Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn cychwyn mewn llai na thair wythnos, mae’r trefnwyr yn gweithio gyda Strategaeth Bryncynon i annog ymwelwyr i gefnogi’u pantri bwyd wrth ymweld â’r ŵyl
Mae Strategaeth Bryncynon yn mynd i’r afael â materion allweddol yng nghymuned Cwm Cynon, Dechreuodd y mudiad weithio gyda’r Eisteddfod ddwy flynedd yn ôl fel rhan o raglen allymestyn yr ŵyl.
Gan weithio mewn partneriaeth â phobl leol a dau bantri bwyd arall, maen nhw wedi cynhyrchu llyfr ryseitiau cymunedol, a fydd yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod. Mae llawer o'r ryseitiau wedi'u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, mewn arddull hynod Gymreig.
Fel rhan o’r berthynas mae’r Eisteddfod yn annog ymwelwyr i gefnogi’r pantri bwyd drwy ddod â chyflenwadau i’r ŵyl, a gynhelir ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst.
Meddai Cydlynydd Strategaeth Bryncynon, Nina Finnigan, “Rydw i wrth fy modd ein bod ni’n gweithio gyda’r Eisteddfod yn ystod yr ŵyl yn Rhondda Cynon Taf, ac rydw i’n ddiolchgar i aelodau’r pwyllgor lleol am awgrymu casglu cyflenwadau ar gyfer pantri bwyd Strategaeth Bryncynon.
“Mae ein pantri’n rhan annatod o’r hyn sydd gennym ni i’w gynnig, ac mae cefnogaeth ymarferol partneriaid fel yr Eisteddfod Genedlaethol o gymorth mawr.
"Yn ogystal â bwydydd sych a hanfodion cwpwrdd, rydyn ni hefyd wedi bod yn derbyn ceisiadau am ddeunyddiau ymolchi’n ddiweddar, ac fe fyddwn ni’n paratoi rhestr o fwydydd defnyddiol ar gyfer y pantri i’w rannu gydag ymwelwyr cyn iddyn nhw gyrraedd.
“Mae’r pantri bwyd yn hygyrch i bawb heb farn a rhagdybiaeth a gall ymwelwyr â’r pantri gymdeithasu â lluniaeth am ddim mewn awyrgylch ddiogel a chyfforddus,” ychwanegodd.
Dywedodd Cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, Helen Prosser, “Roedden wrth ein bodd pan awgrymodd un o’n pwyllgor ein bod ni’n trefnu casgliad ar gyfer pantri bwyd Strategaeth Bryncynon yn ystod yr Eisteddfod.
“Mae cymunedau a sefydliadau ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf wedi bod mor gefnogol dros y flwyddyn a hanner diwethaf ac mae hyn yn gyfle i ni roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned drwy gynnig cymorth ymarferol yn ystor yr ŵyl.
“Ar hyn o bryd rydyn ni’n trafod sut y byddwn yn casglu cyflenwadau’n ystod yr wythnos ac yn edrych ar amryw o opsiynau, er mwyn i ni rannu’r manylion gyda phawb.
"Yn y cyfamser, rydyn ni am i bobl wybod ein bod ni’n mynd i fod yn casglu cyflenwadau fel bod ein hymwelwyr yn gallu dechrau cynllunio wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu hymweliad.”
Mae gan Strategaeth Bryncynon raglen unigrwydd ac arwahanrwydd sy’n pontio’r cenedlaethau, gyda gweithgareddau wedi’u dewis gan y gymuned. Ymysg y rhain mae dosbarthiadau celf a Chymraeg, ynghyd â sesiynau bingo, iechyd a lles, sy’n cynnwys yoga eistedd, hatha yoga a tai chi.
Datblygwyd y rhaglen fwyd ar y cyd gyda’r gymuned a phartneriaid. Maen nhw'n coginio ac yn dosbarthu pryd poeth wythnosol i bobl hŷn sy'n gaeth i'w cartrefi. Mae gwirfoddolwyr yn ffonio pob un o'r cant a mwy o bobl sy’n derbyn pryd poeth y diwrnod cynt, gyda’r rheini sy’n dosbarthu’r bwyd ar gael i ddelio gydag unrhyw ymholiad neu broblem wrth iddyn nhw ddanfon y pryd. Yn ogystal, mae modd i’r rheini sy’n cael pryd dderbyn bag o eitemau bwyd hanfodol yr un diwrnod.
Mae’r Strategaeth hefyd yn rhedeg clwb cinio gyda chymhorthdal i gadw’r prisiau i lawr, dosbarthiadau coginio a phrosiect tyfu llysiau sy'n darparu cynnyrch ffres mewn tymor i’r gegin a’r gymuned.
Mae clwb brecwast gyda chymhorthdal hefyd ar y gweill, a bydd hwn yn arbennig o ddefnyddiol fel lle i rieni ifanc gyfarfod ar ôl gollwng eu plant yn yr ysgol.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf o 3-10 Awst. Am fanylion deunyddiau i’w casglu, lle i ddod â’r bwyd, tocynnau a gwybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau, ewch i www.eisteddfod.cymru.