1 Gorff 2024

Wedi’i gyrru gan ein cenhadaeth i newid bywydau a’n byd er gwell, mae Prifysgol De Cymru (PDC) yn un o brifysgolion mwyaf cyffrous ac uchelgeisiol Prydain

Rydym yn newid meddylfryd tuag at addysg bellach ac uwch, gan wella cyfleoedd bywyd unigolion a chreu cymunedau mwy ffyniannus. Bob blwyddyn, mae Prifysgol De Cymru yn gwneud cyfraniad economaidd o £1.1 biliwn ac yn cefnogi 10,600 o swyddi yn y DU

Mae partneriaeth a chydweithio yn ein DNA ni - cawsom ein sefydlu gan ddiwydiant fwy na 180 o flynyddoedd yn ôl. Rydym yn ymdrechu i adael i'r tu allan ein hysbrydoli gyda chwricwlwm a arweinir gan ddiwydiant, profiad gwaith yn y byd go iawn, ac ymchwil ac arloesi cymhwysol, a grëwyd ar y cyd â diwydiant i fynd i'r afael â heriau lleol a byd-eang o ynni ac iechyd i ddiogelwch a chynaliadwyedd.

Gyda phortffolio nodedig wedi'i gyd-gynllunio â diwydiant, rydym yn ymfalchïo mewn cynhyrchu gweithwyr gofal iechyd, cyfreithwyr, athrawon a swyddogion heddlu ar gyfer yfory. Mae ein cwricwlwm yn cael ei greu gyda’n myfyrwyr i sicrhau bod ganddyn nhw’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad perthnasol i wneud y mwyaf o’u potensial a chyfleoedd yn y dyfodol. Gan weithio gyda chyflogwyr o bob rhan o'r rhanbarth a thu hwnt, rydym yn darparu'r gweithlu medrus iawn y maent yn dweud wrthym sydd ei angen arnynt.

Ers 2020, gyda chymorth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r Brifysgol wedi cynnig cyfle i fyfyrwyr ar bob lefel astudio darpariaeth gyflogadwyedd wedi’i theilwra sy’n arwain at gredydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ‘Eich Gyrfa a’r Gymraeg’ yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gweithle dwyieithog, ac yn rhoi’r hyder i fyfyrwyr ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg ar ôl graddio. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn meysydd megis Plismona, Tirfesur ac Addysgu Cynradd, gydag amrywiaeth o ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg ar gael i gefnogi eu hastudiaethau.

Mae Prifysgol De Cymru yn falch o fod y brifysgol ehangu cyfranogiad mwyaf blaenllaw yng Nghymru, gyda mwy na hanner ein myfyrwyr israddedig sy’n hanu o Gymru yn dod o ardaloedd o fewn dau gwintel isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Rydym yn ymroddedig ac yn angerddol am fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol, cefnogi a galluogi ein myfyrwyr i gyflawni'r canlyniadau bywyd gorau posibl a chreu cymunedau mwy ffyniannus.

Gyda champysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd, ni yw'r Brifysgol ar gyfer De Cymru. Mae ein campysau’n gweithredu fel angorau yn y rhanbarth, gan fod o fudd i’n partneriaid a’r gymuned leol trwy ddarparu ystod o lwybrau astudio cynhwysol, cefnogi dysgu gydol oes ac opsiynau hyblyg i'n myfyrwyr, ein cyflogwyr a’n partneriaid diwydiant.

Rydym yn falch bod ein gwreiddiau’n ddwfn yn Ne Cymru, ond gyda myfyrwyr o fwy na 100 o wledydd, mae PDC yn brifysgol sydd â’r pŵer i drawsnewid bywydau unigolion, busnesau a chymunedau yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

 

Un o brif noddwyr y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn 2024:

Logo Prifysgl De Cymru ar gefndir coch tywyll