Plant ardal RCT o flaen llyfrgell Pontypridd gyda'r lluniau buddugol ar y ffenestri
5 Gorff 2024

Bydd trigolion Rhondda Cynon Taf yn brysur yn harddu’r ardal ar gyfer yr Eisteddfod dros y penwythnos

Plant ysgolion RCT o flaen arwydd Eisteddfod 2024 ym Mharc Ynysangharad

Bydd addurniadau lliwgar yn cael eu gosod ar draws y sir i groesawu ymwelwyr i’r ardal yn ystod wythnos yr Eisteddfod ymhen y mis. 

Mae plant y dalgylch eisoes wedi cychwyn ar y gwaith drwy gymryd rhan mewn cystadleuaeth gelf arbennig a drefnwyd gan yr Eisteddfod.

Gyda chefnogaeth y cyngor sir, dosbarthwyd pecyn addysg, gyda nifer fawr o adnoddau defnyddiol i’r plant baratoi ar gyfer eu hymweliad â’r Maes fis Awst, gan gynnwys gêm ‘Monopoli’r Eisteddfod’, cyfle i’r plant ddysgu am ddiwylliant Cymru mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol. 

Aeth y plant ati i greu gwaith celf gan blethu elfennau o’r Maes a’r ardal leol, gyda chynlluniau enillwyr y gystadleuaeth yn cael eu harddangos yn Llyfrgell Pontypridd tan 11 Awst. Bydd yr arddangosfa yn cael ei gweld gan filoedd o ymwelwyr wrth iddyn nhw gyrraedd y Maes.

Dewisiwyd tri enillydd, un o bob ardal o’r dalgylch, gyda gwaith Thomas Kew o Ysgol Gynradd Abercynon yn cynrychioli ardal Cynon, gwaith Stevie Jo o Ysgol Gynradd Trealaw yn cynrychioli’r Rhondda, a chywaith Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant yn cipio’r wobr gyntaf yn ardal Taf. 

Rhoddwyd yr ail a’r drydedd wobr ym mhob ardal i  Edgar Ap Hywel a Hatice Cakmak o Ysgol Gynradd Parc Aberdâr, Kesha Bigwood a Kornelia Baranska o Ysgol Gynradd Trealaw, a Ffion Evans Ysgol Gynradd Pont Siôn Norton a Mali Jones Ysgol Gynradd Castellau. 

Meddai Helen Prosser cadeirydd y  Pwyllgor Gwaith, “Mae wedi bod mor braf gweld cymaint o gymunedau yn dod at ei gilydd i weithio ar brosiect harddu’r Eisteddfod.  Mae ‘na gyffro yn yr ardal, gyda phawb yn edrych ymlaen at groesawu’r ŵyl ymhen pedair wythnos.

‘‘Diolch i’r ysgolion i gyd am gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ac mae’n wych gweld bod cynifer ohonyn nhw wedi ymdrechu. Mae’r gwaith celf yn werth ei weld.’’ 

Bydd pob ysgol fuddugol yn derbyn baner gyda’r gwaith celf i’w arddangos y tu allan i’r ysgol. 

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad Pontypridd o 3-10 Awst. Am ragor o wybodaeth, i brynu tocynnau a manylion ar sut i gyrraedd y Maes, ewch i www.eisteddfod.cymru.