), arweinlyfr craff i sir fabwysiedig Mike, a’r arobryn ‘On the Red Hill’ (2019). Y llynedd cyhoeddodd ‘All the Wide Border’, sy’n crwydro’r gororau. Fel dyn hoyw, gŵyr beth yw perthyn i leiafrif sy’n dioddef rhagfarn yn aml, ac mae hyn yn rhoi min ar y modd y mae’n dehongli Cymru ar gyfer cynulleidfa Saesneg ei hiaith.

Shân Eleri Passmore
Rydym yn anrhydeddu Shân Eleri Passmore, Caerdydd, am ei gwasanaeth ym myd yr eisteddfodau mawr a mân dros gyfnod maith. Cyn symud i Gaerdydd yn 1981, bu Shân yn ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol Maenclochog am sawl blwyddyn. Bu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn ffodus iawn o’i chael hi’n Swyddog Datblygu am gyfnod, a bu’n gweithio hefyd i’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Yn fwy diweddar bu Shân yn gymorth mawr wrth sefydlu eisteddfod gadeiriol newydd yng Nghaerdydd, a ddatblygodd yn ddigwyddiad llwyddiannus bellach, a hi sydd wedi paratoi cadair yr eisteddfod honno dros y ddwy flynedd diwethaf.

Siwan Rosser
Mae Siwan Rosser, Caerdydd, yn uwch-ddarlithydd ac yn ddirprwy bennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae’n arwain y drafodaeth gyfredol ar lyfrau Cymraeg i blant, ac fe’i comisiynwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru i lunio arolwg o lyfrau plant a phobl ifanc a gafodd ddylanwad ar y maes cyhoeddi. Mae ei hymwneud cyson â gweithgareddau megis yr Eisteddfod a gwyliau llenyddol wedi ysgogi trafodaeth ehangach ar lyfrau plant. Bu’n arwain ar weithgareddau i ddathlu gwaith yr awduron plant T Llew Jones ac Elizabeth Watkin-Jones a hybu pwysigrwydd cynrychiolaeth ac amrywiaeth mewn llenyddiaeth; mae hyn oll wedi ysgogi diddordeb ym maes llenyddiaeth Cymraeg i blant a phobl ifanc yn arbennig.

Peter Spriggs
Mae Peter Spriggs, Arberth yn arlunydd toreithiog ac uchel ei barch. Mae’n ddarlithydd yng Ngholeg Celf a Dylunio Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac yn aelod o Grŵp 56 Cymru, criw o arlunwyr proffesiynol sy’n byw a gweithio yng Nghymru. Ysbrydolir ei waith gan hanes diwylliannol a diwydiannol Cymru, ac mae’r lluniau a beintiodd o adeiladau diwydiannol a threfol y Rhondda a Chaerdydd yn yr wythdegau erbyn hyn yn gofnod pensaernïol a hanesyddol ar ôl eu dymchwel. Mae’n gefnogwr brwd i’r Lle Celf yn yr Eisteddfod ac o weithgareddau arddangosfeydd ac orielau celf ledled Cymru.

Llinos Swain
Cyfrannodd Llinos Swain, Caerdydd yn helaeth at fywyd Cymraeg a cherddorol ardal Ton-teg a Llantrisant tra bu’n byw yn yr ardal am flynyddoedd. Bu’n hael ei chefnogaeth i weithgareddau’r Urdd, yn gyfrifol am yr adran yn Ysgol Gynradd Llantrisant. Yna, helpodd i sefydlu adran ym Mhorthcawl, gan hyfforddi plant i gystadlu a chreu cannoedd o osodiadau cerdd dant dros y blynyddoedd. Bu Llinos yn asgwrn cefn i Gôr Merched y Garth, bob amser yn barod i helpu fel arweinydd neu gyfeilydd pan fo’r angen. Fe’i hanrhydeddir am ei chyfraniad i’r “pethe” ym mro’r Eisteddfod a’r tu hwnt.

Meilyr Hedd Tomos
Dyn ifanc sy’n rhoi o’i orau er lles eraill yw Meilyr Tomos, Abergwaun. Yn gerddor dawnus, mae’n teithio cartrefi gofal yn ardal Sir Benfro a’r tu hwnt i ddiddanu’r preswylwyr, ac yn perfformio ym mhabell Cytûn ar Faes yr Eisteddfod yn flynyddol. Cododd arian i elusennau drwy recordio dwy gryno-ddisg, gyda’r elw’n mynd i Gymorth Cristnogol ac elusennau canser y pancreas a’r prostad. Roedd Meilyr yn un o sêr y grŵp Côr-ona ar Facebook yn ystod y cyfnod clo, ac mae wedi ymddangos ar raglen ‘Noson Lawen’, yn cyfeilio i’w gyfaill ysgol, Trystan Llŷr.

Gareth Williams
Mae Gareth Williams, Pontypridd, yn hanesydd blaenllaw, ac yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol De Cymru, wedi cyfnod helaeth yn dysgu yno ac ym Mhrifysgol Aberystwyth. Hanes cymdeithasol, ac yn arbennig hanes chwaraeon a cherddoriaeth, yw ei faes arbenigol, ac mae wedi cyhoeddi ffrwd gyson o lyfrau ac erthyglau ar y pwnc yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae llawer o’i waith wedi ymwneud â diwylliant poblogaidd cymoedd y De, ac mae’n awdurdod ar fywyd a gwaith y llenor a’r arloeswr hanes llafar o Abercynon, George Ewart Evans. Mae hefyd yn aelod o Gôr Meibion Pendyrus.

Siân Rhiannon Williams
Daw Siân Rhiannon yn wreiddiol o Gwm Rhymni ond erbyn hyn mae’n byw yn y Barri. Ar ôl cwblhau doethuriaeth yn Aberystwyth, bu’n athrawes ac yn gynhyrchydd radio cyn treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn darlithio yn Ysgol Addysg Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae’n arbenigwraig ar hanes Cymru ac wedi cyhoeddi’n helaeth ar hanes yr iaith Gymraeg, addysg a hanes menywod. Y mae’n weithgar iawn gyda nifer o sefydliadau, byrddau golygyddol a mentrau sy’n hybu hanes Cymru a hanes menywod, gan gynnwys ‘Llafur’, ymgyrch y Placiau Porffor ac Archif Menywod Cymru.