Bydd un o gantoresau mwyaf poblogaidd Cymru'r ganrif ddiwethaf yn cael ei hamlygu yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.
Treuliodd y mezzo-soprano Leila Megàne ei gyrfa yn teithio ledled Ewrop a'r Unol Daleithiau yn canu ac yn swyno cynulleidfaoedd.
Ganed Margaret Jones ym Methesda ar 5 Ebrill, 1891 yn un o ddeg o blant i blismon a'i wraig. Fe symudodd y teulu i Forfa Nefyn cyn symud i dref Pwllheli yn ddiweddarach ac yno cafodd ei haddysg gynnar. Ac wedi gyrfa lwyddiannus dychwelodd i Gymru a bu'n byw ym Mhen Llŷn am flynyddoedd lle bu'n weithgar a dylanwadol ym mywyd diwylliannol y fro hyd ei marwolaeth yn 1960.
Eleni, bydd Côr y Gymanfa’n canu trefniannau newydd o'i chaneuon, ac mae’r côr o dros gant o leisiau cymysg, dan arweiniad Pat Jones gyda Ilid Anne Jones yn cyfeilio, wedi bod yn ymarfer yn ddygn ers dechrau'r flwyddyn.
Yn ystod toriad mewn ymarfer yn Ysgol yr Hendre, Caernarfon dywedodd Ilid Anne Jones: "Leila Megàne oedd un o'r cantoresau mwyaf poblogaidd, mwyaf enwog yng Nghymru yn ei dydd.
"Margaret Jones oedd ei enw bedydd ac fe ddaeth yn Megan Jones pan gafodd wersi lleisiol yn Llundain ac yna, Leila Megàne oedd ei henw llwyfan. Cafodd yr enw gan Jean de Reszke, ei hyfforddwr lleisiol, ym Mharis yn 1912.
"Mae ei chyfraniad yn andros o helaeth i'r diwylliant cerddorol Cymreig. Mae wedi canu caneuon Cymreig ar lwyfannau mwya'r byd. Fyddai hi byth yn gadael llwyfan cyngerdd heb ganu un unawd Gymraeg.
"A'r ffaith ei bod wedi priodi'r cyfansoddwr Thomas Osborne Roberts hefyd, ac fe ysgogodd ef i gyfansoddi ac i drefnu unawdau Cymraeg ar ei chyfer. Hi hefyd sefydlodd ysgoloriaeth, sef y Rhuban Glas ar gyfer ieuenctid dan 25 oed, Gwobr Goffa Osborne Roberts, i hybu cantorion ifanc i barhau â’u gyrfaoedd."
Ychwanegodd Ilid bydd y côr yn canu detholiad, trefniannau o ganeuon poblogaidd roedd Leila Megane yn eu canu - Gwlad y Delyn, Bwthyn Bach To Gwellt, Pistyll y Llan, Dafydd y Garreg Wen a hefyd Y Nefoedd. Paratowyd y trefnianau gan Ilid ac fe’u golygwyd gan Huw Gwynne, Cricieth.
Mae Ilid yn arbenigrwaig ar fywyd a gwaith Leila Megàne. Fe wnaeth ymchwil ar y gantores ar gyfer gradd MPhil, a bydd addasiad o'r gwaith hwnnw yn cael ei gyhoeddi mewn cyfrol arbennig - Leila Megàne – ei Dawn a'i Stori - erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
"I mi, dwi wedi gwneud gwaith ymchwil arni a dwi wedi byw Leila Megàne am flynyddoedd, nid dim ond drwy wneud y gwaith ymchwil ond wedyn hefyd," meddai Ilid.
‘Doedd bywyd cynnar Leila Megàne ddim yn hawdd. Bu farw ei mam pan oedd ond yn saith oed ac aberthodd ei thad lawer iawn er mwyn cynnal ei dawn gerddorol. Gwnaeth ei hymddangosiad unigol cyntaf mewn Eisteddfod ym Miwmares yn 1910.
Enillodd ei chytundeb proffesiynol cyntaf, yn yr Opéra Comique ym Mharis. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu’n diddanu milwyr a anafwyd yn Ffrainc, gan dynnu sylw gwleidyddion amlwg gan gynnwys Winston Churchill a'r Prif Weinidog, David Lloyd George.
Ym 1919 arwyddodd gytundeb yn Nhŷ Opera Covent Garden gan ymddangos am y tro cyntaf yn Thérèse Massenet. Ym 1922 roedd yn rhan o’r recordiad cyflawn cyntaf o Sea Pictures gan Edward Elgar, gyda'r cyfansoddwr ei hun yn arwain.
Pan ganodd yn y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd yn 1923, Thomas Osborne Roberts oedd ei chyfeilydd. Priodasant yn Efrog Newydd yn 1924 ac ymgartrefu yng Nghaernarfon lle ganed eu merch, Isaura.
Cymerodd Leila Megàne ran yng Nghyngerdd Mawr yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli yn 1925. Darlledwyd y cyngerdd fel un o ddarllediadau cyntaf y BBC yng Nghymru. Ond dim ond gwrandawyr ardal Caerdydd glywodd y darllediad – a ‘doedd dim nodyn o lais peraidd Leila Megàne ar y darllediad - gan fod cymal yn ei chytundeb yn gwahardd darlledu ei llais.
Bu Osborne Roberts yn organydd yng Nghapel Saesneg Y Maes, Caernarfon, yn gôr-feistr yng Nghapel Moreia ac yn athro cerddoriaeth. Ysgrifennodd rai o’i gyfansoddiadau enwocaf yng Nghaernarfon - Y Nefoedd, Pistyll y Llan, a Cymru Lân. Aeth y teulu i Lundain yn y 1930au ac i Sir Ddinbych ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Erbyn hynny roedd Leila Megàne wedi ymddeol fel cantores.
Wedi iddi gilio o'r llwyfan, ac yn enwedig ar ôl marwolaeth Osborne Roberts yn 1948, daeth yn amlwg ym mywyd cymdeithasol Pen Llŷn. Ail-briododd yn 1951 gyda’i chyfaill a chyfeilydd, William John Hughes, gyda’i gweithgareddau gan fwyaf yn troi o amgylch capel Berea yn Efailnewydd.
Yn Eisteddfod Genedlaethol 1951, a gynhaliwyd yn Llanrwst, sefydlwyd Ysgoloriaeth T Osborne Roberts (Y Rhuban Glas).
Bu farw Leila Megàne ar 2 Ionawr, 1960 yn 68 mlwydd oed. Yn ôl ei dymuniad nid oedd na blodau na galar yn ei hangladd. Mae'n gorwedd ym Mynwent Penrhos ar gyrion Pwllheli. Ond mae ei cherddoriaeth a'i hetifeddiaeth yn parhau hyd heddiw.