Heddiw (7 Mehefin) cyhoeddwyd pwy yw’r pedwar sy’n cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni
Derbyniwyd 45 o geisiadau ar gyfer y gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, a dyma’r nifer uchaf erioed i gymryd rhan yn y brif gystadleuaeth ar gyfer dysgwyr yn y Brifwyl.
Trefnir y gystadleuaeth ar y cyd gan yr Eisteddfod a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Roedd unigolion o Gymru a thu hwnt wedi’u henwebu ar gyfer y gystadleuaeth eleni, a nifer hefyd wedi enwebu’u hunain am y cyfle i fod yn rhan o ddathlu dysgu Cymraeg ar brif lwyfan Cymru ym mis Awst.
Cynhaliwyd y rownd gyn-derfynol ym mis Mai, a bydd y pedwar yn y rownd derfynol yn dod ynghyd ar Faes yr Eisteddfod, i sgwrsio gyda’r beirniaid, Bethan Glyn, Cefin Campbell a Mark Morgan. Cyhoeddir enw’r enillydd mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn, ddydd Mercher 7 Awst.
A phwy felly yw’r pedwar? Dyma ychydig o’u hanes a’u taith gyda’r Gymraeg i gyrraedd pedwar olaf Dysgwr y Flwyddyn 2024.
Joshua Morgan
Mae Joshua Morgan yn dysgu Cymraeg ers blwyddyn a hanner. Symudodd i Loegr o Gymru pan oedd yn saith oed, cyn dychwelyd i Gymru i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Sylweddolodd y gallai ddysgu Cymraeg pan aeth ati i astudio isiXhosa pan fu’n byw yn Ne Affrica am ddwy flynedd. Creodd lyfr ’31 ways to Hoffi Coffi’ ar gyfer teulu a ffrindiau, a daeth yn boblogaidd ymysg dysgwyr.
Yna, dechreuodd Josh greu darluniadau o’i daith yn dysgu Cymraeg, ac erbyn hyn mae mwy na 10,000 o ddysgwyr yn defnyddio darluniadau a gwersi ‘Sketchy Welsh’.
Mae Josh hefyd wedi gweithio gydag Amgueddfa Cymru ar ganllaw ar sut i drafod celf yn y Gymraeg, ac wedi ymddangos ar raglen Prynhawn Da i gynnig cyngor am sut i ddechrau arlunio.
Mae’n gweithio fel athro yn Ysgol Arbennig Greenfield, Merthyr Tudful, ac wedi helpu’i ddosbarth i greu llyfr dysgu Cymraeg o’r enw ‘Lles’, ac mae’n creu fideo wythnosol gyda’i ddosbarth er mwyn dysgu Cymraeg i weddill yr ysgol.
Antwn Owen-Hicks
Mae Antwn Owen-Hicks yn defnyddio Cymraeg yn ddyddiol yn ei waith gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, ac yn cefnogi a hyrwyddo artistiaid Cymraeg ers blynyddoedd. Fe’i magwyd ar aelwyd ddi-gymraeg - ei hen fam-gu oedd y siaradwr Cymraeg olaf yn ei deulu.
Dechreuodd ymddiddori yn ei wreiddiau a’r Gymraeg pan oedd yn fyfyriwr yn Llundain. Aeth ati i ddechrau dysgu pan ddychwelodd i Gymru ac mae wedi dilyn sawl cwrs dros y blynyddoedd gan gynnwys cwrs Lefel A’ Cymraeg.
Cymraeg yw iaith y cartref yn Sirhowy, a’i ferch yw’r siaradwr Cymraeg iaith gyntaf yn y teulu ers pedair cenhedlaeth.
Mae’n un o sylfaenwyr Carreg Lafar, band gwerin Cymraeg sydd wedi recordio pedwar albwm a pherfformio ar draws y DU, Ewrop a gogledd America.
Yn ogystal, dechreuodd gyfres o gyngherddau acwstig anffurfiol, ‘Y Parlwr’ gyda’i wraig Linda, gan roi llwyfan i artistiaid Cymraeg yn bennaf.
Alanna Pennar-Macfarlane
Yn wreiddiol o’r Alban, mae Alanna Pennar-Macfarlane yn byw yng Nghaerdydd, ac wedi dilyn un wers Gymraeg o leiaf bob dydd ers dros 2,400 diwrnod (bron i chwe blynedd a hanner) ar ap Duolingo.
Mae’n defnyddio’r Gymraeg yn gwbl naturiol heb adael i gyflwr dyslecsia ei rhwystro rhag dysgu.
Mae Alanna wedi ysbrydoli’i theulu i fynd ati i ddysgu Cymraeg gyda’i chwaer yng nghyfraith a’i mam bellach yn dysgu.
Mae hi hefyd wedi datblygu adnoddau a fyddai wedi’i helpu hi ar ei thaith iaith. Lansiodd ei Dyddiadur i Ddysgwyr ym mis Tachwedd 2023, gan werthu dros 200 o gopïau i ddysgwyr ar draws y byd.
Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar lyfr nodiadau i helpu gyda rheolau treiglo, yn ogystal â dyddiadur academaidd wedi’i anelu at siaradwyr newydd.
Elinor Staniforth
Dechreuodd Elinor Staniforth ddysgu Cymraeg tua phedair blynedd yn ôl, ac erbyn hyn, mae’n dysgu ein hiaith i bobl eraill. Fe’i magwyd ar aelwyd ddi-gymraeg yng Nghaerdydd, ac astudiodd gelfyddyd gain yn Rhydychen cyn dychwelyd i Gymru.
Dechreuodd ddysgu Cymraeg cyn COVID, er mwyn cyfarfod pobl a’i helpu i gael swydd yn y celfyddydau, a chael blas ar ein hiaith a’n diwylliant yn syth.
Mae dysgu Cymraeg wedi newid ei bywyd ac wedi rhoi llawer o hyder iddi. Erbyn hyn mae’n diwtor Cymraeg i oedolion ac yn ysbrydoli eraill i ddysgu Cymraeg.
Mae’n gobeithio plethu’i diddordeb mewn dysgu Cymraeg a chelf yn y dyfodol, drwy gynnal cyrsiau celf i ddysgwyr a siaradwyr hyderus, gan ddod â phobl nad ydyn nhw’n defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol at ei gilydd drwy ddefnyddio’r celfyddydau gweledol.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr, ddydd Mercher 9 Awst, a bydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn, sy’n rhoddedig gan Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf a £300, yn rhoddedig gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards, i ddiolch i’w rhieni am fynd ati i ddysgu Cymraeg fel oedolion, ac i ddiolch i bawb arall sydd wedi dysgu’r iaith, neu sicrhau bod eu plant yn cael addysg Gymraeg er nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg eu hunain.
Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn tlws, yn rhoddedig gan Menna Davies, er cof am thad, Meirion Lewis, cyn-bennaeth Ysgol Gymraeg Ynys-wen, ei mam, Clarice Lewis a’i chwaer, Mair, a £100 yr un, gyda’r wobr ariannol hon yn rhoddedig gan Lowri Jones a Rhuanedd Richards.
Cefnogir sesiynau Dysgwr y Flwyddyn ym Maes D gan gwmni cyfieithu Nico.
Am ragor o wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, ewch i www.eisteddfod.cymru, ac am fwy am waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, cliciwch ar www.dysgucymraeg.cymru.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst. Cyhoeddir y rhaglen ar-lein ddydd Gwener 14 Mehefin.