Stephen Faherty
Eryl Crump - 20 Chwef 2023

Mewn gweithdy yn ddwfn yng nghanol Eifionydd mae Cadair Eisteddfod 2023 yn cael ei chreu o ddarn mawr trwm o goeden dderw a blannwyd ar ymyl y Lôn Goed dros 200 mlynedd yn ôl.

Anfarwolwyd y llwybr chwe milltir o hyd yn y gerdd Eifionydd gan R Williams Parry.

Chwythodd gwyntoedd cryfion storm Darwin y goeden gyfan i lawr ym mis Chwefror 2014 ac ers hynny bu'r tameidiau wedi eu cadw'n ofalus ar fferm gyfagos.

Pan glywodd Eifion Williams, sy'n ffermio Tyddyn Heilyn, fod yr Eisteddfod i'w chynnal yn yr ardal cynigiodd un o'r darnau i swyddogion y Brifwyl ac yn ddiweddarach dewiswyd Stephen Faherty, sy'n byw ger Rhuthun erbyn hyn ond sy'n hanu o Brenteg ger Porthmadog i greu'r Gadair.

"Dydw i heb wneud cadair fel hon o'r blaen a doeddwn ddim wedi meddwl am wneud chwaith. Doedd gen i ddim cefndir Eisteddfodol er fy mod yn cofio'r un ym Mhorthmadog yn 1987 wrth gwrs.

"Fy ffrind, Bleddyn, awgrymodd fy mod yn rhoi cynnig arni," meddai Stephen, a luniodd ddyluniad o'r Gadair ar ôl bod yn gweld y bonyn a chymryd mesuriadau manwl.

"Doeddwn i ddim yn gwybod be’ i’w ddisgwyl pan es i draw i weld y bonyn gynta' a ddim yn siŵr y baswn yn medru gwneud cadair chwaith ond fe welais y posibiliadau yn syth ar ôl cyrraedd.

"Mae gen i ddiddordeb mawr yn hanes y Celtiaid a'u harfer o godi cerrig hir. Mae 'na un heb fod ymhell o'r Lôn Goed a ns i feddwl y byddai’n bosib gwneud rhywbeth tebyg efo'r bonyn yma. Ar ôl mesur ac archwilio'r bonyn yn fanwl ro’n i’n siŵr."

Cyflwynodd Stephen ei gynllun i banel o swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol a theulu'r diweddar Dafydd Orwig, cyn-gynghorydd ac Arweinydd Cyngor Gwynedd ac ymgyrchydd brwd dros yr iaith Gymraeg, sy'n noddi'r gadair.

"Roedd Stephen wedi creu model o'r gadair ac wedi dod â fo i'r cyfarfod. Ro’n iwedi fy syfrdanu a dwi’n siŵr nad y fi oedd yr unig un ac fe gafodd Stephen y comisiwn," meddai Huw Orwig, mab y diweddar gynghorydd.

Dechreuwyd ar y gwaith yn ystod yr hydref pan gludwyd y bonyn i'r gweithdy.

Mae Stephen, 50, yn grefftwr sy'n arbenigo mewn cerflunio, yn naddu'r gadair o'r bonyn yn hytrach na'i dorri fyny a'u siapio i ffurf cadair. Bydd y gadair orffenedig yn un o'r ychydig rai fydd wedi ei naddu ar gyfer yr Eisteddfod genedlaethol.

"Dwi'n credu mai dim ond un arall sydd wedi ei chreu fel hyn.  Mae'n ddarn arbennig o bren ac mae o'n gweddu i'w gerfio i gadair. Wrth gwrs dwi wedi gorfod defnyddio llif i dorri'r bonyn yn siâp cadair ond mae'n gadair sy'n cael ei chreu o un darn o bren," meddai.

Ychwanegodd fod y bonyn, sy'n pwyso tua 150 cilogram (330 pwys neu 23 stôn), wedi ei ffurfio i siâp y gadair y diwrnod cyntaf.

Ond ers hynny mae Stephen wedi bod yn naddu, plaenio a thocio yma ac acw'n ofalus.

"Fy mwriad o'r cychwyn cyntaf yw gadael y bonyn i siarad drosto ei hun. Mae graen prydferth i'r bonyn a dwi am i hwnnw ddod allan a sgleinio. Yn bendant bydd yn tynnu llygaid!" meddai.

Fel rhan o'r cynllun, a hynny'n cadw at ddymuniadau'r teulu, bydd darn o lechen o ardal enedigol Dafydd Orwig yn cael ei ysgythru gyda'r Nod Cyfrin a'i osod ar ben y bonyn.

Bwriedir hefyd rhoi darn arall o lechen ym mraich y Gadair lle mae hollt naturiol yn y bonyn ar hyn o bryd. Gan fod Dafydd Orwig wedi treulio bron i ddegawd yn byw ym mhentref Carnew yn Swydd Wicklow, Iwerddon wedi i'w dad dderbyn swydd fel rheolwr mewn chwarel yno mae'r teulu a Stephen yn gobeithio teithio i'r Ynys Werdd i ddod o hyd i ddarn o lechen addas i gymryd ei le yn y Gadair.

Bydd y siwrnai yn un hiraethus i Stephen gan fod ei ddiweddar dad wedi ei eni a'i fagu yn swydd Connemara yng ngorllewin Iwerddon ac wedi teithio i Gymru yn ystod y 1960au i weithio ar adeiladu atomfa Trawsfynydd ger Blaenau Ffestiniog. Wedi cwblhau'r atomfa arhosodd yn yr ardal i fagu ei deulu.

Dywedodd Stephen: "Roedd yn gweld tebygrwydd rhwng Eifionydd a Connemara ac yn dweud hynny'n aml gan ychwanegu fod gwaith yma yng Nghymru ac nid yn ei fan enedigol.

"Roedd yn siarad Gaeleg ac yn gwrando ar y newyddion ar radio Iwerddon. Doeddwn ddim yn deall ond ambell i air ond roedd yn dysgu rhywfaint inni. Cyn noswylio ro’n i’n cyfri’ i ddeg yn yr iaith," meddai.

Fel un sydd wedi teithio cryn dipyn yn ei fywyd - bu'n byw yn yr Unol Daleithiau a Sbaen ac ambell fan yn Lloegr - mae Stephen yn falch o'r cyfle i ddod 'nôl i Gymru. Un o'i obeithion yw creu cyfres o gerfluniau o bobl amlwg a'u gosod mewn mannau priodol.

"Y cerflyn cyntaf i mi ei greu oedd yr un o William Alexander Maddocks ar y Cob ym Mhorthmadog ond dwi'n awyddus i greu cerfluniau o bobl fel Twm o'r Nant a Dic Aberdaron a'u gosod yn agos i lle roeddan nhw’n byw. Gawn ni weld os daw'r freuddwyd yn wir," meddai. 

Awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, hyd at 250 o linellau dan y testun, Llif, yw gofynion cystadleuaeth y gadair eleni. 1 Ebrill, yw'r dyddiad cau am gynigion a bydd y porth cystadlu’n agor yr wythnos yma.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan, Pwllheli o 5-12 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.