Esyllt Nest Roberts Arweinydd Cymru a'r Byd 2023
8 Meh 2023

Heddiw, cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol mai Esyllt Nest Roberts de Lewis, Y Wladfa, Patagonia fydd Arweinydd Cymru a’r Byd ym Mhrifwyl Llŷn ac Eifionydd eleni

Yn wreiddiol o Bencaenewydd ym mro’r Eisteddfod eleni, aeth Esyllt i’r Wladfa ym Mhatagonia yn 2004 i weithio fel athrawes ar Gynllun yr Iaith Gymraeg. Ymsefydlodd yno ar ôl priodi Cristian ac mae ganddynt ddau fab, Mabon ac Idris - sydd wrth eu boddau yn ymweld â’r teulu yng Nghymru.

Mae Esyllt yn gweithio fel athrawes Gymraeg, athrawes delyn, cyfieithydd a golygydd. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd a Chadair Eisteddfod y Wladfa ac mae’n mwynhau hyfforddi plant i lefaru a llenydda yn eisteddfodau’r Wladfa a chynnal y diwylliant Cymraeg yno.

Mae’n cyfrannu i gyhoeddiadau yng Nghymru yn sôn am y Wladfa, yr hanes a’r traddodiadau. Yn ddiweddar fe’i hetholwyd ar bwyllgor gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin sy’n cynnal cysylltiadau rhwng y ddwy wlad ac mae’n hynod ddiolchgar am waith y gymdeithas yn cefnogi’r Gwladfawyr. Ystyria’r gwahoddiad hwn i fod yn Arweinydd Cymru a’r Byd ym mro ei mebyd yn fraint o’r mwyaf.

Bydd yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni ar gychwyn Cymanfa Ganu’r Eisteddfod a gynhelir nos Sul 6 Awst yn y Pafiliwn Mawr, ar faes yr Eisteddfod.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan o 5-12 Awst eleni.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.