Penri Roberts a Linda Gittins yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams ar faes Eisteddfod 2024
25 Gorff 2024

Linda Gittins a Penri Roberts i dderbyn y Fedal yn Rhondda Cynon Taf

Am y tro cyntaf erioed bydd Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn cael ei chyflwyno i fwy nag un person yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda Penri Roberts a Linda Gittins yn derbyn yr anrhydedd ym Mhontypridd ym mis Awst.

Sefydlwyd Cwmni Theatr Maldwyn gan Penri, Linda a'r diweddar Derec Williams ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ym Machynlleth nôl yn 1981. Ers hynny mae’r cwmni wedi dod yn adnabyddus am eu sioeau theatrig eiconig Cymraeg gan gynnwys ‘Ann!’, ‘Y Mab Darogan’ a ‘Pum Diwrnod o Ryddid’.

Dros y 40 mlynedd diwethaf, mae'r cwmni wedi cynnig profiadau amhrisiadwy i bobl ifanc cefn gwlad canolbarth Cymru, ac wedi meithrin rhai o sêr mwyaf dawnus sioeau cerdd y DU, gydag amryw yn serennu ym mhrif rannau sioeau fel ‘Phantom of the Opera’ a ‘Les Miserables’.

Tan eleni, mae’r Fedal wedi’i chyflwyno’n flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc. Ond eleni, bydd y ddau’n eistedd ar lwyfan y Pafiliwn yn cael eu hanrhydeddu.

Meddai Linda, “Rydw i’n hynod falch o dderbyn y Fedal hon ac yn falch iawn dros Penri hefyd. Ond wrth i ni dderbyn yr anrhydedd, rydyn ni’n cofio am Derec. Roedden ni’n gweithio fel triawd, nid fel tri unigolyn. Y tri ohonon ni a sylfaenodd Gwmni Theatr Maldwyn, ac mae’r Fedal hon gymaint iddo fo ag i ni’n dau.

"I’r tri ohonon ni, y sioe oedd bwysicaf ac roedd gweld llwyddiant honno a mwynhad y criw a'r cast yn ddiolch ynddo'i hun. Wnes i erioed feddwl y buaswn yn derbyn y fath anrhydedd. Roedd yn sioc cael gwybod a dydw i dal ddim yn credu'r peth," ychwanegodd.

Ategodd Penri sylwadau Linda gan ychwanegu. “Rydw i’n ddiolchgar i’r Eisteddfod am y fath anrhydedd, ac rydw innau eisiau datgan ein bod hefyd yn derbyn y Fedal ar ran y diweddar Derec Williams. Triawd oedden ni wrth gyfansoddi a chynhyrchu holl sioeau Cwmni Theatr Maldwyn a thri ffrind yn ogystal.”

Nid oedd yr un o’r ddau wedi disgwyl cael eu henwebu ar gyfer Medal Goffa Syr TH Parry-Williams - heb sôn am dderbyn yr anrhydedd. Dywedodd Linda ei fod yn “sioc aruthrol” cael gwybod mai nhw fydd yn rhan o’r seremoni ar lwyfan y Pafiliwn eleni.

Cafodd Linda a Penri wybod eu bod i'w gwobrwyo yn ystod ymarferiad o'u sioe ‘Pum Diwrnod o Ryddid’ a fydd yn teithio Cymru yn ddiweddarach eleni.

"Cefais wybod bod criw teledu am ein ffilmio ni'n ymarfer ar gyfer eitem, a ro’n i ar ganol egluro hyn i’r criw pan ddaeth Alwyn Siôn i sefyll o flaen pawb a dweud wrtha i a Linda am eistedd i lawr! Ac yna, fe eglurodd am y Fedal. Wel, am sioc,” meddai Penri.

Bu Syr TH Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod. Gweinyddir y gronfa gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.

Bydd Penri Roberts a Linda Gittins yn derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn am 12:30 dydd Mawrth, 6 Awst.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst. Am ragor o wybodaeth ac i brynu tocynnau, ewch i www.eisteddfod.cymru.