12 Meh 2024

Addasiad cwbl newydd o stori eiconig Nia Ben Aur yw sioe fawr Pafiliwn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf eleni, a bydd tocynnau’n mynd ar werth am 12:00 ddydd Gwener 14 Mehefin

Poster hyrwyddo cyngerdd Nia Ben Aur, Eisteddfod 2024: merche yn gwisgo pen mochyn ar gefndir pinc

Angharad Lee, y cyfarwyddwr amlwg o’r ardal sydd wedi gwneud gweithio ar amryw o brosiectau mawr yr Eisteddfod dros y blynyddoedd diwethaf sy'n gyfrifol am lwyfannu’r sioe. 

Datblygwyd y sgript ar ei newydd wedd gan Fardd Plant Cymru, Nia Morais, a’r trefniannau cerddorol gan Patrick Rimes a Sam Humphreys o Calan, ac mae’r dylanwadau gwerin Cymreig, Gwyddelig a Llydewig i’w clywed yn glir, ynghyd ag elfen fwy electro sy’n gwneud y caneuon yn fwy cyfoes.

Bethan Mclean sy’n chwarae rhan Nia; mae hi’n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Marged yn ‘Yr Amgueddfa’ (S4C) a Tasha yn ‘Bwmp’, a enillodd wobr RTS i S4C yn gynharach eleni. 

Victoria Pugh yw’r storïwr, ac mae ganddi brofiad eang ar radio, teledu ac yn y theatr, gan berfformio’n rheolaidd gyda Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd.  

Chwareir rhan Osian gan Gareth Elis, sydd wedi perfformio mewn cynychiadau i Ganolfan Mileniwm Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru, Cameron Mackintosh, Cynyrchiadau Leeway Productions ac eraill. 

Ioan Gwyn sy’n chwarae rhan y Cychwr, ac mae’n wyneb cyfarwydd ar S4C, gyda rhannau ar Pobol y Cwm, Rownd a Rownd, ynghyd â chyfres STAD. Bu Ioan a Victoria’n teithio Cymru’n ddiweddar gyda chynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Ionesco, ‘Rhinoseros’.

Dyma brosiect côr yr Eisteddfod eleni, ac un o’r cyd-arweinyddion yw’r cerddor, Osian Rowlands, sydd hefyd yn brif weithredwr y fenter iaith leol yn Rhondda Cynon Taf. Meddai Osian, “Mae bod yn rhan o ddehongliad newydd o sioe sy’n gymaint rhan o hanes cerddorol Cymru wedi bod yn brofiad arbennig iawn i mi a fy nghyd-arweinyddion, Gavin Ashcroft ac Elin Llywelyn. 

“Roedden ni’n ymwybodol o’r cysylltiad lleol, gan fod Cleif Harpwood yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Rhydfelen ac yn gwybod y byddai hwn yn brosiect fyddai’n apelio at bobl o bob oed. Ond roedd hi’n dipyn o sioc pan ddaeth bron i 400 o bobl i’r ymarfer cyntaf yn Nhrefforest ddechrau’r flwyddyn!

“Mae ‘na nifer fawr o gantorion di-gymraeg yn y côr eleni, ac rydyn ni’n ymfalchïo yn y ffaith fod pawb eisiau bod yn rhan o’r Eisteddfod. Dyma gyfle gwych i ddangos bod y Gymraeg yn llawer mwy nag iaith yr ystafell ddosbarth, ac rydw i’n gobeithio y bydd y profiad o ganu yn y côr yn rhoi hyder i bobl ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y dyfodol.”

Ychwanegodd Elen Elis, cyfarwyddwr artistig yr Eisteddfod, “Eleni mae hi’n hanner can mlynedd ers perfformio Nia Ben Aur am y tro cyntaf, a hynny yn yr Eisteddfod yng Nghaerfyrddin. Roedd hi’n sioe eiconig, a’r caneuon yr un mor boblogaidd heddiw ag erioed. 

“Rydyn ni’n falch iawn o’r cyfle i gynnig gwedd newydd ar y stori. Bydd hwn yn gynhyrchiad uchelgeisiol, ac yn wledd i’r llygad a’r glust yn bendant. 

“Mae cerddoriaeth Patrick a Sam wedi’i drefnu ar gyfer y côr gan Richard Vaughan ac mae’r caneuon yn gweddu’n berffaith i’r côr. Ac rwy’n sicr y bydd y cynhyrchiad hwn yr un eiconig â’r gwreiddiol, ac yn cyflwyno clasur i gynulleidfa newydd ar hyd a lled Cymru.

“Bydd dau berfformiad o’r sioe, y cyntaf nos Sadwrn a’r ail nos Lun.  Bydd y côr hefyd yn perfformio yn y Gymanfa Ganu nos Sul, felly mae’r côr yn mynd i fod yn brysur iawn yn ystod hanner cyntaf yr wythnos,” ychwanegodd Elen.

Bydd tocynnau ar werth am 12:00 ddydd Gwener 14 Mehefin. Gallwch eu harchebu naill ai drwy fynd yn syth i Eisteddfod Genedlaethol Cymru (ticketsrv.co.uk) neu drwy wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru.

Perfformir Nia Ben Aur ar lwyfan y Pafiliwn nos Sadwrn 3 a nos Lun 5 Awst am 20:00. Cynhelir yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.