Pafiliwn

Rhybudd – Rhaid i bawb sydd am weld y seremoni fod yn eu seddau erbyn 15:45

Nid agorir y drysau wedyn hyd nes bod gorymdaith yr Orsedd wedi gadael y Pafiliwn tua 17:00

Ffanffer a gorymdaith yr Archdderwydd a’i hosgordd

Seremoni cyflwyno cynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd a Gorsedd Y Wladfa i’r Archdderwydd, a’u croesawu i’r Eisteddfod

O Orsedd Cernyw: Bardd Mawr Cernyw, Mab Stenek Veur; Kesklywores

O Orsedd Llydaw: Pig An Eien, Balafenn an Tan

O Orsedd Y Wladfa: Ivonne Maes Llaned, Siarl o'r Cwm

O Iwerddon (Oireachtas): Mairin Nic Dhonnchadha, Liam O Maolaodha

Ynys Manaw (In Chruinnaght): Paul Salmon, Nicola Tooms

O’r Alban (Mod): Maggie Cunningham, John Byrne

Gwahoddir cynrychiolydd y Mod i annerch y gynulleidfa

Cliciwch yma i ddarllen yr anerchiad

Seremoni Coroni’r Bardd

Canu’r Corn Gwlad: Dewi Corn a Gwyn Anwyl

Gofynnir i aelodau’r gynulleidfa sefyll pan genir y Corn Gwlad i’w cyfeiriad, ac aros ar eu traed tra offrymir Gweddi’r Orsedd

Gweddi’r Orsedd: Huw Euron

Gair o groeso gan yr Archdderwydd, a chyflwyno beirniaid cystadleuaeth y Goron: Tudur Dylan Jones, Guto Dafydd, Elinor Gwynn

Beirniadaeth: Tudur Dylan Jones

Pryddest neu gasgliad o gerddi hyd at 250 o linellau: Atgof

Gwobr: Coron yr Eisteddfod a £750 (Ysgol Garth Olwg sydd yn parhau i feithrin Cymry Cymraeg balch yn ardal Pontypridd)

Geilw’r Archdderwydd ar yr osgordd i gyrchu’r bardd buddugol, a gofynnir iddynt sefyll ar alwad y Corn Gwlad

Cyhoeddir enw’r bardd buddugol ac fe’i gwahoddir i eistedd yn hedd yr Eisteddfod

Coroni’r Bardd yn ôl braint a defod yr Orsedd

Cywydd y Coroni: Menna Tomos a Gavin Rhydfelen

Cyfarch y Bardd: Y Prifardd Rhys Iorwerth

Cyflwynir dawns er anrhydedd i’r bardd buddugol

Cyflwynydd y Corn Hirlas: Seren Hâf MacMillan

Macwyaid y Llys: Rhys Thomas a Jacob Watkins

Cyflwynydd y Flodeuged a Chynnyrch y Meysydd: Ffion Haf Roberts

Llawforynion y Llys: Mari Butcher ac Efa-Grug Thomas

Plant y Ddawns: Anwen Adams, Atlanta Tierney, Beca George, Bethan Dethridge, Briallen Davies, Ela-Mai MacDonald, Elin Lewis, Gruffydd Morris, Gwenni Cordingley, Gwenni Owen-Griffiths, Gwenno Fortt, Hallie Tinson, Lowri Davies, Maddie Coppin, Mared Jones, Martha Champion, Stephanie Hitchins

Hyfforddwyd y dawnswyr gan Eirlys Britton a Gavin Ashcroft

Ymgynghorydd: Myfanwy Rees

Hen Wlad fy Nhadau

Arweinir y bardd buddugol allan gan yr Archdderwydd, â’r Orsedd yn eu hebrwng

Gofynnir yn garedig i’r gynulleidfa aros yn eu seddau nes i’r orymdaith adael y Pafiliwn

Telynores y Seremoni: Telynores Glannau Taf

Organydd: Euros Llys-myfyr