Cowbois Rhos Botwnnog yn ennill Albwm Cymraeg y Flwyddyn
9 Awst 2024

Enillwyr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024 yw Cowbois Rhos Botwnnog am eu halbwm, ‘Mynd â’r tŷ am dro’

Mae'r band yn cynnwys tri brawd, Iwan, Aled a Dafydd Hughes, yn wreiddiol o ardal Botwnnog ym Mhen Llŷn.

Dyma eu chweched record hir, gyda'r arddull yn parhau i arbrofi gyda cherddoriaeth werin, gwlad a roc amgen,. Mae'r albwm yma'n dilyn llwyddiant ‘Yn Fyw! Galeri Caernarfon’ a ryddhawyd y llynedd.

Cafodd yr albwm ei recordio yn Stiwdio Sain, Llandwrog, gyda’r brodyr eu hunain yn cynhyrchu.

Maen nhw wedi teithio’n helaeth yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Lloegr, yr Alban, Iwerddon, yr Ariannin, y Ffindir a Fietnam ac wedi chwarae mewn gwyliau fel Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Wakestock, No Direction Home, Eisteddfod Genedlaethol a Focus Wales.

Y tu allan i’r band, mae aelodau unigol wedi teithio gydag actau fel Gruff Rhys, Gwenno a Georgia Ruth, gan ymddangos yng ngŵyl Glastonbury, Latitude, Hyde Park, Primavera a Gŵyl Kala Ghoda ym Mumbai.

Derbyniodd yr enillwyr dlws a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y wobr eleni gan Tony Thomas, crefftwr yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae'r wobr, a drefnir gan yr Eisteddfod a BBC Radio Cymru, yn dathlu'r cymysgedd eclectig o gerddoriaeth Gymraeg a recordiwyd ac a ryddhawyd yn ystod y flwyddyn.

Yr albwmau a gyrhaeddodd y rhestr fer eleni oedd:

  • Amrwd - Angharad Jenkins a Patrick Rimes 
  • Bolmynydd - Pys Melyn 
  • Caneuon Tyn yr Hendy - Meinir Gwilym 
  • Dim dwywaith - Mellt
  • Galargan - The Gentle Good 
  • Llond Llaw - Los Blancos 
  • Mynd â’r tŷ am dro - Cowbois Rhos Botwnnog
  • Sŵn o’r stafell arall - Hyll 
  • Swrealaeth - M-Digidol 
  • Ti ar dy ora’ pan ti’n canu - Gwilym

Y beirniaid eleni oedd Gruffudd Jones, Tomos Jones, Gwenno Morgan, Keziah O' Hare, Mared Thomas ac Owain Williams.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd tan 10 Awst. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.eisteddfod.cymru.