Mae'n arferiad yma yng Nghymru i ganu'r anthem genedlaethol ar ddiwedd achlysur arbennig, ond bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn mynd gam ymhellach i gloi'r Brifwyl eleni gyda phremiere byd o waith cerddorol newydd
Perfformiad anthemig, dan arweiniad y cyfansoddwr, Eilir Owen Griffiths, yw ‘Gwlad Gwlad!’ i ddathlu campwaith Evan a James James, y tad a mab o Bontypridd, fydd yn cloi’r wythnos ym Mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.
Bydd ensemble o gantorion talentog, i gyd yn gyn-enillwyr, yn ymuno â grŵp siambr o Sinffonia Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru i ganu geiriau beirdd lleol - Aneirin Karadog, Delwyn Siôn, Christine James a Mari George - yn y cyflwyniad.
Dywedodd Eilir ei fod yn gobeithio y bydd y gynulleidfa yn sefyll ar ei thraed ac yn ymuno â’r gerddorfa a'r cantorion i gyd-ganu gosodiad newydd o ‘Hen Wlad fy Nhadau’.
"Mae gennym ni anthem sy'n cynhyrfu'r gwaed, mae gyda'r gorau yn y byd ac mae ei chanu wastad yn angerddol. Mae’r gwaith newydd yma’n ceisio ail-greu'r cynnwrf gydag adrannau rhythmig sy’n gwthio'r lleisiau," meddai.
Bu Eilir yn cyfansoddi'r gerddoriaeth i'w gosod i gerddi comisiwn gan y beirdd sydd wedi'u hysbrydoli gan yr anthem genedlaethol.
Ychwanegodd Eilir: "Mae'r beirdd wedi dewis un gair a chanolbwyntio eu cerddi ar hynny. Mae Mari George, er enghraifft, wedi dewis y gair 'Rhyddid' ac mae ei cherdd yn son am bwysigrwydd sefyll ar ein pen ein hunain. Mae'r gerddoriaeth yn werinol ac anthemig.
"Dewisodd Aneirin Karadog ganolbwyntio ar y gair 'Bydded' gyda'r gair yn cael ei ail-adrodd drosodd a throsodd ac mae'r gerddoriaeth yn ffanfferig.
"Mae geiriau Christine James yn fendigedig wrth iddi ystyried y geiriau 'Gwlad fy Nhadau' ac yn ein hatgoffa fod 'Mamau' yn bwysig hefyd, gan sôn am ystod o fenywod sy'n cynnwys Gwenllian a Shirley Bassey.
"’Gwlad’ oedd dewis Delwyn Siôn gyda hyn yn gyfle i gamu’n ôl i fyd alawon gwerin a chwedlau ac mae'r gerddoriaeth yma'n arwain yn uniongyrchol at yr anthem. Rydw i wedi ail-drefnu'r anthem ond nid fersiwn newydd mohoni. Y gobaith yw fy mod i wedi adeiladu ar yr hyn sy’n bodoli’n barod gyda harmonïau newydd."
Dywedodd fod yr ensemble o wyth - Cai Fôn, Celyn Cartwright, Gwïon Morris Jones, Meinir Wyn Roberts, Llinos Haf Jones, Eirlys Myfanwy, Meilir Jones a Huw Aeron - yn canu gyda'i gilydd a hefyd yn unigol yn ystod y perfformiad.
Bydd Cai, Celyn a Gwïon, enillwyr cystadlaethau llefaru yn yr Eisteddfod, hefyd yn adrodd yn ystod ‘Gwlad Gwlad!’
Mae Eilir Owen Griffiths yn un o arweinwyr corawl mwyaf deinamig Cymru, yn gyfarwyddwr cerddoriaeth sefydledig ac yn gyfansoddwr arobryn.
Gyda thros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant cerddoriaeth, mae wedi arwain corau fel CF1 a Chôr Godre'r Garth ac yn gynharach eleni, enillodd gystadleuaeth Côr Cymru gyda Chôr Ifor Bach.
Mae wedi teithio ledled y byd fel arweinydd, ac wedi cyfansoddi cerddoriaeth i nifer o artistiaid ac ensembles amlwg gan gynnwys Syr Bryn Terfel a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Fel addysgwr mae'n Uwch ddarlithydd Celfyddydau Perfformio ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ers 2005, ac yn 2021, sefydlodd Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA).
Bydd ‘Gwlad Gwlad!’ yn dechrau yn y Pafiliwn am 19:30 nos Sadwrn, 10 Awst, gan gloi Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, a gynhelir ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd. Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.