Mereid Hopwood
24 Meh 2023

Heddiw, yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, cyhoeddwyd mai enw Mererid Hopwood fydd yn cael ei gyflwyno i gyfarfod cyffredinol Bwrdd yr Orsedd ar gyfer swydd yr Archdderwydd am y cyfnod o 2024-27

Cynhelir y cyfarfod hwnnw yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni.

Mae Mererid yn fwyaf adnabyddus i gynulleidfa’r Brifwyl fel y ferch gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod, a hynny yn Eisteddfod Sir Ddinbych yn 2001.  Mae’n un o’r criw dethol o feirdd a llenorion sydd wedi llwyddo i bontio rhwng barddoniaeth a rhyddiaith, gan ennill y Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith. 

Enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw, wobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016. Bu’n fardd plant Cymru a derbyniodd wobr Tir na nÓg am un o’i nofelau i blant yn 2018.  Mae’n un o lywyddion anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams. Yn ei gwaith, mae’n Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth ac mae hi hefyd yn ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru.

Yn enedigol o Gaerdydd, fe’i haddysgwyd yn Ysgol Llanhari, yn nalgylch yr Eisteddfod yn 2024, a dyma’r ardal lle y bydd yn cychwyn ar ei gwaith fel Archdderwydd. 

Seremoni’r Cadeirio, brynhawn Gwener 11 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, fydd seremoni olaf yr Archdderwydd presennol, Myrddin ap Dafydd.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan o 5-12 Awst eleni.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.