Heddiw, cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol mai Susan Dennis-Gabriel o Fiena yn Awstria fydd Arweinydd Cymru a’r Byd ym Mhrifwyl Rhondda Cynon Taf eleni
Yn wreiddiol o bentref Cwm-bach ger Aberdâr, roedd Susan yn un o ddisgyblion cynharaf Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, ac mae’i hangerdd at ein hiaith wedi parhau er iddi symud o Gymru i fyw a gweithio ers blynyddoedd.
Ar ôl graddio mewn Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd, bu’n dysgu am gyfnod, cyn mynd i astudio cerddoriaeth yn y Coleg Cerddoriaeth Brenhinol yn Llundain, ac yna i Fiena, ar ôl ennill ysgoloriaeth i Brifysgol Fiena, gyda’i bryd ar ddod yn gantores opera broffesiynol.
Bu’n canu gyda Chwmni Opera Cenedlaethol, Covent Garden a Kent Opera am gyfnod cyn dychwelyd i Fiena i weithio, priodi a magu teulu. Roedd hi’n briod ag Athro Cerddoriaeth Prifysgol Fiena, y diweddar Athro Wolfgang Gabriel, ac yn fam i Angharad, sy’n gantores broffesiynol.
Bu’n gweithio fel unawdydd proffesiynol yn Awstria am flynyddoedd, gan berfformio ym Musikverein enwog Fiena, ac mewn dinasoedd eraill ar draws Ewrop, cyn gweithio fel tiwtor llais i fyfyrwyr ar gychwyn eu gyrfa. Bu hefyd yn gweithio fel tiwtor llais gwadd yn Y Ffindir, Sbaen a Siapan.
Cadwodd mewn cysylltiad â theulu a chyfeillion yng Nghymru drwy’r blynyddoedd, ac yn arbennig gyda’i nai a’i deulu yn Aberdâr, a’i chyfaill, y gantores Eirian James, yn Aberteifi. Bydd hi hefyd yn enw cyfarwydd i nifer sy’n dilyn y wasg a’r cyfryngau yma yng Nghymru, yn fwyaf diweddar yn trafod ei hatgofion am Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr yn 1956.
Bydd yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni ar gychwyn Cymanfa Ganu’r Eisteddfod a gynhelir nos Sul 4 Awst yn y Pafiliwn ar Faes yr Eisteddfod.