Elin Mair
Eryl Crump - 13 Chwef 2023

Y Lôn Goed, y llwybr hanesyddol pwysig sy'n ffinio Llŷn ac Eifionydd yw canolbwynt Coron yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bwriad Elin Mair Roberts, sy'n hanu o Y Ffôr ger Pwllheli, yw defnyddio’r ffiniau fel sail i’r Goron.

Magwyd y gemydd 31-mlwydd oed ar fferm ac mae eisoes wedi cychwyn gwaith ar y Goron yn ei gweithdy yng Nghaernarfon. Mae'n cadw manylion manwl y dyluniad yn dynn i'w chôl, ond yn fodlon datgelu ei bod yn bwriadu defnyddio arian, gan sicrhau ymdriniaeth benodol o’r metel i efelychu’r gweadau a welir yng nghefn gwlad. Er mwyn cynrychioli cyfoeth tir yr ardal bydd Elin yn defnyddio'r lliw gwyrdd ar gyfer deunydd y benwisg.

Dewiswyd Elin Mair i greu'r Goron ar gyfer y gystadleuaeth sy'n gwahodd beirdd i gyfansoddi pryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd a hyd at 250 o linellau ar y testun Rhyddid.

Y wobr yw'r Goron, sy'n cael ei noddi gan Gangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru a £750 sy'n rhoddedig gan Deulu Bryn Bodfel, Rhydyclafdy, er cof am Griffith Wynne.

Gwelodd un o ffrindiau Elin Mair hysbysiad Undeb Amaethwyr Cymru yn y papur bro yn estyn gwahoddiad i unrhyw un oedd â diddordeb mewn cynnig dyluniad a gwneud Coron yr Eisteddfod i wneud hynny.  Meddai Elin Mair: "Doeddwn ddim wedi meddwl gwneud ond wedi meddwl amdan y peth dyma benderfynu rhoi cynnig arni.

"Roedd hynny yn 2020 wrth gwrs am fod yr Eisteddfod Genedlaethol i fod i ddigwydd ym Moduan yn 2021. Ond daeth Covid-19 a rhoi stop ar bob dim.  Fe gedwais y dyluniad a'i ddanfon fewn llynedd ac roeddwn wrth fy modd pan glywais mai fy nyluniad oedd wedi ei ddewis ar gyfer y Goron eleni.

"Mae'n fraint ac yn anrhydedd i gael y cyfle i ddylunio a chreu coron Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd." 

Mae Elin Mair wedi bod yn dylunio gemwaith cyfoes a chofroddion cofiadwy ers 2011.  Bu’n dilyn cwrs yn Hatton Garden yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru. Dros y blynyddoedd mae ei dull o weithio wedi datblygu o frasluniau cyflym a cherflunwaith i ddylunio tri dimensiwn, ac mae hi’n disgrifio ei gemwaith fel rhywbeth "benywaidd, blodeuog a dainty".  Mae ei gwaith bellach yn cael ei werthu mewn siopau ac orielau annibynnol dethol ledled Prydain.

Erbyn hyn mae’n is-bartner yn Siop Iard yng nghanol tref Caernarfon gyda'r dylunydd Gemwaith Angela Evans a'r gemydd Ann Catrin Evans sydd hefyd yn adnabyddus am ei Gwaith Metel trawiadol, dwy sydd hefyd wedi cynllunio a chreu Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn eu tro.

Ers sawl blwyddyn bellach, mae wedi bod yn arddangos ei gwaith yn yr Eisteddfod, gan groesawu cwsmeriaid triw a newydd i’w stondin yn Artisan. 

Mae'n gweithio gyda'r deunydd Clai Metel Gwerthfawr (PMC), a elwir hefyd yn Glai Arian. Mae PMC yn gyfuniad o rwymwyr organig, dŵr a gronynnau arian microsgopig wedi'u hailgylchu.  Mae'r clai yn cael ei ffurfio â llaw i siâp ac ychwanegir y gwead a ddymunir, cyn ei sychu, ei sandio ac yna ei danio mewn odyn. Mae'r broses danio yn tynnu'r rhwymwr ac yn asio'r metel i ffurf solet.  Ar ôl tanio, gall yr holl waith sodro a gof arian ddechrau, lle caiff y darnau eu trawsnewid yn ddyluniadau gwisgadwy.

Dywedodd Elin Mair fod gweithio gyda PMC yn dra gwahanol i waith gof arian traddodiadol gan fod angen set gwahanol o sgiliau, sy’n debygach i sgiliau crochenwyr a cherflunwyr.

"Dwi ddim wedi gwneud rhywbeth fel Coron o'r blaen ond rwy’n edrych ymlaen at y gwaith ac yn edrych ymlaen at weld yr ymateb iddi," meddai.

Cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru sy'n noddi'r gystadleuaeth eleni.  Dywedodd Gwynedd Watkin, Swyddog Gweithredol Sirol, bod gan yr Undeb draddodiad balch o gynnig gwobrau'r Eisteddfod Genedlaethol.

"Rydym yn falch iawn o allu parhau gyda’r traddodiad ar gyfer Eisteddfod 2023 a braint a phleser ydyw i Gangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru gael cyflwyno y Goron i’r enillydd yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023, ac rydym yn falch iawn mai Elin Mair Roberts o Y Ffôr ger Pwllheli fydd yn ei gwneud.

"Mae Elin Mair yn emydd cyfoes yn creu dyluniadau gan ddefnyddio’r metelau gwerthfawr aur ac arian.  Fel merch fferm, mae amaethyddiaeth yn ei hysbrydoli’n ddyddiol, yn ogystal â byd natur, ac mae hynny’n amlwg yn ei chasgliadau presennol.

"Rydym fel Undeb yn edrych ymlaen at weld y gwaith wedi ei gwblhau a chael cyflwyno y Goron i’r Eisteddfod," meddai.

Os bydd teilyngdod caiff y Goron ei chyflwyno i'r bardd buddugol mewn seremoni ym Mhafiliwn yr Eisteddfod brynhawn Llun, Awst 7.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan, Pwllheli o 5-12 Awst.  Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.  Bydd y porth cystadlu ar gyfer uwchlwytho ceisiadau cyfansoddi a chofrestru ar gyfer cystadlaethau llwyfan yn agor ddiwedd Chwefror.