Erthygl noddwr | Sponsor feature - 17 Gorff 2024

Annog siaradwyr Cymraeg i gael gyrfa ym maes gofal a dathlu'r gweithwyr sy'n darparu gofal rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg 

Bydd Dydd Mawrth Eisteddfod Genedlaethol yn ddiwrnod arbennig i gynnal Diwrnod Gofal.

Mae'r brifwyl a Gofalwn Cymru wedi creu partneriaeth i godi ymwybyddiaeth a gobeithio denu siaradwyr Cymraeg o bob lefel i ystyried gyrfa yn y maes gofal. 

Bydd Gofalwn Cymru yn noddi'r diwrnod drwy greu Diwrnod Gofal am yr ail flwyddyn eleni. Nod Gofalwn Cymru yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar, chwarae a gofal plant sy’n cefnogi rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Mae’r ddau sector yn chwarae rhan hanfodol wrth gynnal lles, annibyniaeth pobl ac i blant, gan eu cefnogi i ddatblygu a thyfu.

Bydd aelodau staff Gofalwn Cymru ar y Maes yn hyrwyddo ei gyrsiau hyfforddiant am ddim - Cyflwyniad i ofal plant a Chyflwyniad i ofal cymdeithasol - sy'n rhoi blas i oedolion yng Nghymru o sut beth yw gweithio ym maes gofal. Bydd y tîm hefyd yn siarad â'r cyhoedd i gael eu barn am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg o fewn gofal yng Nghymru. 

Mae hybu hawliau pobl a chanolbwyntio ar y person a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw yn rhan bwysig o rôl Heledd fel Ffisotherapydd i’r tîm ail-alluogi yn Rhondda Cynon Taf. Mewn cyfweliad a Heledd eglurodd sut roedd cyfathrebu â phobl yn eu dewis iaith mor bwysig iddi hi a’i rôl. Esboniodd sut y byddai meithrin perthynas â’i chleifion yn eu hiaith gyntaf nid yn unig yn meithrin ymddiriedaeth ond yn cael effaith positif ar eu llesiant.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod bydd hi’n ddiwrnod Cenedlaethol Chwarae. Y thema ar gyfer y diwrnod fydd: 

"Chwarae – diwylliant plentyndod, 

cefnogi chwarae, hwyl a chyfeillgarwch."

Yn ddiweddar cawsom y fraint o gyfarfod â Phrosiect Datblygu Cymunedol Llanharan yn Rhondda Cynon Taf i ddeall mwy am bwysigrwydd y gwasanaeth yma ac yn ystod yr Eisteddfod byddwn yn dathlu diwylliant cyfoethog a bywiog chwarae plant drwy rannu delweddau a fideos astudiaeth achos o'n hamser gyda'r plant a'u gweithwyr chwarae.

Llun o blant a thîm Prosiect Datblygu Cymunedol Llanharan

Person arall sy’n frwdfrydig dros addysgu’r genhedlaeth nesaf drwy gyfrwng y Gymraeg yw Helen, sy’n yn Arweinydd Meithrinfa yn Ysgol Feithrin Pontypŵl. Mae hi’n gyfrifol am gynllunio gweithgareddau dyddiol i helpu’r plant i ddysgu, cadw’r plant yn ddiogel a sicrhau bod y feithrinfa yn amgylchedd diogel ac addas i bawb. 

Dywedodd Helen: 

“Mae’r rhieni gwir yn gwerthfawrogi cael meithrinfa gymunedol s’yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac, wrth i fwy a mwy o deuluoedd ddewis addysg Gymraeg, mae angen mwy o siaradwyr Cymraeg arnom i hyfforddi i weithio yn y sector cyn ysgol nas cynhelir.”

Bydd y Diwrnod Gofal, ar 6 Awst, yn cynnwys rhaglen lawn fydd yn cynnwys hyrwyddo cyrsiau hyfforddiant, cyhoeddi enillydd gwobr Gofalu trwy'r Gymraeg 2024 a thrafodaeth Iechyd, Gofal a’r Gymraeg.

Am 12:30pm yn Nghanolfan Ymwelwyr y Lido, bydd Gofal Cymdeithasol Cymru yn cyhoeddi enillydd y wobr Gofalu trwy'r Gymraeg 2024. Dyma wobr flynyddol Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n cydnabod ac yn dathlu pobl sy'n darparu gofal a chymorth rhagorol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Eleni, mae pum gweithiwr o bob cwr o Gymru wedi'u dewis i gyrraedd y rhestr fer, a dewiswyd yr enillydd trwy bleidlais gyhoeddus. Mae’r bleidlais yn agor o’r 16 o Orffennaf ac yn cau ar 31 o Orffennaf. 

Dyma’r linc am fwy o fanylion ac i bleidleisio Gofal Cymdeithasol Cymru

Wedyn am 3pm ym mhabell y Cymdeithasau, bydd digwyddiad Iechyd, gofal a’r Gymraeg ar y cyd rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i drafod pwysigrwydd y Gymraeg yn y sector iechyd a gofal o’r crud i’r bedd, ac i drafod beth nesaf o ran y Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth chwiliwch am GofalwnCymru ar X @GofalwnCymru, Facebook @GofalwnCymru neu Instagram @gofalwncymrucares. Byddwn yn rhannu negeseuon, lluniau a fideos astudiaethau achos i arddangos gwaith anhygoel y sectorau yma ar ein sianeli cymdeithasol yn ystod yr ŵyl.

Noddwyr dydd Mawrth:

Logo Gofalwn Cymru, geiriau lliw glas golau ar gefndir glas tywyll