Coron Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd
13 Meh 2023

Heno (13 Mehefin) cyflwynwyd Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn seremoni arbennig yn Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog

Noddir y Goron gan Gangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru, a rhoddir y wobr ariannol o £750 gan Deulu Bryn Bodfel, Rhydyclafdy, er cof am Griffith Wynne.  Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y Goron gan Elin Mair Roberts.

Fe’i cyflwynir am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc ‘Rhyddid’.  Y beirniaid eleni yw Jason Walford Davies, Elinor Wyn Reynolds a Marged Haycock.

Y Lôn Goed, y llwybr hanesyddol pwysig sy'n ffinio Llŷn ac Eifionydd yw canolbwynt y Goron eleni, a defnyddiwyd ei ffiniau fel sail iddi. Efelychir y gweadau a welir yng nghefn gwlad mewn arian arni, ac fe gynrychiolir cyfoeth tir yr ardal yn neunydd gwyrdd y benwisg.

Cynrychiolir ffiniau rhwng ffermydd a thiroedd, yn ogystal â’r gwrychoedd a’r waliau cerrig a welir yn draddodiadol yn ardaloedd yr Eisteddfod ar y Goron hefyd.  Gwrychoedd sy’n nodweddiadol yn Llŷn a waliau cerrig yn Eifionydd.  Mae ‘ffin’ yn warchodol i fyd amaeth, a’r bwriad oedd amlygu hyn yn y dyluniad. 

Ychwanegodd Elin Mair ddarn o’i gemwaith i’r dyluniad hefyd, sef cennin pedr wedi’i wneud o aur melyn 18ct.

Yn ogystal â’r Goron, mae’r Gadair hefyd yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith heno.

Cyflwynir y Gadair eleni am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o’r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau, ar y teitl 'Llif'.  Y beirniaid yw Cathryn Charnell-White, Karen Owen a Rhys Iorwerth.

Y crefftwr Stephen Faherty sy’n gyfrifol am gynllunio a chreu’r Gadair.  Noddir y Gadair gan deulu’r diweddar Dafydd Orwig, addysgwr, arloeswr a chyn-gadeirydd Cyngor Sir Gwynedd.

Lluniwyd y Gadair eleni o ddarn mawr o goeden dderw a blannwyd ar ymyl y Lôn Goed dros 200 mlynedd yn ôl. Anfarwolwyd y llwybr chwe milltir o hyd yn y gerdd 'Eifionydd' gan R Williams Parry.

Chwythodd gwyntoedd cryfion Storm Darwin y goeden gyfan i lawr ym mis Chwefror 2014, a chyflwynwyd darn ohoni i’r Eisteddfod gan Eifion Williams, Tyddyn Heilyn, pan glywodd fod yr Eisteddfod i'w chynnal yn lleol.

Mae Stephen yn grefftwr sy'n arbenigo mewn cerflunio, wedi naddu'r gadair, nid ei chreu o ddarnau o dderw, ac mae’n un o'r ychydig rai fydd wedi eu naddu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Mae'n ddarn arbennig o bren, ac roedd o'n gweddu i'w gerfio i gadair. Wrth gwrs rydw i wedi gorfod defnyddio llif i dorri'r bonyn yn siâp cadair ond mae'n gadair sydd wedi’i chreu o un darn o bren.  Fy mwriad o'r cychwyn cyntaf oedd gadael y bonyn i siarad drosto’i hun. Mae graen prydferth i'r bonyn ac rydw i am i hwnnw ddod allan a sgleinio. Yn bendant bydd yn tynnu’r llygad.”

Wrth dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain, “Mae’n bleser bod yma heno i dderbyn y Goron a’r Gadair ar ran yr Eisteddfod.

“Dyma’r cyfle cyntaf i ni weld dwy wobr arbennig sy’n cynrychioli ac adlewyrchu Y Lôn Goed mewn ffyrdd gwahanol iawn.  Mae’r ddwy’n hyfryd o hardd, ac yn destun balchder i ni yma yn Llŷn ac Eifionydd.  Rwy’n sicr bod pawb ar hyd a lled Cymru, fel ninnau, wedi ein gwefreiddio wrth eu gweld am y tro cyntaf heno.

“Mae heno’n gyfle i ddiolch.  Rydyn ni’n diolch i Gwynedd Watkin a changen Sir Gaernarfon, Undeb Amaethwyr Cymru a theulu’r diweddar, annwyl Griffith Wynne, Bryn Bodfel, am eu haelioni yn noddi’r Goron a’r wobr ariannol.  Diolch hefyd i Elin Mair, merch o Y Ffôr, am Goron mor hardd a chain, sy’n adlewyrchu ein hardal mewn ffordd mor hyfryd.

