10 Meh 2024

Heddiw cyhoeddodd yr Eisteddfod mai Cennard Davies sy'n derbyn yr anrhydedd eleni

Cennard Davies, Treorci yw Llywydd yr Wyl yn Eistedddfod 2024

Mae Cennard Davies wedi cyfrannu cymaint i fywyd Cymraeg ardal Treorci a’r Rhondda ac mae'n derbyn yr anrhydedd gan y pwyllgor gwaith lleol.

Bydd yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn ar Faes yr Brifwyl, yn ystod wythnos yr Eisteddfod a gynhelir ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst eleni.

Brodor o Dreorci yng Nghwm Rhondda yw Cennard Davies a heblaw am gyfnodau ym Mhrifysgol Abertawe a chwta flwyddyn yn yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, mae wedi byw yn y dref ar hyd ei oes.

Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, dychwelodd i’w hen ysgol, Ysgol Ramadeg y Porth, fel athro am gyfnod cyn mynd i Goleg y Barri i arwain cwrs yn y Gymraeg ar gyfer athrawon. Bu wedyn yn dysgu Cymraeg i oedolion am weddill ei yrfa. Dysgodd genedlaethau o drigolion yr ardal ar gwrs dwys a dod yn bennaeth Canolfan Astudiaethau Iaith Prifysgol Morgannwg. 

Yn ogystal â dysgu oedolion yn lleol, mae hefyd wedi cyfrannu at ddatblygu dysgu Cymraeg i Oedolion yn genedlaethol. Roedd yn gyfrifol am greu Catchphrase ar Radio Wales ac yn un o gyflwynwyr y gyfres. 

Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr ardal Dysgu Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn un o’r arloeswyr cynnar yn Nant Gwrtheyrn, ac yn awdur nifer o lyfrau.

Ochr yn ochr â gyrfa lwyddiannus, mae wedi bod yn ymgyrchydd brwd a chydwybodol. Bu’n gadeirydd Mudiad Meithrin yn y saithdegau ac mae wedi ymgyrchu’n ddiflino i sefydlu ysgolion Cymraeg yn yr ardal. Erbyn hyn, fe yw Llywydd Anrhydeddus Cronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg. 

Bu’n olygydd ‘Y Gloran’, papur bro'r Rhondda am ddegawdau, yn gynghorydd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, yn ddiacon ac yn ysgrifennydd Capel Hermon, Treorci. Mae wrth ei fodd mai yng Nghapel Hermon mae Côr Cwm Rhondda’n ymarfer ac mai Hermon yw cartref Eisteddfod y Rhondda.

Yn ddi-os, byddai’r Gymraeg yn yr ardal yn llawer tlotach heb ei gyfraniad oes.

Meddai cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni, Helen Prosser, “Mae’n fraint anrhydeddu Cennard Davies fel Llywydd Eisteddfod 2024 – dyn ei filltir sgwâr sydd wedi cyfrannu at Gymru gyfan. 

“Mae ei gyfraniad i’r sector Dysgu Cymraeg – yn lleol ac yn genedlaethol – yn amhrisiadwy. Gŵr bonheddig a sgwrsiwr heb ei ail, mae’n donic i gael treulio amser yn ei gwmni.”

Mae Cennard Davies yn dilyn amryw o Gymry amlwg fel Llywydd yr Ŵyl dros y blynyddoedd, gan gynnwys y cyflwynydd a’r DJ, Huw Stephens, yr hanesydd Elin Jones a chyn-reolwr cynorthwyol tîm pêl-droed dynion Cymru, Osian Roberts.