Liz Saville Roberts
6 Meh 2023

Heddiw cyhoeddodd yr Eisteddfod mai Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, fydd Llywydd yr Ŵyl Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni, yn dilyn gwahoddiad gan y pwyllgor gwaith lleol

Bydd yn annerch y gynulleidfa o lwyfan y Pafiliwn Mawr ar Faes yr Brifwyl, yn ystod wythnos yr Eisteddfod a gynhelir ym Moduan o 5-12 Awst eleni.

Etholwyd Liz Saville Roberts gyntaf yn 2015, y ddynes gyntaf i gynrychioli Dwyfor Meirionnydd ac AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru. Cadwodd y sedd yn etholiadau brys 2017 a 2019 gyda chanran uwch o’r bleidlais.

Yn wreiddiol o Eltham yn ne Llundain, dysgodd Liz Gymraeg tra yn y brifysgol yn Aberystwyth. Bu’n gweithio fel newyddiadurwraig yn Llundain a gogledd Cymru ac yna fel darlithydd addysg bellach gyda Choleg Meirion Dwyfor, lle datblygodd addysg Gymraeg. Cyn ei hethol i San Steffan, roedd Liz yn Gynghorydd Sir Gwynedd rhwng 2004 a 2015 gan gynrychioli Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn.

Yn 2017 penodwyd Liz fel Arweinydd Seneddol Grŵp Plaid Cymru San Steffan a hi yw Llefarydd y Blaid ar y Swyddfa Gartref, Trafnidiaeth, Merched a Chydraddoldeb, Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, a Chyfiawnder.

Mae Liz wedi byw ym Mhen Llŷn gyda’i gŵr Dewi ers 1993, ac mae ganddynt ddwy ferch, Lowri a Lisa.  Mae hi’n un o feirniaid cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni, a bydd yn cymryd rhan mewn nifer o sesiynau amrywiol ar hyd a lled y Maes yn ystod yr wythnos.

Mae Liz yn dilyn amryw o Gymry amlwg fel Llywydd yr Ŵyl dros y blynyddoedd, gan gynnwys y cyflwynydd a’r DJ, Huw Stephens, yr hanesydd Elin Jones a chyn-reolwr cynorthwyol tîm pêl-droed dynion Cymru, Osian Roberts.

Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod ac i brynu tocynnau Maes, ewch i www.eisteddfod.cymru.