“Ac yna’r Gadair, wedi’i chreu o un darn o fonyn coeden a fu’n tyfu ar Y Lôn Goed am ddwy ganrif.  Diolch i Eifion Williams am y coedyn, i Stephen Faherty am ei waith ysbrydoledig, ac i Huw Orwig, a dreuliodd ddyddiau lu yn helpu Stephen wrth iddo gwblhau’r gwaith.  Yn olaf, diolch i deulu Dafydd Orwig, un a wnaeth gymaint o gyfraniad i Wynedd a Chymru, am eu haelioni; i Beryl, Huw, Guto ac Owain am gyflwyno’r Gadair, ac i Siân, Sharon a Non am y wobr ariannol. 

“Mae’n anodd credu ein bod ni, o’r diwedd, ar fin nodi mai dim ond hanner cant o ddyddiau sydd i fynd tan y byddwn yn agor y giatiau i Brifwyl Boduan, a hynny ar ôl i ni fod yn gweithio ar y paratoadau ers pedair blynedd. 

“Dechreuodd y gwaith ar y Maes ddoe, ac mae ein gwaith ni fel gwirfoddolwyr ar draws y fro yn tynnu tua’r terfyn rŵan - ond ddim tan ein bod ni wedi croesawu pawb atom i Lŷn ac Eifionydd ddechrau Awst.  Mae ‘na chwip o Eisteddfod yn ein haros, felly dewch yn llu!”

Cynhelir seremoni’r Coroni ddydd Llun 7 Awst am 16.30, a seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener 11 Awst am 16.30 yn y Pafiliwn Mawr.

Gellir prynu tocynnau ymlaen llawn drwy fynd i’r wefan, www.eisteddfod.cymru. Gellir hefyd brynu tocynnau wrth gyrraedd y Maes ar y diwrnod.

Ewch ar-lein am wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, a gynhelir ym Moduan o 5-12 Awst.

-diwedd-

Mae’r Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd wedi creu ymateb i’r Goron a’r Gadair isod:

Y Goron
Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023

Y Lôn Goed, heb lan na gwaith,
Llinyn meddal ein talaith:
Mae hi’n hardd yn salm ein hiaith.

Y Lôn Goed: deilen o gân
Yr adar gan fardd arian
Y môr, y mawn a’r marian.

Cerddi ’leni biau’r Lôn;
Yn ias y brigau gleision
Uwch ei gwair, gwelwch goron.

Y Gadair
Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023

Daeth storm i chwalu drwy’r dyddiau duon
A breuder oedd ar lwybrau’r derwyddon:
Daeth y boncyff mawr i lawr ar y Lôn.
Ond dawn a ddaeth, a’i llygaid yn ddoethion –
Gwelodd ruddin drwy galon – y gaeaf;
Heddiw daw’r haf fel bardd i dir Eifion.

 

Yn ogystal, mae Esyllt Maelor, enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion y llynedd wedi cyfansoddi cerdd i gyfarch gwneuthurwr y Goron, Elin Mair:

I Elin Mair

(I ddiolch am Goron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023)

Mae coron.

Lôn Goed o goron yw hi.

Un wylaidd a’i rhwysg yn geinder dail a blodau gwyllt.

Un ddiymffrost a’i hurddas mewn waliau cerrig a phlethiad gwrychoedd.

Un ostyngedig a’i bwâu yn gwarchod ffermydd a ffiniau, caeau a chwmwd. 

Un ddiymhongar a’i sŵn yn swyn dwy afon ac yn ei harian byw mae cof, gwlad a chenedl.

Mae coron.

 

A bydd Stephen Faherty, gwneuthurwr y Gadair eleni’n cael ei gyfarch gan Llŷr Gwyn Lewis, enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion:

Cerdd y Gadair 2023

Yr hen dderwen ddaearwyd ger y lôn,

ac ar lawr fe’i gadwyd

fel rhyw ddôr nas agorwyd:

glaw llwm ar ei rhisgl llwyd.


Ond pa iws codi pwysi? Mae ’na waith.

Mi awn nôl drwy ddrysi

y goedwig i’w hailgodi

yn faen hir, yn gefn i ni.

 

Ewch i holi, a chwiliwch y llif hud

all fywhau ei hagrwch,

a all hel hen win o’r llwch:

a all naddu llonyddwch.