9 Gorff 2024

Hoffech chi ymuno â’r tîm sy’n cynghori a chefnogi’r gwaith o greu cystadlaethau a thestunau’r Eisteddfod Genedlaethol? 

Oes gennych chi ddiddordeb mawr neu brofiad yn un o feysydd cystadleuol yr ŵyl? 

Os felly, beth am ein helpu ni i siapio ein rhaglen gystadlaethau ar gyfer y dyfodol?

Rydyn ni’n chwilio am unigolion brwdfrydig ac egnïol i ymuno â’n panelau canolog i’n helpu ni i baratoi testunau difyr a diddorol, a chynnig barn am yr Eisteddfod a’i gwaith yn flynyddol.

Eisiau gwybod mwy am y rôl? Dewch draw am sgwrs. Byddwn yn cynnal sesiwn galw draw yng Nghanolfan Ymwelwyr y Lido ar Faes yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, fore Gwener 9 Awst am 11:30. 

Bydd cyfle i sgwrsio gydag ambell aelod o’n panelau dros baned a chlywed mwy am y gwaith a’r cyfrifoldebau.

Mae gan bob un o adrannau cystadleuol yr Eisteddfod banel canolog, sy’n cynnwys hyfforddwyr, cystadleuwyr, cynrychiolwyr o sefydliadau perthnasol ac unigolion sydd â diddordeb yn y maes.

Rydyn ni’n awyddus i recriwtio aelodau newydd i nifer o’r panelau, ac yn arbennig o awyddus i glywed gan ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd a / neu lai hyderus, ynghyd ag aelodau o gymunedau ethnig amrywiol ac unigolion sy’n ystyried eu hunain yn anabl.

Mae cadeiryddion pob panel yn aelodau o Bwyllgor Diwylliannol cenedlaethol yr Eisteddfod, sy’n cael ei gadeirio gan Trystan Lewis, a dywed Trystan, “Rydyn ni eisiau denu cynrychiolwyr newydd i ymuno â’n panelau canolog, er mwyn ein helpu ni i siapio elfennau cystadleuol yr ŵyl wrth edrych i’r dyfodol.

“Ein cystadlaethau sy’n ein gwneud ni’n wahanol i bob gŵyl arall, ac mae’n bwysig ein bod ni’n sicrhau bod gennym ni dîm o unigolion sy’n deall, mwynhau a gwerthfawrogi hyn i weithio gyda ni i ddatblygu’r elfen greiddiol yma o’r Eisteddfod ymhellach. 

“Os oes gennych chi ddiddordeb ac ar y Maes fore Gwener yr Eisteddfod, galwch draw am sgwrs, neu cysylltwch â’r tîm am sgwrs cyn cyflwyno’ch cais os hoffech chi drafod unrhyw beth. A gobeithio y byddwn ni’n croesawu criw newydd i ymuno â’n panelau ni erbyn yr hydref.”

Gallwch wneud cais ar-lein yma, www.eisteddfod.cymru/panelau-canolog neu arhoswch tan ar ôl y sesiwn ar y Maes. Y dyddiad cau i ymgeisio yw dydd Mercher 4 Medi, a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn gwahoddiad i fynychu cyfarfod y panelau ddiwedd Medi.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf o 3-10 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein.