Efallai nad yw gwyddoniaeth yn dod i’r meddwl yn syth wrth feddwl am ddiwylliant Cymru – ond fe ddylai erbyn hyn.
Mae’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn rhan bwysig o weithgareddau’r Eisteddfod ers dros hanner canrif. Bwriad gwaith gwyddoniaeth a thechnoleg yr Eisteddfod yw hyrwyddo STEM, sef gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
Dros y blynyddoedd mae’r Pentref wedi bod yn eithriadol o boblogaidd gyda phob math o arddangosfeydd a gweithgareddau rhyfeddol wedi’u cynnal yma. Dyma le y torrodd yr Eisteddfod y Record Byd am y model hiraf o DNA iâr, a dyma hefyd lle y cafwyd sesiynau cerdded mewn cwstard!
Mae rhaglen lawn o weithgareddau yma eto eleni, gyda chymysgedd wych o weithgareddau difyr i blant a sgyrsiau a sesiynau mwy ffurfiol i oedolion,
Rhestr o arddangoswyr i ddilyn.
Noddir y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg gan:
