Mae'r paratoadau wedi’u cwblhau, y giatiau ar agor a phawb yn heidio dros Afon Taf i Barc Ynysangharad ar ddiwrnod agoriadol yr Eisteddfod, gobeithio
Ond lle i fynd a beth i'w weld? Dyma rai o bigion y dydd i chi eu mwynhau.
Lle gwell i gychwyn yr Eisteddfod na'r Pafiliwn? Bydd cystadlaethau’n dechrau'n gynnar gyda'r bandiau pres Dosbarthiadau 2 a 3 yn cymryd eu lle ar y llwyfan.
Bydd cystadleuaeth bandiau pres Dosbarth 4 yn dilyn ddechrau’r prynhawn, ac yn ddiweddarach cawn gystadlaethau dawnsio unigol a llefaru unigol o dan 12 oed.
Cystadleuaeth boblogaidd yw Cystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru fydd yn dechrau am 15:05. Bydd y corau wedi cymryd rhan mewn o leiaf ddwy Eisteddfod leol ers mis Mai llynedd i ennill yr hawl i gystadlu yn y Brifwyl. Y wobr gyntaf yw Cwpan Miss Menai Williams a Mrs Nesta Davies.
Yn cloi'r digwyddiadau yn y Pafiliwn cyflwynir enillwyr y Celfyddydau Gweledol am 17:00.
Disgyblion ysgolion lleol ac Elinor Wyn Reynolds sy'n agor y Babell Lên yn swyddogol gyda pherfformiad o'r Cywydd Croeso gan y prifardd, Aneirin Karadog, am 10:30.
Yn ddiweddarach heddiw bydd timau o feirdd yn mynd benben yn rownd derfynol cyfres farddol BBC Radio Cymru, ‘Y Talwrn’. Dyma un o sioeau mwyaf poblogaidd yr wythnos a chyntaf i'r felin gaiff sedd!
Bydd nifer o unigolion a grwpiau gwerin mwyaf blaengar Cymru yn ymddangos yn y Tŷ Gwerin yn ystod yr wythnos. Cyfle Carreg Lafar fydd hi i gyflwyno eu cymysgedd o gerddoriaeth draddodiadol a gwreiddiol.
Mae'r grŵp wedi bod yn rhan o'r sin werin ers 1995, yn defnyddio offerynnau traddodiadol a chyfoes gan gynnwys ffidil, ffliwt, pibgorn, pibau a gitâr ynghyd â llais. Maen nhw wedi rhyddhau pedwar albwm gyda Recordiau Sain, y mwyaf diweddar, 'Aur', yn 2017.
Bu'r Eisteddfod Genedlaethol yng nghymoedd y Rhondda, Cynon a'r Taf sawl gwaith yn y gorffennol gyda'r gyntaf yn Aberdâr yn 1861. Y dref hon oedd cartref yr Eisteddfod y tro diwethaf iddi ymweld â'r ardal yn 1956.
Yn Tipi Maes D, sef pentref y dysgwyr, am 11:00 bydd Helen Prosser, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni, yn rhoi sgwrs am hanes Eisteddfodau Cenedlaethol yr ardal yn ogystal â chip tu ôl y llen ar drefniadau Eisteddfod 2024.
Bydd cyfle i gael paned gyda Betsan Moses ym mhabell Llywodraeth Cymru am 13:45. Cewch ddod i adnabod Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol a chlywed am ei blaenoriaethau.
Hon fydd y gyntaf o gyfres o sgyrsiau yn y babell hon drwy gydol yr Eisteddfod. Bydd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol; Siân Lewis, Urdd Gobaith Cymru; Dr Ioan Matthews, Coleg Cymraeg Cenedlaethol; Dr Gwenllian Lansdown Davies, o'r Mudiad Meithrin; Myfanwy Jones, Mentrau Iaith Cymru; Mared Jones, CFfI a Tegwen Morris, Merched y Wawr, hefyd yn cymryd rhan yn ystod yr wythnos.
Un o fawrion cerddorol y Cymoedd oedd y canwr opera Syr Geraint Evans a bydd aelodau ei deulu yn rhannu eu hatgofion am fywyd a gyrfa'r bariton nodedig o Gilfynydd yn Encore am 13:00.
Allwch chi redeg yn gyflymach na cheffyl? Dewch i weld! Mewn teyrnged i Guto Nyth Brân yr athletwr o Lwyncelyn bydd ras geffylau arbennig iawn yn cael ei chynnal ar Sgwâr y Pentre am 13.30.
Canwr gwerin o Bontarddulais yw Danny Sioned a bydd yn perfformio cymysgedd o'i chaneuon gwreiddiol a rhai gwerin Cymraeg traddodiadol yn Paned o Gê. Ewch i wrando am 15:00.
Ac mae o Yma o Hyd! Bydd Dafydd Iwan yn ymddangos ddwywaith ar y Maes yn ystod y dydd. Ceir cyflwyniad byr gan y canwr bytholwyrdd yn y Tipi am 16:30 cyn iddo ymuno a'i fand - Hefin Elis (gitâr bas), Pwyll ap Siôn (allweddell), Deian Elfryn (drymiau), Wyn Pearson (gitâr flaen) ac Euros Rhys (allweddell) – ar Lwyfan y Maes am 21:00 i ganu detholiad o'i ganeuon mwyaf poblogaidd, ac ambell un fydd yn newydd i lawer yn y gynulleidfa.
Bydd Eryl Crump yn rhannu'i ddewis o bigion y dydd ar gyfer y diwrnod canlynol bob noson. Ydych chi'n cytuno â dewis Eryl o beth i'w weld a'i wneud ar y Maes?