Beth am gychwyn wythnos yr Eisteddfod yn egnïol a llawn bywyd drwy ymuno â Dr Dafydd Trystan Davies i redeg 5k yn ardal Pontypridd?
Yn arweinydd rhedeg profiadol sy’n wreiddiol o Aberdâr, mae Dafydd wedi trefnu’r daith anffurfiol, sy’n cychwyn o Barc Ynysangharad, cartref yr Eisteddfod eleni, i ddathlu dyfodiad y brifwyl i Rhondda Cynon Taf.
Dywed, “Taith anffurfiol a chymdeithasol fydd hon ac mae croeso mawr i bawb. Does dim ots pa mor gyflym neu araf y’ch chi’n rhedeg, ond dylech chi fod yn hapus i redeg 5km.
“Gobeithio y cawn ni gymysgedd dda o bobl leol ac Eisteddfodwyr ar y daith, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ei harwain ac at groesawu pawb i’r Eisteddfod.”
Mae angen cofrestru ar gyfer y daith er mwyn cael cofnod o bawb fydd yn rhedeg. Gellir gwneud hyn yn rhad ac am ddim drwy fynd i 5km Eisteddfod Pontypridd at Parc Ynysangharad event tickets from TicketSource. Bydd angen bod y tu allan i brif fynedfa’r Eisteddfod ger llyfrgell y dref am 08:45 a bydd y daith i hun yn cychwyn am 09:00.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf o 3-10 Awst. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.