Casgliad o bebyll gwahanol mewn cae o dan awyr lwydaidd

Mae amserlen Cymdeithasau ymysg y mwyaf diddorol ac amrywiol ar y Maes, ac mae croeso i unrhyw gymdeithas neu sefydliad gysylltu i gynnal sesiwn yma.  Dyma gartref trafodaeth ar y Maes, ac efallai bod Cymdeithasau’n un o gyfrinachau’r Eisteddfod.

Mae rhai cymdeithasau’n cynnal cyfarfodydd yma gan fod yr Eisteddfod yn yr ardal leol, ond mae amryw yn dod atom yn flynyddol ein bod ni’n gyfle iddyn nhw ddenu cynulleidfa o bob rhan o Gymru.  

Mae’r amserlen yn llawn o ddarlithoedd, sesiynau trafod, aduniadau, pob math o weithgareddau. 

Mae sesiynau Cymdeithasau 1 yn cychwyn ar yr awr a sesiynau Cymdeithasau 2 yn cychwyn am hanner awr wedi'r awr.

Gallwch wylio rhai o sesiynau Cymdeithasau 2024 yma, a bydd sesiynau 2025 yn ymddangos ar YouTube yn yr hydref.