14 Meh 2024

Gyda hanner can diwrnod yn unig i fynd tan gychwyn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi rhaglen yr wythnos ar-lein

Ac mae’r rhaglen eleni’n cynnwys llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau gyda’r nos, gyda rhywbeth i blesio pawb.  Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, “Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r angen i gynnig amrywiaeth eang o weithgareddau ar hyd a lled y Maes gyda’r nos, a gallaf eich sicrhau bod rhywbeth i bawb yn ein rhaglen eleni.

“Lansiwyd Y Sgwrs y llynedd, a oedd yn gyfle i ymwelwyr ddweud eu dweud am yr Eisteddfod, ac un peth ddaeth i’r amlwg oedd bod ein cynulleidfa am i ni ychwanegu at raglen yr hwyr, a hynny mewn lleoliadau amrywiol o amgylch y Maes. 

“Rydyn ni’n ymwybodol hefyd fod talu am docyn cyngerdd ar ben tocyn i’r Maes yn gallu bod yn anodd, ac felly mae llawer iawn mwy o ddewis o weithgareddau rhad ac am ddim gyda’r nos elen, ac yn cwmpasu pob genre diwylliannol a chelfyddydol.

“Bydd Côr yr Eisteddfod yn perfformio fersiwn newydd sbon o hen glasur, Nia Ben Aur yn y Pafiliwn nos Sadwrn a nos Lun, gyda thocynnau ar gyfer y nosweithiau hyn ar werth o 12:00, dydd Gwener 14 Mehefin. Rydyn ni hefyd wedi codi statws y nosweithiau o gystadlu ymhellach eleni, yn dilyn arbrawf hynod lwyddiannus y llynedd gyda’r Noson Ddawns.  Rydyn ni’n edrych ymlaen am nosweithiau o gystadlu brwd ar draws pob disgyblaeth.

“Gobeithio y bydd pawb yn cael blas o’r arlwy – ac mae popeth ar gael i’w ddarllen ar ein gwefan ni erbyn hyn, a’r rhaglen swyddogol gyda llond lle o erthyglau nodwedd difyr, yn cael ei gyhoeddi ac ar gael yn y siopau ac ar-lein ddechrau Gorffennaf.”

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf o 3-10 Awst. Mae’r mwyafrif o weithgareddau ar Barc Ynysangharad yng nghanol y dref, gyda rhagbrofion a rhai performiadau nos yng Nghanolfan y Muni, a pherfformiadau theatrig yng Nghanolfan YMA.  Ceir mynedaid am ddim i’r Muni ac Yma gyda band garddwrn y Maes. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru. 

Rhai o uchafbwyntiau’r rhaglen nos

Nos Sadwrn 3 Awst

Nia Ben Aur: Y Pafiliwn - 20:00
Mae cyngerdd Côr yr Eisteddfod eleni’n wedd newydd sbon ar hen glasur. Hanner canrif ar ôl premiere y sioe roc Gymraeg eiconig yn Eisteddfod Bro Myrddin, 1974, mae Patrick Rimes a Sam Humphreys wedi rhoi gwedd werinol ac electro i’r caneuon, a Bardd Plant Cymru, Nia Morais wedi creu sgript newydd sbon ar gyfer y sioe. Trefniannau corawl gan Richard Vaughan, gyda Angharad Lee yn cyfarwyddo’r sioe. Hefyd nos Lun. Tocynnau ar gael o www.eisteddfod.cymru

 

Nos Sul 4 Awst

Noson yng nghwmni Alaw Goch (Ad/Lib Cymru): Maes D – 18:45
Gyda Ieuan Rhys a Danny Grehan. Yn 1861, roedd Alaw Goch yn ffigwr blaenllaw yn y gwaith o drefnu Eisteddfod Genedlaethol yn Aberdâr, carreg filltir bwysig yn natblygiad y Brifwyl fel gŵyl i Gymru gyfan. Tybed beth fyddai'n ei feddwl o'r Eisteddfod yn 2024? Hefyd nos Fawrth a nos Iau. Mynediad am ddim

Gala gomedi Tudur Owen: Y Babell Lên – 19:30
Dewch i chwerthin! Tudur Owen sy'n cloi awr o gomedi gyda Dan Thomas, Caryl Burke, Eleri Morgan a Carwyn Blayney.  Mynediad am ddim 

Y Gymanfa Ganu: Y Pafiliwn – 20:00
Ymunwch â Chôr y Gymanfa dan arweiniad Wil Morus Jones am noson o ganu cynulleidfaol arbennig iawn.  Bydd cyfle hefyd i gyfarch Arweinydd Cymru a’r Byd, y gantores opera o Fiena, Susan Dennis-Gabriel yn ystod y noson. Tocynnau ar gael o www.eisteddfod.cymru

Lydia, Merch y Cwilt: Encore – 20:00
Opera fer un-ddynes gyda'r gantores amryddawn Rhian Lois wedi ei chyfansoddi gan Caryl Parry Jones. Hefyd nos Fawrth a nos Fercher. Mynediad am ddim

Atgof, Canrif o gariad cwiar: Y Bandstand – 21:15
Dathliad golau-cannwyll o gariad cwiar drwy ganu, cerddoriaeth, dawns a barddoniaeth i nodi canrif ers i E Prosser Rhys ennill y Goron gyda Gavin Ashcroft , Dylan Cernyw, Cantorion Traws Caerdydd, Sara Huws, Miriam Isaac, Melda Lois, Nia Morais, Lloyd Steele, Jordan Price Williams, Meilir Williams, Gruffudd Antur, Steffan Prys Roberts, Osian Huw Williams. Mynediad am ddim

Calan: Tŷ Gwerin – 21:30
Cyfle i glywed y band gwerin pwerus sydd wedi ennill llu o wobrau yn creu hafoc gyda'ch clustiau a'ch traed. Mynediad am ddim

 

Nos Lun 5 Awst

Siani’n Siarad: Y Lle Celf – 17:30
Cyfieithiad Sharon Morgan o 'The Vagina Monologues' gan Eve Ensler sy'n ddathliad swreal ac eto cwbl berthnasol o fywydau menywod yn eu holl amrywiaeth. Gyda Sharon Morgan a ffrindiau. Noson sy’n addo bod yn eithafol o emosiynol, weithiau’n hilariws, o bryd i’w gilydd yn ddirdynnol ond bob amser yn ddifyr. Yn cefnogi ymgyrch Cymorth i Ferched Cymru i greu byd lle gall menywod a phlant fyw’n rhydd o gamdriniaeth yn y cartref a phob math o drais. Oed 14+, ac iaith gref. Mynediad am ddim

Iphigenia yn Sblot (Theatr y Sherman): YMA – 18:00
Gadewch i Effie eich tywys trwy strydoedd Caerdydd heddiw. Camwch i'w byd. Cymerwch olwg ar sut rydyn ni’n byw drwy ei llygaid hi. Cynhyrchiad newydd pwerus o addasiad Cymraeg o ddrama ddirdynnol Gary Owen sydd â chymaint i’w ddweud am fywyd yng Nghymru heddiw. Yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol, themâu sensitif a golygfeydd a allai beri gofid i rai aelodau o'r gynulleidfa. Hefyd nos Fawrth – nos Wener. Mynediad am ddim gyda band garddwrn y Maes

Bwystfilod Aflan (Music Theatre Wales): Y Muni – 19:30
Drwy lens opera, dawns a ffilm, mae 'Bwystfilod Aflan' yn sôn am yr ymateb i bryddest enwog Prosser Rhys ganrif yn ôl, gan roi gwedd newydd ar y cyfan. Cyfansoddwyd gan Conor Mitchell. Perfformwyr: Elgan Llŷr Thomas ac Eddie Ladd. Cyfarwyddwr: Jac Ifan Moore. Mynediad am ddim gyda band garddwrn y Maes

Pedair: Tŷ Gwerin – 21:30
Pedair o artistiaid gwerin amlycaf Cymru, Siân James, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn a Meinir Gwilym, gyda pherfformiad sy’n sicr o gydio yn nychymyg a chalonnau’r gynulleidfa gyda harmonïau ysgubol, ymdriniaeth grefftus o'r traddodiad ac agosatrwydd y caneuon maen nhw’n eu cyfansoddi. Mynediad am ddim

