baneri a stondinau mewn cae gydag ambell berson yn y llun

Efallai nad yw gwyddoniaeth yn dod i’r meddwl yn syth wrth feddwl am ddiwylliant Cymru – ond fe ddylai erbyn hyn.  

Mae’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn rhan bwysig o weithgareddau’r Eisteddfod ers dros hanner canrif.  Bwriad gwaith gwyddoniaeth a thechnoleg yr Eisteddfod yw hyrwyddo STEM, sef gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.  

Dros y blynyddoedd mae’r Pentref wedi bod yn eithriadol o boblogaidd gyda phob math o arddangosfeydd a gweithgareddau rhyfeddol wedi’u cynnal yma.  Dyma le y torrodd yr Eisteddfod y Record Byd am y model hiraf o DNA iâr, a dyma hefyd lle y cafwyd sesiynau cerdded mewn cwstard!

Mae rhaglen lawn o weithgareddau yma eto eleni, gyda chymysgedd wych o weithgareddau difyr i blant a sgyrsiau a sesiynau mwy ffurfiol i oedolion,

Rhestr o arddangoswyr i ddilyn.

 

Noddir y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg gan:

Logo National Grid gyda testun gwyn ar gefndir glas tywyll. Mae'r gair 'grid' yn cynnwys siap diemwnt bach gwyn uwchben y llythyren 'i'