17 Mai 2023

Mae Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn prysur agosáu gyda llai na thri mis i fynd tan y Brifwyl ym Moduan o 5-12 Awst.

Gydag ychydig wythnosau'n unig ers i’r trefnwyr agor y porth gwirfoddoli ar gyfer eleni, mae dros 1350 o sesiynau gwirfoddoli unigol ar gyfer yr wythnos eisoes wedi’u llenwi, gan dorri pob record!

Un sy’n gwirfoddoli fel rhan o dîm yr Eisteddfod ers dechrau’r daith yn Llŷn ac Eifionydd bron i bedair blynedd yn ôl yw Michael Strain, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, sydd wedi bod yn annog pobl o bob cwr o’r dalgylch a thu hwnt i ddod i helpu yn ystod yr wythnos.  Meddai, “Rydyn ni wedi gwirioni gyda’r ymateb i’r apêl am wirfoddolwyr i ddod atom i Foduan ym mis Awst, ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cynnig dod i helpu ar hyd a lled y Maes. 

“Mae denu gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o genadwri’r Eisteddfod yn flynyddol, ac rydw i mor falch o weld bod cynifer o bobl leol wedi ymuno â’r tîm, gyda nifer fawr ohonyn nhw’n cynnig helpu am y tro cyntaf.  Eleni yw ein cyfle ni i gynnal ein gŵyl genedlaethol yn Llŷn ac Eifionydd, ac rydw i mor falch y bydd ‘na gymaint o drigolion lleol yn gwirfoddoli o amgylch y Maes i gynnig croeso cynnes ac unigryw ein hardal ni i bawb.”

Mae’r Eisteddfod hefyd yn denu gwirfoddolwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt, ac yn ôl Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, mae’r cyfle i wirfoddoli yn y Gymraeg yn rhan bwysig o apêl yr ŵyl. Dywed, “Mae llwyddiant yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddibynnol ar gefnogaeth a chymorth llu o wirfoddolwyr, nid yn unig yn ystod yr wythnos ond drwy gydol y flwyddyn, wrth baratoi ar gyfer y Brifwyl, ac rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sy’n rhan o’r tîm.

“Mae’r ffaith fod nifer fawr o siaradwyr Cymraeg newydd yn defnyddio gwirfoddoli yn yr Eisteddfod fel cyfle i gael mwy o hyder i ddefnyddio ein hiaith yn gymunedol yn bwerus iawn, ac rydyn ni’n croesawu’r gwaith mae’r Eisteddfod yn ei wneud yn y maes hwn, yn lleol a chenedlaethol yn arw iawn.  Rwy’n edrych ymlaen at gael sgwrsio gyda nifer o wirfoddolwyr ar y Maes ym Moduan ym mis Awst, a diolch i chi am gefnogi ein hiaith a’n diwylliant mewn ffordd mor ymarferol.”

Mae sicrhau gwaddol gwirfoddoli ar ddiwedd yr Eisteddfod hefyd yn rhan bwysig o weledigaeth yr ŵyl, ac mae’r trefnwyr wedi bod yn cydweithio’n agos gyda Menter Iaith Gwynedd dros y misoedd diwethaf ar brosiect ‘Tyrd i Helpu’ sy’n annog trigolion Gwynedd i wirfoddoli mewn pob math o weithgareddau Cymraeg ar hyd a lled y sir. 

Mae croeso i grwpiau a sefydliadau sy’n chwilio am wirfoddolwyr i gysylltu â Menter Iaith Gwynedd os oes angen gwirfoddolwyr ar gyfer unrhyw ddigwyddiad Cymraeg sy’n cael ei gynnal yng Ngwynedd, a bydd gwybodaeth yn cael ei rannu gyda phawb sydd ar y bas data.  Y gobaith yw denu cannoedd o wirfoddolwyr sy’n hapus i helpu, a cheir rhagor o wybodaeth am y cynllun Tyrd i Helpu yma, https://eisteddfod.cymru/2023-tyrd-i-helpu.

Am ragor o wybodaeth am wirfoddoli yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, ac i ymuno â’r tîm, ewch i https://2023.eisteddfod.cymru/gwirfoddoli.  Mae cyfleoedd i wirfoddoli yn Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Rhondda Cynon Taf hefyd wedi agor, ac os hoffech chi fod yn rhan o’r tîm sy’n helpu yn Aberdâr ar ddydd Sadwrn 24 Mehefin, ewch i https://eisteddfod.cymru/2024-cyhoeddi.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan o 5-12 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.