 

Nos Fawrth 6 Awst

Mess ar y Maes (Academi Llais a Chelfyddydau Dramatic Cymru): Caffi Maes B – 19:30
Sioe gerdd yn dilyn taith Mari, merch i Brif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, sydd ddim yn teimlo’n ddigon Cymraeg. Falle welwch chi wynebau cyfarwydd yn troedio'r Maes wrth i bawb wynebu'r cwestiwn: pwy yw'r gwir Gymry? Mynediad am ddim

Corn Gwlad (Frân Wen); Y Babell Lên – 19:30
Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl, 1924. Mae’r bardd Prosser Rhys newydd ennill y Goron am ei gerdd sy’n sôn am ei berthynas rywiol… efo dyn arall! Sgandal ar y Maes! "Sioe gerdd cwiar Gymraeg llawn gwychder" gan Seiriol Davies sy'n ail-fyw'r seremoni Goroni dyngedfennol honno 100 mlynedd yn ôl … ond efo 'chydig bach o ddychymyg, ysbrydion arswydus, cynfasau gwely ciwt iawn, gemwaith, gliter a fferets! Hefyd nos Lun – nos Wener. Mynediad am ddim

Côr Meibion Pendyrus yn dathlu’r 100: Y Bandstand – 21:15
Pa ffordd well i ddathlu pen blwydd un o gorau blaenaf Cymru na chyda gwledd amrywiol o ganeuon cyfarwydd, a hynny mewn awyrgylch hudolus golau cannwyll wrth i'r haul fachlud? Mynediad am ddim

Catrin Finch ac Aoife Ní Bhriain: Ty Gwerin – 21:30
Cydweithrediad syfrdanol rhwng Aoife Ní Bhriain, un o ffidlwyr traddodiadol mwyaf blaenllaw Iwerddon a feiolinydd clasurol o statws rhyngwladol, a'r delynores o Gymru, Catrin Finch sydd wedi creu gyrfa glasurol drawiadol a mentro i dir newydd drwy gydweithio ag artistiaid rhyngwladol. Mynediad am ddim 

 

Nos Fercher 7 Awst

Kiri Pritchard-McLean a ffrindiau: Comedi dysgwyr Maes D – 18:30
Siôn Owens sy'n cyflwyno awr o stand-yp gan ddigrifwyr sydd wedi dysgu, neu ynghanol dysgu, Cymraeg. Yn cynnwys Kiri Pritchard-McLean, Joe Dehuai a Laurie Watts. Mynediad am ddim 

Cerddorfa Gwasanaeth Cerdd RCT: Y Muni – 19:30
Ymunwch â cherddorfa hŷn y Gwasanaeth a'u gwesteion, Gwilym Bowen Rees, Angharad Jenkins ac aelodau o VRï am noson o gerddoriaeth draddodiadol wedi'i threfnu ar gyfer cerddorfa. Mynediad am ddim gyda band garddwrn y Maes

Rownd derfynol cystadleuaeth echwaraeon Gymraeg: Caffi Maes B – 21:30
Ymunwch â ni i wylio rowndiau terfynol byw ‘ESTEDDFOD’ – cystadleuaeth esports Cymraeg. Gyda gwesteion arbennig gan gynnwys chwaraewyr pêl-droed rhyngwladol Cymru a ffrydwyr dylanwadol, mae gwahoddiad i bawb ddod i wylio rownd derfynol fyw ysblennydd. Mynediad am ddim

Hywel Pitts ac ambell ffrind: Y Babell Lên – 22:30
Sioe gan Hywel Pitts sy'n cynnwys deunydd newydd a hen ffefrynnau. Dewch i weld a oes gan Hywel unrhyw ffrindiau... Oed 14+. Mynediad am ddim

 

