Erthygl noddwr | Sponsor feature - 27 Gorff 2024

Yn 1860, sefydlwyd Cymdeithas Adeiladu Buddsoddi Parhaol y Principality yn Stryd yr Eglwys, Caerdydd a’r incwm am y flwyddyn gyntaf oedd £367

Dylan, masgot draig Cymdeithas Adeiladu Princiality

Bellach, ar ôl 164 o flynyddoedd, rydym yn falch o fod â mwy o ganghennau ar strydoedd mawr Cymru, nag unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu arall.

Fel sefydliad cydfuddiannol, rydym yn eiddo i'n haelodau yn hytrach na chyfranddalwyr, ac erbyn hyn mae gennym dros 500,000 ohonynt!

Mae adborth ein haelodau yn bwysig iawn i ni, a dyna pam rydym yn cydnabod gwerth ein canghennau ar y stryd fawr gan eu bod yn dweud wrthym, wrth wneud penderfyniadau am gyllid, y byddai'n well ganddynt siarad â'n tîm yn bersonol yn y gangen.

Mae ein timau gwybodus yn y gangen yno i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd mewn bywyd, p'un a ydych yn cynilo ar gyfer blaendal i brynu eich cartref cyntaf ac yn sefydlu morgais, yn dechrau cyfrif cynilo ar gyfer babi newydd, neu'n cynllunio ymddeoliad i'w gofio.

Mae'r lleoliadau ar y stryd fawr hefyd yn golygu ein bod wrth galon bywyd cymunedol, ac mae ein cydweithwyr yn y gangen wrth eu bodd yn cymryd rhan drwy wirfoddoli a chodi arian ar gyfer y prosiectau sydd bwysicaf iddynt.

Dyna pam rydym yn falch o noddi’r Pentref Plant eleni yma yn yr Eisteddfod, digwyddiad cenedlaethol gwych ar garreg drws ein cangen ym Mhontypridd. Mae'r baneri yn barod, a gemau hwyliog a gweithgareddau lliwio wedi'u cynllunio ar gyfer pawb sy'n pasio ar eu ffordd i'r prif ddigwyddiad felly cofiwch alw draw.

Fel brand, a anwyd yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i ddathlu popeth sydd gan Gymru i'w gynnig. Rydym yn llawn cyffro am gymryd rhan yn yr holl dathliadau, gan groesawu goreuon ein gwlad, ein treftadaeth a'n diwylliant cyfoethog. 

Mae hyn yn ymestyn i'n cydweithwyr hefyd lle bydd ein Rhwydwaith Cymraeg, sy'n cynnwys mwy na 100 o gydweithwyr, yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod eleni. 

Wedi'i greu a’i gynnal gan ein cydweithwyr, mae’r Rhwydwaith Cymraeg yn galluogi aelodau i gymdeithasu yn Gymraeg, ymarfer y Gymraeg a dysgu am ddiwylliant y Gymraeg. Mae sesiynau galw heibio wythnosol, Yr Ogof, lle gall cydweithwyr ymuno i siarad neu ymarfer eu Cymraeg, ac mae cynllun cyfeillio hefyd fel y gellir paru siaradwyr rhugl a dysgwyr gyda'i gilydd i fagu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle.

Yn ogystal ag ymuno yn y gweithgareddau, byddwn yn annog arferion iach o ran cynilo yn y genhedlaeth nesaf. Credwn nad oes rhaid i siarad am arian a chyllid godi braw a drwy gymryd ambell gam hawdd, gall arferion cynilo cadarnhaol y gellir eu mabwysiadu yn ifanc aros gyda chi drwy eich oes.

Fe welwch chi ni bob dydd yn y Pentref Plant, bydd ein ffrind Dylan y Ddraig yno hefyd i ddweud helo, felly cofiwch alw draw.

Noddwr Pentref Plant 2024:

Logo Cymdeithas Adeiladu Principality