Elena Grace, enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024
3 Awst 2024

Mae portffolio o baentiadau a ysbrydolwyd gan eitemau a adawyd yn ystafelloedd tŷ ei diweddar nain wedi ennill ysgoloriaeth fawreddog i artist ifanc yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Dyfarnwyd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 i'r artist Elena Grace o Gaerdydd.

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth er mwyn hybu celf a chrefft yng Nghymru. Dyfernir yr ysgoloriaeth i'r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei galluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf a dylunio cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr. Mae'r ysgoloriaeth yn agored i'r sawl dan 25 oed.

Cyflwynodd Elena bortffolio o baentiadau mewn olew i'r detholwyr eu hystyried ar gyfer yr Ysgoloriaeth. 

Dywedodd fod y paentiadau o bethau pob dydd yn adrodd stori y tu hwnt i ffrâm y llun.

"Mae'r lluniau'n adlewyrchu'r adeg pan symudais i dŷ fy nain wedi iddi farw a sut y bu i'r pethau a adawodd ar ei hôl fagu arwyddocâd.

"Mae'r paentiadau'n cynnwys isleisiau llwyd tawel a thechnegau brwsio meddal mewn olew, gan gyfeirio at ffotograffau personol a rhai a ddarganfuwyd. 

"Trwy beintio rwy'n ystyried fy sentimentaliaeth o leoliadau ac eiddo cyfarwydd. Chwilio am atgofion yn y mannau domestig cyffredin hyn. Meddwl amdanyn nhw fel ‘mannau tawel’ – golygfeydd cyffredin bob dydd, disylw. 

"Rwy'n tynnu pobl sy'n cael sylw yn y cyfeiriadau ond yn ceisio cynnwys delweddau fel cadeiriau, llyfrau agored, mygiau - gwrthrychau rhyngweithiol sy'n rhoi synnwyr o bresenoldeb - sy'n nodi bod person newydd adael y ffrâm. 

"Mae’r amwysedd hwn mewn bywyd yn adeiladu naratif y tu ôl i’r gwaith sy’n tynnu ar themâu’r cof ac ymlyniad at le." 

Dywedodd un o'r detholwyr, Ffion Rhys, am waith yr arlunydd, "Mae ei phaentiadau'n bortreadau sensitif hardd o olygfeydd domestig tawel, a'i dewis o balet o liwiau llwyd cynnes distaw yn creu llonyddwch synfyfyriol a lle i feddwl. 

"Mae hi'n darlunio corneli ystafelloedd, cyrtiau tennis gwag, sinciau ymolchi, byrddau a chadeiriau yn yr ardd, mẁg, a llyfr agored ar fwrdd, fel petai rhywun newydd ymadael. 

Mae Elena yn benderfynol o wneud enw iddi hi'i hun. Graddiodd gyda gradd BA dosbarth cyntaf mewn Celfyddyd Gain o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, rhan o Brifysgol Metropolitan y ddinas, ddwy flynedd yn ôl.

"Rwy’n gobeithio dilyn cwrs gradd meistr yn Llundain y flwyddyn nesaf ac fe fydd yr ysgoloriaeth yn mynd tuag at y ffioedd hynny,” meddai. 

Eleni yw'r tro cyntaf i Elena gyflwyno gwaith i'r Eisteddfod Genedlaethol ac ychwanegodd fod hynny wedi bod yn uchelgais iddi ers blynyddoedd.

"Roedd Mam a Nain yn cymryd diddordeb yn yr Eisteddfod ac rwyf wedi bod yn Y Lle Celf sawl gwaith, mae'n ddigwyddiad cyffrous," meddai.

Ers cyflwyno gwaith i'r Eisteddfod mae wedi curadu arddangosfa ym Mae Caerdydd a chydweithredu mewn arddangosfa yng nghanol y ddinas.

Ar ôl yr Eisteddfod fe fydd yn paratoi gwaith ar gyfer arddangosfa yn Turner House, Penarth fydd yn agor fis Chwefror 2025.

Yn ogystal â'r ysgoloriaeth o £1,500 bydd Elena yn cael cynnig gofod i arddangos ei gwaith yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam y flwyddyn nesaf.

Bydd Y Lle Celf ar agor ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst. Am fwy o fanylion ewch i www.eisteddfod.cymru