22 Gorff 2024

Gwaith enillydd Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf eleni yw sicrhau bod pelydrau'n rhedeg yn gyflym a chywir mewn peiriant anferth tanddaearol

Cyflwynir y Fedal i Dr Rhodri Jones am ei waith gyda'r Gwrthdarwr Hadron Mawr (LHC), y peiriant 17 milltir o hyd sydd wedi ei gladdu'n ddwfn o dan ddaear yng nghanolfan CERN sy'n pontio'r ffin rhwng Ffrainc a'r Swistir. 

Bydd yn cael ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn ar Faes yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd eleni.

Pennaeth Adran y Pelydrau yw Rhodri Jones ac ef a'i gyd-weithwyr sy'n sicrhau bod y pelydrau gronnynau sy’n cael eu pingio o amgylch y peiriant tanddaearol gwerth £3.7bn yn taro’i gilydd yn gywir.

Dywedodd, “Mae wedi ei ddisgrifio fel ceisio taflu dwy nodwydd gwau at ei gilydd o bob ochr i Fôr yr Iwerydd a sicrhau bod y pwyntiau’n cwrdd, felly mae’n eithaf anodd.

“Ond drwy weithio fel tîm rydyn ni wedi dangos y gellir ei wneud ac rydyn ni wedi cadw ein safonau uchel i sicrhau bod yr pelydrau yn gwrthdaro’n union ble a phryd rydyn ni am iddyn nhw wneud hynny.

“A gobeithio y bydd hyn yn ein helpu i egluro pethau fel mater tywyll yn y pendraw,  y pethau sy’n ymddangos fel petaen nhw’n ffurfio’r rhan fwyaf o’r bydysawd ond na allwn eu gweld, am ryw reswm, ar hyn o bryd.”

Rhoddir y fedal hon, a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn 2004, i gydnabod a dathlu cyfraniad unigolyn i faes gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bwriad y Fedal yw anrhydeddu, cydnabod a dathlu cyfraniad arbennig unigolyn i’r diwydiant gwyddoniaeth a thechnoleg trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Ganed Rhodri Jones yn Sir Gaerfyrddin ond treuliodd ei blentyndod cynnar yn yr Iseldiroedd cyn i'r teulu symud i Gaergrawnt. Dychwelodd i Gymru yn 1989 i astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe. Parhaodd â'i astudiaethau yn Abertawe ac ennill PhD mewn Ffiseg Atomig a Laser. 

Dechreuodd ar bennod newydd ym 1996 gan ymuno â CERN i gyfrannu at hyrwyddo systemau diagnostig ar gyfer y Gwrthdarwr Hadron Mawr.

Mae wedi chwarae rhan amlochrog yn CERN, gan gynnwys ymchwilio i dechnegau arloesol ar gyfer nodweddu pelydrau gronynnau. Yn ogystal, roedd yn gyfrifol am weithredu ac actifadu'r system mesur hanfodol ar gyfer rheoli'r gronynnau yn effeithiol. Bu hefyd yn meithrin cydweithrediad mewn technoleg cyflymu ymhlith sefydliadau a phrifysgolion Ewropeaidd. Yn 2021, cymerodd Dr Jones swydd Pennaeth Adran y Pelydrau. 

Wrth astudio yn Abertawe, cyfarfu Dr Jones â'i wraig, Sharon, sy'n hanu o Flaenau Ffestiniog. Maen nhw’n byw yn Ffrainc gyda’u pedair merch, i gyd wedi eu magu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd yr hynaf, Fflur, sydd bellach yn byw yn Llundain, yn cystadlu gyda chôr yn yr Eisteddfod a bydd ei rhieni yn y gynulleidfa'n gwylio.

Yn ogystal â dilyn y côr yn y Pafiliwn, a derbyn y Fedal eleni, bydd yn traddodi darlith ar ddarganfod y Boson Higgs, a dyfodol y Gwrthdarwr Hadron Mawr, yn Y Sfferen, ym Mhentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod am 14:00 brynhawn Iau 8 Awst. 

Mae hefyd yn edrych ymlaen am gyfle i grwydro’r Maes a chyfarfod hen ffrindiau yn ystod ei ymweliad â Phontypridd ymhen ychydig wythnosau.

Cyflwynir y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg i Rhodri Jones am 12:30 brynhawn Iau, 8 Awst.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst. Am ragor o wybodaeth ac i brynu tocynnau, ewch i www.eisteddfod.cymru