Coleg y Cymoedd: Darparwr Addysg Bellach blaenllaw yn ne Cymru
Fel darparwr addysg bellach blaenllaw yn Ne Cymru, mae Coleg y Cymoedd yn gwasanaethu mwy na 9,000 o ddysgwyr o Gaerffili, Rhondda Cynon Taf a thu hwnt. Ffurfiwyd y coleg yn 2013 drwy uno Coleg Ystrad Mynach a Choleg Morgannwg ac yn ddiweddar dathlodd ei ben-blwydd yn 10 oed; deng mlynedd o ragoriaeth ac arloesedd.
Mae’r coleg yn cynnig ystod amrywiol a chyffrous o gyrsiau a chymwysterau, o’r dewis mwyaf o gymwysterau Safon Uwch ar un safle ar gyfer dros 300 o ddysgwyr, i hyfforddiant galwedigaethol a phrentisiaethau sy’n paratoi dysgwyr ar gyfer y byd gwaith.
Mae ganddo bedwar campws - Aberdâr, Nantgarw, Rhondda, ac Ystrad Mynach - a thîm o 850 o staff ymroddedig a phrofiadol.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r coleg wedi cyflawni ei ganlyniadau gorau erioed, gyda thri dysgwr yn sicrhau lleoedd yng Nghaergrawnt a Rhydychen a’r nifer uchaf erioed o gynigion gan brifysgolion Grŵp Russell.
Hefyd, fe wnaeth y coleg wella ei raddau A*-C o 63.5% yn 2019 i 86.2% yn 2023, a chynyddodd y graddau A*-A o 11.9% i 36%. Cwblhawyd dros 1,200 o gymwysterau mewn darpariaeth Lefel 3, gan ddangos safonau uchel y dysgwyr.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Coleg y Cymoedd wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf i uwchraddio ei gyfleusterau i gyd-fynd â safonau diwydiant.
Mae gan y coleg offer o’r radd flaenaf, fel VR a roboteg, gweithdai paentio ac addurno, ceginau hyfforddi, a Chanolfan Ragoriaeth Chwaraeon yn Nantgarw a enillodd ‘Prosiect y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Adeiladau Addysg ym mis Mehefin 2024.
Mae Coleg y Cymoedd hefyd yn falch o’i hunaniaeth a’i ddiwylliant Cymreig ac yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru ym mhob agwedd ar ei waith.
Mae’n cyfrannu at weledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 drwy ei Strategaeth Iaith Gymraeg, sy’n anelu at:
- Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ymhlith ei ddysgwyr a'i staff
- Darparu cyfleoedd i ddysgwyr astudio yn Gymraeg neu'n ddwyieithog
- Sicrhau bod gwasanaethau a chyfleusterau'r coleg yn hygyrch yn y Gymraeg.
Gan weithio mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae Coleg y Cymoedd yn ariannu darlithwyr cyfrwng Cymraeg a hwyluswyr y Gymraeg.
Hefyd, mae Tim y Gymraeg yn cynnwys Llysgenhadon y Gymraeg sef myfyrwyr sy’n gwirfoddoli i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn eu meysydd astudio.
Mae'r coleg yn cynnig rhai cyrsiau galwedigaethol a addysgir yn ddwyieithog. Mae’r cyrsiau hyn yn helpu’r dysgwyr ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yng nghyd-destun eu maes galwedigaethol ac i ymgyfarwyddo ag amgylchedd gwaith dwyieithog.
Hefyd, mae cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu a defnyddio’u Cymraeg mewn awyrgylch mwy anffurfiol ac allgyrsiol gyda Chwtsh Cymraeg ar bob campws. Yn ogystal a hyn, anogir a datblygir cyfleoedd i'n staff fagu hyder yn eu Cymraeg.
Mae Coleg y Cymoedd hefyd yn trefnu ac yn cymryd rhan mewn amryw o ddigwyddiadau a gweithgareddau Cymreig, megis Eisteddfodau, Dydd Miwsig Cymru, a Diwrnod Shwmae Su'mae.
Mae’r digwyddiadau a’r gweithgareddau hyn yn agored i bawb ac yn anelu at ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a diwylliant Cymraeg. Mae'r coleg yn gweithio gyda phartneriaid allanol, fel yr Urdd, Mentrau Iaith, a'r Eisteddfod Genedlaethol, i gefnogi a hyrwyddo eu mentrau Cymraeg.
Noddwr Caffi Maes B 2024: