Ymhen deufis, bydd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn agor ei giatiau i bawb, gyda chyfres wych o gyngherddau yn y Pafiliwn Mawr.
Gan gychwyn gyda noson arbennig yng nghwmni’r grŵp gwerin hynod, Pedair (Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard, Meinir Gwilym a Siân James), bydd Côr Gwerin yr Eisteddfod yn agor yr wythnos gyda chyngerdd hyfryd, ‘Y Curiad: Ddoe, Heddiw, Fory’, sy’n cynnwys llond lle o artistiaid amlwg Cymru yn westeion arbennig, Gwilym Bowen Rhys, Elidyr Glyn, Einir Humphreys, Twm Morys, Tudur Phillips, Patrick Rimes a band gwerin. Bydd hon yn sicr yn noson i’w chofio, a chyda côr yr Eisteddfod yn llenwi’r llwyfan, dyma gyngerdd sy’n sicr o apelio at gynulleidfa eang iawn.
Yn ôl yr arfer, y Gymanfa Ganu fydd yn y Pafiliwn Mawr nos Sul, 6 Awst, a hynny gyda’r arweinydd profiadol Pat Jones wrth y llyw. Yr organydd yw Ilid Anne Jones a bydd Côr y Gymanfa’n ymuno i ganu’r emynau, ynghyd â chanu cyfres o drefniannau newydd o rai o ganeuon enwocaf Leila Megàne, y mezzo-soprano enwog o Lŷn a dreuliodd ei gyrfa’n teithio ledled Ewrop a’r Unol Daleithiau yn swyno cynulleidfaoedd. Bydd nifer o’r caneuon yn adnabyddus iawn, gan gynnwys - ‘Gwlad y Delyn’, ‘Bwthyn Bach To Gwellt’, ‘Pistyll y Llan’, ‘Y Nefoedd’ a ‘Dafydd y Garreg Wen’. Paratowyd y trefniannau gan Ilid Anne Jones, ac fe’u golygwyd gan Huw Gwynne. Bydd cyfle hefyd i fwynhau perfformiad gan Gôr Telynau lleol.
Nos Fawrth a nos Fercher, bydd criw gwych Cabarela’n dychwelyd i lwyfan y Pafiliwn gyda sioe newydd sbon, Cracharela. Pwy â ŵyr beth fydd yn ein disgwyl, ond mae un peth yn sicr, os ydych chi’n gul eich meddwl, neu’n cael trafferth i gael hwyl a bod ychydig yn wamal o dro i dro, fyddwch chi ddim eisiau gwybod am y sioe hollwych sy’n cael ei chynnal ddwywaith eleni, oherwydd y galw mawr am docynnau i weld Cabarela y llynedd.
Ac i gloi’r wythnos, mae Gig y Pafiliwn yn ôl, a hynny yng nghwmni Huw Stephens a Cherddorfa’r Welsh Pops unwaith eto eleni. Bydd y gig eleni’n gyfle i roi llwyfan i rai o artistiaid mwyaf cyffrous y sîn yng Nghymru, ac yn cynnwys Dom a Lloyd, Mr Phormula, Izzy Rabey ac Eädyth , skylrk, ac Aneirin Karadog, gyda mwy i ddod!
Bydd tocynnau’n mynd ar werth dydd Gwener 16 Mehefin, a hynny i nodi mai 50 diwrnod yn unig sydd i fynd tan ddechrau’r Eisteddfod ym Moduan. Meddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Michael Strain, “mae’n bleser gennym ni gyhoeddi lein-yp ein cyngherddau ni heno, ac rwy’n siŵr y bydd pawb yn cytuno bod gennym ni gymysgedd arbennig iawn o nosweithiau yn y Pafiliwn Mawr. Mae dau Gôr Eisteddfod eleni, un yn cael y wefr o berfformio gyda Pedair a llu o artistiaid arbennig iawn yn ein noson agoriadol, Y Curiad, Ddoe, Heddiw, Yfory a Chôr y Gymanfa, sy’n perfformio premier o drefniannau newydd o rai o ganeuon Leila Megàne, sy’n sicr yn ffefrynnau mawr i gymaint ohonon ni yma yng Nghymru.
“Bu Cabarela’n gymaint o lwyddiant yng Ngheredigion y llynedd, fel ein bod ni’n cael eu croesawu nhw ddwywaith eleni, ac rydw i hefyd yn edrych ymlaen at Gig y Pafiliwn go wahanol gyda llond lle o artistiaid cyffrous yn llenwi’r Pafiliwn.
“Bydd nifer o bobl wedi clywed si bod Na, Nel! yn dychwelyd i’r Eisteddfod eleni - gwyliwch allan am gyhoeddiad cyffrous am sioe i’r teulu cyfan yn fuan. A byddwn ni hefyd yn cyhoeddi ein hamserlenni ni dros yr wythnosau nesaf, gyda chyfle i bawb ddechrau paratoi ar gyfer yr wythnos a chynllunio lle i fynd yn ystod y dydd - ac yn hwyr i’r nos.
“Y dyddiad mawr nesaf yw dydd Gwener 16 Mehefin - 50 diwrnod i fynd. Dyma pryd y bydd ein tocynnau cyngherddau’n mynd ar werth felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n llwyddo i fachu tocyn i un o’n nosweithiau gwych ni. Ac yna, ymhen dim o dro, byddwn yn agor y giatiau ym Moduan er mwyn croesawu pawb atom ar gyfer wythnos arbennig iawn sy’n sicr o ddenu pobl o bob oed i gael blas ar groeso arbennig pobl Llŷn, Eifionydd ac Arfon.”
Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru