Yn y flwyddyn pan mae’r gystadleuaeth yn dathlu’i phen blwydd yn ddeugain oed, heddiw (12 Mehefin), cyhoeddwyd pwy yw’r pedwar sy’n cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni
Trefnir y gystadleuaeth ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Cafodd 30 o unigolion eu cyfweld eleni - y nifer uchaf erioed - gydag unigolion o Gymru a thu hwnt wedi’u henwebu, a’r rheini a ddaeth i’r brig oedd Alison Cairns o Lannerchymedd, Roland Davies o Lanidloes, Manuela Niemetscheck o Fethesda a Tom Trevarthen o Aberystwyth.
Beirniaid y rownd gynderfynol oedd Liz Saville Roberts, Geraint Wilson Price a Hannah Thomas. Bydd Tudur Owen yn cymryd lle Hannah ar y panel ar gyfer y rownd derfynol yn ystod yr Eisteddfod ym mis Awst.
Roedd y beirniaid yn gwbl gytûn fod y safon eleni’n uchel iawn unwaith eto, ac y byddai wedi bod yn hawdd iawn i ddewis naw i fynd yn eu blaenau i’r rownd derfynol. Ond gan mai dim ond pedwar sy’n gallu cyrraedd y rhestr, dyma barhau i drafod tan iddyn nhw ddod i benderfyniad.
A phwy felly yw’r pedwar? Dyma ychydig o’u hanes a’u taith gyda’r Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.
Alison Cairns
Yn wreiddiol o’r Alban mae Alison Cairns yn byw yn Ynys Môn erbyn hyn ac yn fam i saith o blant, ac yn byw ei bywyd yn y Gymraeg. Dechreuodd ddysgu ein hiaith drwy wrando ar BBC Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch, ac mae’n siarad yn hyderus, a hynny heb iddi gael gwers Gymraeg ffurfiol erioed. Cymraeg yw iaith y teulu, ac mae Alison, sy’n gweithio ym myd gofal, yn sylweddoli pa mor werthfawr yw defnyddio ein hiaith wrth ddelio gyda chleifion. Mae hi’n mwynhau gweithio gyda cheffylau a chic-bocsio ac mae hi’n gneifiwr profiadol sydd wedi ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd. Bydd Alison a’i phartner, Siôn yn priodi yn yr hydref.
Roland Davies
Dechreuodd Roland Davies, sy’n byw yn ardal Llanidloes, ddysgu Cymraeg ar ôl cyfarfod ei wraig, Fflur, a sylweddoli pa mor bwysig yw’r iaith iddi hi a’i theulu. Mynychodd wersi Cymraeg, a threuliodd wythnos yn Nant Gwrtheyrn, ac roedd yn astudio Duolingo a Say Something in Welsh yn gynnar bob bore cyn mynd i’r gwaith. Erbyn hyn mae ganddyn nhw dri o blant ifanc, a Chymraeg yw iaith y teulu. Mae’n perfformio gyda Chwmni Theatr Maldwyn, a newydd orffen teithio Cymru yn chwarae un o’r prif rannau yn y sioe ‘Y Mab Darogan’. Cafodd ei enwebu am y wobr oherwydd ei ymdrech ryfeddol i ddysgu Cymraeg ac am ei defnyddio’n ddyddiol gyda’r teulu, yn y gymuned ac yn y gwaith.
Manuela Niemetscheck
Yn wreiddiol o Ganada, mae Manuela Niemetscheck yn byw ym Methesda gyda’i theulu ac yn gweithio fel Seicotherapydd Celf yn Ysbyty Gwynedd. Mae Manuela’n siarad pum iaith a dysgodd Gymraeg drwy Wlpan a mynychu Nant Gwrtheyrn. Cafodd ei hysbrydoli i ddysgu ein hiaith nid yn unig oherwydd ei theulu a’i chymuned, ond hefyd gan ei bod yn credu bod defnyddio Cymraeg mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn eithriadol bwysig, ac mae ei chyfraniad i ddarparu gwasanaethau Cymraeg yn benodol yn Uned Hergest yn enfawr. Mae Manuela’n byw ei bywyd yn Gymraeg ac mae’n angerddol dros ein hiaith.
Tom Trevarthen
Fel cymaint o bobl, daeth Tom Trevarthen i Gymru i astudio yn y brifysgol. Disgynnodd mewn cariad gyda thref Aberystwyth a phenderfynu aros. Dilynodd gwrs TAR a chael swydd yn Ysgol Henry Richard, Tregaron, a mynd ati i ddysgu ein hiaith. Bu’n dysgu mewn gwersi ar-lein wythnosol yn ystod y cyfnod clo, cyn ymuno â’r cwrs dwys dros yr haf y llynedd. Mae’n astudio am radd ôl-raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ymchwilio i addysg yng Nghymru. Mae’n defnyddio’r Gymraeg bob dydd, wrth gymdeithasu, wrth weithio ac wrth astudio, ac mae’r iaith mae’n ei defnyddio gyda ffrindiau wedi troi o’r Saesneg i’r Gymraeg erbyn hyn. Mae’n hynod gefnogol i ddysgwyr eraill ac yn eu hannog i ddyfalbarhau.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr, ddydd Mercher 9 Awst, a bydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a £300, yn rhoddedig gan Gyngor Tref Pwllheli. Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un, gyda’r wobr yma hefyd yn rhoddedig gan Gyngor Tref Pwllheli.
Am ragor o wybodaeth Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, ewch i www.eisteddfod.cymru, ac am fwy am waith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, cliciwch ar www.dysgucymraeg.cymru.
Llun: Alison Cairns, Roland Davies, Manuela Niemetscheck, Tom Trevarthen