Danswyr
28 Gorff 2024

Mae pawb yn ymwybodol o’r chwedl Wyddelig, Nia Ben Aur, sydd mor agos at ein calonnau ni yma yng Nghymru, diolch i waith y bardd T Gwynn Jones, a’r ffaith mai’r chwedl oedd thema’r opera roc gyntaf i’w pherfformio yn y Gymraeg union hanner can mlynedd yn ôl

Bydd y berthynas rhwng y ddwy wlad Geltaidd yn cael ei hamlygu ymhellach yn addasiad newydd yr Eisteddfod o Nia Ben Aur eleni.

Bydd dawnswyr o'r Iwerddon yn chwarae rhan flaengar yn y sioe, a gynhelir nos Sadwrn a Llun 3 a 5 Awst ym Mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd.

Mae Bardd Plant Cymru, Nia Morais, wedi creu sgript newydd sbon ar gyfer sioe Nia Ben Aur gyda threfniannau cerddorol newydd gan Patrick Rimes a Sam Humphreys a’i ail-ddychmygu gan y Cyfarwyddwr Angharad Lee. 

Mae’r perfformiad yn cynnwys trefniannau corawl gan Richard Vaughan a fydd yn cael eu perfformio gan gôr yr Eisteddfod.

Bydd Afon Dance, grŵp dawnsio cymunedol lleol a dawnswyr stepio hefyd yn ymuno â’r tîm ynghyd â chast proffesiynol i ddod â chymeriadau chwedlonol Nia Ben Aur yn fyw. 

Ochr yn ochr â’r actorion a’r offerynwyr Cymreig proffesiynol, bydd y dawnswyr Gwyddelig, Nicola Kilmurry, o Ddulyn a Tadhg Quigley Brennan, o Donegal (trwy Six Collective). 

Y mis diwethaf, cyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol bartneriaeth newydd gydag Ulster Touring Opera a Six Dance Collective i gyflwyno dawnswyr ar gyfer yr addasiad newydd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod, Elen Elis, "Mae’n hyfryd cydweithio â chwmnïau ac artistiaid sy’n gweithio ar draws ffiniau Iwerddon wrth adrodd y stori adnabyddus hon, hanner canrif ar ôl perfformiad gwreiddiol Nia Ben Aur yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin yn 1974."

Mae Nicola Kilmurry yn ddawnsiwr amryddawn mewn arddulliau amrywiol. 

Tra yn Central School of Ballet yn Llundain perfformiodd mewn llawer o theatrau ar draws Prydain. Ers graddio haf diwethaf mae hi wedi bod yn gweithio gyda Ballet Ireland a nawr Six Dance Collective. 

Dechreuodd Tadhg Quigley Brennan ddawnsio'n 10 oed. Wedi graddio ymunodd â Ballet Ireland ac yn ddiweddar mae wedi archwilio dawns ar gyfer ffilm gyda’r band Gwyddelig A Lazarus Soul.

Ulster Touring Opera yw’r unig gwmni opera teithiol trawsffiniol pwrpasol ar ynys Iwerddon. Maent wedi derbyn canmoliaeth mawr ar gyfer ei rhaglen arloesi i ddod ag opera i phob cymuned.

Dafydd Hall Williams sefydlodd Ulster Touring Opera ac mae ganddo gysylltiad Cymreig cryf gan ei fod yn ŵyr i T Gwynn Jones.

Fel cyfarwyddwr a chyfarwyddwr staff mae Dafydd wedi gweithio gyda chwmnïau ar draws y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. 

Sefydlwyd Six Dance Collective gan y coreograffydd Ruaidhrí Maguire o’r awydd i amlygu cynulleidfaoedd ac artistiaid yng Ngogledd Iwerddon i’r cyfoeth a’r amrywiaeth y gall dawns ei gynnig i straeon cyfoes ochr yn ochr â chyflwyno repertoire clasurol poblogaidd.

Stori Wyddelig adnabyddus yw Nia Ben Aur. Mae Nia (Niamh) yn syrthio mewn cariad ag Osian (Oisín) ac yn mynd i Tír na nÓg - gwlad ieuenctid - i briodi.

Maen nhw’n byw’n hapus yn Nhir na nÓg am dair blynedd ond mae hiraeth ar Osian ac mae'n dymuno gadael y deyrnas hudol i ymweld â'i deulu yn Iwerddon. Yn bendant mae llawer mwy i’r stori a daw hynny'n amlwg yn yr addasiad newydd o’r stori eiconig hon fydd yn cael ei pherfformio ar lwyfan y Pafiliwn. 

Mae tocynnau ar gyfer y ddau berfformiad wedi gwerthu allan.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd o 3-10 Awst. Am fwy o fanylion ewch i eisteddfod.cymru.