Eryl Crump - 3 Awst 2024

Yn 1861, Alaw Goch oedd un o ffigyrau mwyaf blaenllaw'r gwaith o drefnu Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr, carreg filltir bwysig yn natblygiad yr Eisteddfod fel y Brifwyl gyntaf ar gyfer Cymru gyfan

Roedd Alaw Goch, neu David Williams, yn berchennog pyllau glo yn Aberdâr yn ogystal â bod yn gefnogwr brwd i ddiwylliant Cymru a'r Eisteddfod. A heno, daw ’nôl yn fyw i drafod ei fywyd a’i yrfa! 

Mae Cwmni Ad/Lib Cymru yn cyflwyno ‘Noson yng nghwmni Alaw Goch’ gyda Ieuan Rhys a Danny Grehan yn y Tipi am 18:45. Bydd y cyflwyniad yn cael ei ailadrodd ddydd Mawrth a dydd Iau am yr un amser.

’Sgwn i be fyddai Alaw Goch yn ei feddwl o’r Eisteddfod yn y flwyddyn 2024?

Bydd yr awdur a’r darlunydd o’r Rhondda, Siôn Tomos Owen, yn darllen saith stori fer dros yr wythnos, un y dydd, o’i ail gyfrol o straeon byrion i ddysgwyr lefel sylfaen.

Mae 18 stori yn y gyfrol 'Y Fawr a’r Fach 2: Mwy o Straeon o’r Rhondda' gyda phob un wedi ei seilio ar bentrefi’r Rhondda Fawr a’r Fach ac yn llawn hanesion a helyntion doniol Siôn a’i fagwraeth yng Nghwm Rhondda.

Cewch ei glywed yn rhannu ei straeon yn y Tipi am 14:00 o heddiw tan ddydd Sadwrn.

Bydd diwrnod llawn o gystadlu yn y Pafiliwn gyda phencampwriaeth y bandiau pres a'r Rhuban Glas offerynnol o dan 16 oed yn denu'r sylw. Yn ogystal, ceir cystadlaethau unawd cerdd dant, alaw werin ac unawd, ill tri o dan 12 oed, a chystadleuaeth côr newydd i’r Eisteddfod yn ystod y prynhawn.

Mae cyfle i weld clipiau o Rondda Cynon Taf o archif y BBC yn y Sinemaes am 13:00. Yna am 15:00 mae dangosiad o glipiau o’r Archif Sgrin a Sain sy’n berthnasol i’r sir; curadwyd y dangosiadau gan grwpiau o'r gymuned, felly fe fydd blas gwahanol i'r clipiau drwy'r wythnos.

Yn y Pentref Plant drwy'r dydd, a thrwy'r wythnos, bydd cyfle i eisteddfodwyr ifanc ddysgu sgiliau newydd fel jyglo, diablo, troelli platiau a chylch hwla yn ogystal â gwneud gweithgareddau fel adeiladu den, hamocs a rhostio malws melys.

Bydd sesiwn deyrnged i’r diweddar Gareth Miles, awdur, swyddog undeb athrawon ac un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith, yn y Babell Lên heddiw. Bu farw fis Medi llynedd yn 85 mlwydd oed. 

Yn enedigol o Gaernarfon, cafodd ei fagu ym mhentref cyfagos Waunfawr cyn ymgartrefu ym Mhontypridd. Bu'n athro Saesneg a Ffrangeg cyn dod yn drefnydd cenedlaethol Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC). Fe enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2008 am ei nofel ‘Y Proffwyd a'i Ddwy Jesebel’.

Bydd Eifion Glyn yn hel atgofion amdano ac yn trafod ei waith a'i fywyd gyda Lisabeth Miles, Hywel Griffiths ac Angharad Tomos yn y Babell Lên am 12:30. 

Ar y Maes tua 14:00, ac eto am 17:00, bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac Amped Up Academy, Penrhys yn cyflwyno 'Breuddwydion'.

Crëwyd y ddawns hwyliog gan bobl ifanc yr academi a’r artistiaid symud Sandra Harnishch-Lacey a Kyle Stead i ofyn y cwestiwn pwysig - beth yw eich breuddwydion?

Mae Amped up Academy yn rhan o brosiect Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ‘Tu Hwnt i’r Gofyn’, sydd â’r nod o greu newid cadarnhaol ym mhentref Penrhys drwy weithgareddau diwylliannol, dan arweiniad lleisiau yn y gymuned.

Eädyth fydd yn sgwrsio gyda'r darlledwr Huw Stephens yn y Babell Lên am 16:00 am ei lyfr diweddar, Cymru: 100 Record (Y Lolfa), sy'n dadansoddi recordiau poblogaidd a diddorol artistiaid Cymru, yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Ymysg ffefrynnau Huw mae recordiau gan Tom Jones, Shirley Bassey, Dafydd Iwan, Max Boyce, Datblygu, Maffia Mr Huws, Llwybr Llaethog, Manic Street Preachers, Super Furry Animals, Adwaith a Mace the Great

Ac i gloi diwrnod prysur ar y Maes beth am fynd draw i'r Babell Lên am 19:30 i chwerthin yn iach gyda rhai o ddigrifwyr gorau Cymru?

Tudur Owen fydd yn cloi awr o hwyl gyda Dan Thomas, Caryl Burke, Eleri Morgan a Carwyn Blayney.