3 Gorff 2024

Gydag union fis i fynd tan ddechrau Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni, cyhoeddwyd rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Bwriad y wobr, a drefnir ar y cyd gyda BBC Radio Cymru, yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei rhyddhau yng Nghymru ar hyn o bryd. 

Mae’r wobr yn dathlu’i phen blwydd yn ddeg oed eleni.

Bu panel o feirniaid sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth yn dewis a dethol eu hoff gynnyrch, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses.  

Y beirniaid eleni oedd Gruffudd Jones, Tomos Jones, Gwenno Morgan, Keziah O' Hare, Mared Thomas ac Owain Williams.

Cyhoeddir yr enillydd ar lwyfan y Pafiliwn, am 15:00, ddydd Gwener 9 Awst. 

Yr albymau a ddaeth i’r brig yw: 

  • Amrwd - Angharad Jenkins a Patrick Rimes 
  • Bolmynydd - Pys Melyn 
  • Caneuon Tyn yr Hendy - Meinir Gwilym 
  • Dim dwywaith - Mellt
  • Galargan - The Gentle Good - 
  • Llond Llaw - Los Blancos 
  • Mynd â’r tŷ am dro - Cowbois Rhos Botwnnog
  • Sŵn o’r stafell arall - Hyll 
  • Swrealaeth - M-Digidol 
  • Ti ar dy ora’ pan ti’n canu - Gwilym

Cyhoeddir y rhestr fer ar raglen Mirain Iwerydd ar Radio Cymru nos Fercher 3 Gorffennaf.