Merch yn gwneud 'cartwheel' o flaen arwyddion Pentref Plant ar Faes yr Eisteddfod

Canolbwynt gweithgareddau ar gyfer plant cyn oed ysgol a chynradd, ac un o’r ardaloedd mwyaf poblogaidd a hwyliog ar y Maes.

Mae ethos y Pentref Plant yn syml - lle i blant fod yn blant a dod i gael hwyl. Rydyn ni eisiau i blant gadw eu ffonau a gemau fideo, a dod i chwarae, gwneud ffrindiau newydd a chreu cymuned o blant ar Faes yr Eisteddfod.

Gyda rhaglen orlawn o ddigwyddiadau hwyliog, o dynnu’r gelyn i rasio ceffylau hobi, a phob math o gemau gwirion, mae’r Pentref yn cynnwys nifer o leoliadau, pob un ohonynt wedi’u dylunio a’u creu i ddiddanu plant ifanc, gan gynnwys ardal sgiliau syrcas, a gefnogir gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol.

Eleni, mae maes chwarae parhaol y parc yn rhan o’r pentref, gyda phob math o offer chwarae diogel i blant o bob oed.

Mae ardal fwydo a newid clytiau yn y Pentref.

 

Noddir y Pentref Plant gan:

Logo coch gyda'r gwieiau Principality Building Society Cymdeithas Adeiladu gyda phatrwm cwlwm mewn gwyrdd a choch