Nos Iau 8 Awst

Fauré 100: Y Muni – 19:30
Meinir Wyn Roberts, Lisa Dafydd, Eleri Owen Edwards, Ceri Haf Roberts, Dafydd Wyn Jones, Steffan Prys Roberts, Aled Edwards a John Ieuan Jones sy'n perffomio Requiem enwog Fauré (cyfieithiad Stephen J Williams), dan arweiniad Nia Llewelyn Jones gyda chyfeiliant pumawd llinynnol Cerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru. Mynediad am ddim gyda band garddwrn y Maes

Morfydd Llwyn Owen 27: Y Bandstand – 21:15
Gwenno Morgan sy'n curadu cyngerdd golau cannwyll gyda Cerys Hafana, Glesni Rhys Jones, Llinos Haf Jones a Talulah i dalu teyrnged i Morfydd Llwyn Owen, cerddor lleol a fu farw cyn ei phen-blwydd yn 27 oed. Mynediad am ddim

Steve Eaves a Rhai Pobl: Tŷ Gwerin – 21:30
Sesiwn gan Steve Eaves sy'n perfformio ar lwyfannau ers dros 40 mlynedd ac yn parhau i ysbrydoli gwrandawyr a cherddorion o bob oed gyda cherddoriaeth sy'n ddwfn dan ddylanwad y blws. Mynediad am ddim

Gayawd: Y Babell Lên – 22:15
Eich hoff ganeuon o sioeau cerdd yn cael eu trawsnewid yn anthemau LHDTC+. Mynediad am ddim

 

Nos Wener 9 Awst

Fi yw fi ar ben fy hun nawr: Y Lle Celf – 17:30
Darn newydd sbon gan Gynyrchiadau Leeway sy'n archwilio'r heriau o fod yn fam sengl ddosbarth gweithiol ac yn rhoi mewnwelediad i fywydau arwresau di-glod sy'n bwrw 'mlaen ddydd ar ôl dydd. Cerddoriaeth gan Lleuwen Steffan. Mynediad am ddim

Arias ac alawon Stuart Burrows: Encore – 19:30
Margaret Williams yn cyflwyno Aled Wyn Davies, Huw Llewelyn, Rhodri Prys Jones, Roland George a Robert Lewis sy'n perfformio rhai o glasuron gyrfa'r tenor adnabyddus o Gilfynydd. Mynediad am ddim

Cowbois Rhos Botwnnog: Tŷ Gwerin – 19:45
Band gwlad, gwerin a roc amgen sy'n arbrofi gyda cherddoriaeth werin a roc. Mae'r band yn cynnwys tri brawd, Iwan, Aled a Dafydd Hughes. Mynediad am ddim

Al Lewis: Y Bandstand – 21:15
Cyngerdd golau cannwyll arbennig gyda Al Lewis a'i westeion. Mynediad am ddim

Mei Gwynedd a Band Tŷ Potas: Y Babell Lên – 22:15
Mei Gwynedd a'i fand sy'n rhoi stamp unigryw ar ganeuon traddodiadol Cymraeg gan ddod ag awyrgylch parti i'r Cwt Cabaret. Mynediad am ddim

 

Nos Sadwrn 10 Awst

Gwlad Gwlad!: Pafiliwn 19:30
Perfformiad cyntaf o waith cerddorol newydd gan Eilir Owen Griffiths, wedi'i osod i gerddi comisiwn gan y beirdd lleol, Aneirin Karadog, Delwyn Siôn, Christine James a Mari George, wedi'u hysbrydoli gan yr anthem genedlaethol. Mynediad am ddim

Meinir Gwilym: Tŷ Gwerin – 19:45
Sesiwn amrywiol, hwyliog ac agos-atoch gyda chaneuon hen a newydd, gwreiddiol a gwerinol, gan y gantores-gyfansoddwraig o Fôn ac ambell gerddor gwadd. Mynediad am ddim

Eden: Llwyfan y Maes – 21:00
Wedi sefydlu eu hunain fel un o’r grwpiau mwyaf poblogaidd ar y sin bop Cymraeg ers ffurfio yn 1996 mae tair aelod Eden - Emma Walford, Non Parry a Rachael Solomon - wedi rhyddhau deunydd newydd ar label Recordiau Côsh gyda chaneuon fel ‘Caredig’, ‘Siwgr’, 'Fi' a 'Wow'. Mynediad am ddim